Arfordir Penfro

Arfordir Penfro Trosolwg

  • Arfordir Penfro Trosolwg

  • Cwmpas: Ar draws De a Chanolbarth Cymru
  • Maint: Parc Cenedlaethol 232.5 milltir sgwâr. Sir Benfro 614 milltir sgwâr.
  • Pwynt Uchaf: Foel Cwmcerwyn 536m
  • Prif Safleoedd i Syllu ar y Sêr: Martins Haven
  • Adeg gorau i syllu ar y sêr: Medi - Chwef

Ar arfordir gwyllt a garw Sir Benfro ceir rhai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosib  gweld y Llwybr Llaethog neu'r cytserau fel Orïon gyda'r llygad noeth.
Bu Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i sefydlu mwclis o Safleoedd Canfod Awyr Dywyll o amgylch yr arfordir; dyma’r dynodiad a gydnabyddir yn genedlaethol fel y mannau gorau i Syllu ar y sêr ar draws y DU. 

Lle bynnag yr ydych yn Sir Benfro, nid ydych ymhell oddi wrth un o'r safleoedd hyn, sy'n cynnig awyr dywyll a mynediad hawdd. Mae rhai hefyd yn cynnal digwyddiadau awyr dywyll arbennig i roi gwell dealltwriaeth i chi i fyd Syllu ar y sêr a gweithgareddau eraill ar ôl iddi dywyllu.

Golyga lleoliad Arfordir Penfro ym mhen de-orllewinol Cymru ei fod mewn lle da i osgoi llawer o'r llygredd golau sy'n difetha rhannau mawr o’r DU, ac mae'n cynnig awyr sy’n sylweddol dywyllach na llawer o ardaloedd.  Ychwanegwch at hyn y dimensiwn ychwanegol o allu gweld awyr y nos wrth i chi edrych allan i'r môr a byddwch yn gweld pam fod yr ardal yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n chwilio am awyr dywyll, llonyddwch a heddwch. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi ymrwymo i leihau llygredd golau er mwyn helpu i leihau’r defnydd o ynni a diogelu'r amrywiaeth eang o fywyd gwyllt nosol rhyfeddol sy'n ffynnu dan yr awyr dywyll hon.

Safleoedd Gorau i Syllu ar y Se

Eisiau gwneud y gorau o awyr dywyll anhygoel Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro? Dyma rai o’r llefydd gorau i weld y sêr.

Maes Parcio Parc Cenedlaethol Skrinkle Haven

Mae'r maes parcio yn Skrinkle Haven wedi ei osod mewn ardal laswelltog lydan, agored gyda gwelededd da iawn i bob cyfeiriad. Mae’r awyr yn ymddangos yn arbennig o dda i'r de gan fod llai o lygredd golau gwasgaredig allan i'r môr, yn ddigon pell oddi wrth ardaloedd trefol adeiledig. Mae hostel ieuenctid yn yr ardal gyfagos, a theithiau cerdded dewisol ar hyd Llwybr yr Arfordir. Mae hwn yn safle da ar gyfer gwylio awyr deheuol neu awyr y gogledd, gan ei fod yn caniatáu gweld gwrthrychau anodd mewn cytserau fel Planed y Saethydd a Sgorpio yn ystod misoedd yr haf a'r hydref.
Parcio: Maes parcio cyhoeddus
Ffôn gyhoeddus agosaf: Skrinkle Estate (SS0750597898), 1.1 filltir
Cyfleusterau: Hostel Ieuenctid gerllaw. Toiledau agosaf (SS06340 97706) Maes parcio traeth Maenorbŷr.

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Maes Parcio Cyhoeddus
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Skrinkle Estate (SS0750597898), 1.1 milltir
  • Cyfleusterau: Toiledau Cyhoeddus (SS06340 97706) Maes Parcio Traeth Manorbier. Hostel Ieuenctid gerllaw.

Maes Parcio Ymddiriedolaeth Genedlaethol De Aberllydan

Lleoliad clir, gwych ar ben clogwyn trawiadol yn cynnig panorama 360 gradd o awyr y nos. Ceir golygfeydd ardderchog o'r dwyrain de-ddwyrain i'r gorllewin gogledd-orllewin gyda'r môr fel gorwel, sy’n gwneud hwn yn safle ardderchog. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal digwyddiadau awyr dywyll arbennig yng Nghanolfan Ystagbwll gerllaw. Mae'r safle hwn yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae ganddo gyfleusterau toiled.
Parcio: Maes parcio cyhoeddus
Ffôn cyhoeddus agosaf: Bosherston (SR9659194590), 1.25 milltir
Cyfleusterau: Toiledau cyhoeddus

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Maes Parcio Cyhoeddus
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Bosherston (SR9659194590), 1.25 miles
  • Cyfleusterau: Toiledau Cyhoeddus

Maes Parcio Ymddiriedolaeth Genedlaethol Kete

Maes parcio mawr gydag arwyneb solet ar y brif ardal a gwelededd da i bob cyfeiriad, ond yn arbennig o dda i'r gorllewin a'r de-orllewin oherwydd bod y cyfeiriadau hyn yn edrych allan i'r môr ac yn dioddef llai o lygredd golau gwasgaredig o ardaloedd adeiledig. Mae’n bosib gweld fflachiadau o'r goleudy i’r de, ond nid yw hyn yn achosi problem sylweddol. Ceir bwrdd gwybodaeth sy’n sôn am gyd-destun hanesyddol yr ardal. Mae'n hawdd gyrru heibio'r maes parcio yn y nos - dylai ymwelwyr chwilio am yr arwydd sy’n nodi 'dim lle troi ar ôl y pwynt hwn’, sydd yn syth ar ôl y fynedfa i'r maes parcio.
Parcio: Maes parcio cyhoeddus
Ffôn cyhoeddus agosaf: Dale (SM8112905664) 4.4km
Cyfleusterau: Dim. Toiledau agosaf yn Dale (SM8110005700) 2.7 milltir

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Maes Parcio Cyhoeddus
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Dale (SM8112905664) 4.4km
  • Cyfleusterau: Dim

Maes Parcio Ymddiriedolaeth Genedlaethol Martins Haven

Maes parcio mawr gyda gwelededd da i bob cyfeiriad, yn mwynhau awyr dywyll iawn gydag ychydig iawn o lygredd golau lleol. Oherwydd y safle uchel a lleoliad anghysbell ar bentir, mae’r awyr yn dywyll iawn yma, gydag ychydig iawn o lygredd golau lleol, er weithiau gall llongau cyfagos fod yn ffynhonnell. Ceir hefyd y dewis o gerdded allan ar Wooltack Point, a fyddai'n lleoliad diddorol yn y nos ar gyfer ffotograffiaeth hir-amlygiad.
Parcio: Maes parcio cyhoeddus
Ffôn gyhoeddus agosaf: Ffôn argyfwng ar y safle. Ffôn agosaf wedyn yn Marloes (SM7927608514) 3.1 filltir
Cyfleusterau: Toiledau cyhoeddus

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Maes Parcio Cyhoeddus
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Ffôn argyfwng ar y safle. Ffôn nesaf yn Marloes (SM7927608514) 3.1 milltir
  • Cyfleusterau: Toiledau Cyhoeddus

Traeth Niwgwl a Maes Parcio Parc Cenedlaethol

Mae Niwgwl yn draeth hir sy'n wynebu'r de-orllewin gyda sawl maes parcio ar ei hyd. Y lleoliad a argymhellir yw un ar y traeth oddi ar faes parcio deheuol 'Pebbles'. Fodd bynnag, nid yw'r traeth yn addas i ddefnyddwyr llai abl ac mae’r maes parcio yn cynnig safle gwylio amgen. Ceir golygfa dda i bob cyfeiriad gyda golwg ddirwystr glir ar lawer o'r awyr, i ffwrdd oddi wrth ffynonellau sylweddol o lewyrch awyr, ond mae ychydig o ffynonellau golau gweladwy i’w gweld yma. Yn yr haf, mae llwybr pren gyferbyn â'r maes parcio yn arwain at gopa'r draethell.
Parcio: Maes parcio cyhoeddus
Ffôn cyhoeddus agosaf: Tu allan i dafarn y Duke of Edinburgh (SM8482622129), Niwgwl 1 filltir
Cyfleusterau: Toiledau cyhoeddus. Byrddau picnic yn y maes parcio cyhoeddus tua’r gogledd

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Maes Parcio Cyhoeddus
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Tu allan tafarn y 'Duke of Edinburgh' (SM8482622129), Niwgwl 1 milltir
  • Cyfleusterau: Toiledau cyhoeddus. Byrddau picnic yn y maes parcio nesaf tua'r gogledd.

Maes Parcio Ymddiriedolaeth Genedlaethol Garn Fawr

Wedi’i leoli ger pen ucha’r ffordd rhwng y Garn Fawr a Garn Fechan, mae'r safle uchel a’r lleoliad anghysbell yn rhoi golygfeydd da o'r awyr, heb fawr o lygredd golau lleol. Mae'r ardal parcio, er ar rywfaint o lethr, gyda wyneb da. Cynigia'r bryniau cyfagos gefnlen ddiddorol hyd yn oed os ydynt yn lleihau gwelededd cyffredinol mewn rhai cyfeiriadau. Mae'r Llwybr Llaethog yn amlwg iawn. Ceir golygfeydd ardderchog i'r de, cyn belled ag y gall y llygad weld rhwng y dwyrain de-ddwyrain a’r gorllewin de-orllewin.
Parcio: Maes parcio cyhoeddus
Ffôn cyhoeddus agosaf: Trefasser Cross (SM8970337644), 1 filltir
Cyfleusterau: Hostel Ieuenctid gerllaw.

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Maes Parcio Cyhoeddus
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Ffôn cyhoeddus agosad: Trefasser Cross (SM8970337644), 1 milltir
  • Cyfleusterau: Hostel Ieuenctid gerllaw

Safle Picnic Parc Cenedlaethol Sychpant

Mae'r safle hwn yn cynnig awyr dywyll dda iawn gydag ychydig iawn o lygredd golau. Gyda'i leoliad ar lawr y dyffryn, cyfyngir ar y golygfeydd i'r gogledd ac i'r de gan dirffurf ar onglau is, ond mae’r golygfeydd ar hyd y dyffryn i'r dwyrain o'r prif faes parcio yn gymharol dda. Drwy groesi'r bont droed dros y nant, mae’r golygfeydd i'r de-orllewin yn gwella’n sylweddol oherwydd bod y llinell goed wedyn ar yr ochr arall. Mae llewyrch awyr ysgafn i’w weld i'r de, ac mae goleuadau’n weladwy o un fferm, ond dim ond mân ddylanwad yw hyn. Ceir arwyneb graean, maes parcio heb olau a llwybrau gwastad yn arwain at safle picnic.
Parcio: Maes parcio cyhoeddus
Ffôn cyhoeddus agosaf: Pont Cilrhedyn, Cwm Gwaun (SN0040034900), 2 filltir
Cyfleusterau: Byrddau picnic. Toiledau agosaf yn Nhrefdraeth (SN0580039200) 6 milltir

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Maes Parcio Cyhoeddus
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Pont Cilrhedyn, Cwm Gwaun (SN0040034900), 2 filltir
  • Cyfleusterau: Byrddau picnic. Toiledau agosaf Newport (SN0580039200) 6 milltir

Maes Parcio Parc Cenedlaethol Traeth Poppit

Ceir y golygfeydd gorau o'r awyr o’r traeth ei hun, a gellir cael mynediad ato drwy groesi ffordd dawel a phasio ger ochr yr orsaf bad achub. Mae’r golygfeydd i'r de ychydig yn gyfyngedig, ond mae golygfeydd ardderchog i bob cyfeiriad arall. Ceir peth llygredd golau o'r gorsafoedd bad achub a'r caffi, er gall symud ymhellach allan i'r tywod leihau’r effaith hon. Mae'r safle hwn yn agos at Aberteifi ac mae’r mynediad hawdd yn golygu bod potensial i ddenu ymwelwyr nad ydynt eisiau teithio i'r lleoliadau mwy anghysbell neu sy’n digwydd bod yn aros yn yr ardal. Gellir mynd i ben y traeth gyda chadair olwyn; mae llwyfan gwylio ar ben y llwybr pren sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r orsaf bad achub.
Parcio: Maes parcio cyhoeddus
Ffôn gyhoeddus agosaf: Maes Parcio Traeth Poppit (SN1520848547)
Cyfleusterau: Toiledau cyhoeddus

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Maes Parcio Cyhoeddus
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Maes Parcio Poppit Sands (SN1520848547)
  • Cyfleusterau: Toiledau Cyhoeddus

Gweithgareddau Awyr Dywyll

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Astroffotograffiaeth

Gwisgwch eich côt, estynnwch eich camera a mentrwch i fyd cyffrous ffotograffiaeth yn y nos.

Seryddiaeth

Mae awyr dywyll anhygoel y Parciau Cenedlaethol yn rhoi cyfleoedd gwych drwy gydol y flwyddyn i wylio awyr y nos, i syllu ar y sêr, planedau a'r lleuad.

Nosweithiau Sêr Gwib a Chomedau

Ar noson glir, syllwch i fyny ar yr awyr yn ddigon hir a byddwch yn gweld sêr gwib ac efallai hyd yn oed, yn sylwi ar gomed.

Gwylio’r Wawr a’r Machlud

Mae awyr lân a thirweddau mawreddog Cymru yn lle perffaith i edrych ar liwiau coch ac oren hardd y wawr neu fachlud haul.

Gwersylla Dan y Sêr

Dewch o hyd i wersyllfa sy’n cuddio yng nghefn gwlad ymhell oddi wrth oleuadau llachar y ddinas, a chofleidiwch ryfeddod y tywyllwch.

Gwylio Moch Daear

Profwch olygfa anhygoel o foch daear yn dod allan yn y gwyll o’u brochfa, i chwilota am fwyd a chwarae yng ngolau'r lleuad.

Teithiau Cerdded Ystlumod

Gwrandewch am wichiadau’r unig famal sy’n wirioneddol hedfan, a gwyliwch eu dawnsfeydd acrobatig yn awyr y nos.

Adar y Nos

Yn swil a hudolus – cerddorfa’r machlud a’r wawr yng nghoedwigoedd cyfrin Cymru.

Antur Magïod

Dewch o hyd i’r creaduriaid llachar gwych hyn yn cuddio mewn gerddi a gwrychoedd.

Beicio Mynydd

Gadewch i’r nos fod yn antur newydd yn y tywyllwch, gyda thraciau a llwybrau yn cynnig her newydd i chi tra bo’r lleuad yn gwenu arnoch.

Teithiau Cerdded Gyda’r Hwyr ac yn y Nos

Dowch i gael eich temtio i’r tywyllwch gan belydrau’r lleuad a golau sêr, gwisgwch eich côt a mentro i’r cyfnos.

Rhedeg Llwybrau

Gydag awyr iachusol y nos a heddwch y tywyllwch, mae rhedeg llwybrau yn y nos yn rhoi dimensiwn cwbl newydd ac unigryw i’r profiad.

Teithiau Trên

Ar y trên yn y nos – dyma lle mae’r storïau yn dechrau.

Goleufeydd a Choelcerthi

Ewch yn ôl mewn amser a phrofi gwreichion a sêr, yn union fel y byddai’n hynafiaid wedi ei wneud.

Gwarchodfa Awyr Dywyll

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Snowdonia

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Darllen Mwy
Brecon

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Darllen Mwy