Beicio Mynydd

Gadewch i’r nos fod yn antur newydd yn y tywyllwch, gyda thraciau a llwybrau yn cynnig her newydd i chi tra bo’r lleuad yn gwenu arnoch.

Mae anturiaethau beicio liw nos yn ychwanegu dimensiwn heriol i wyliau gweithgaredd. Mae beth allai fod yn daith gyfarwydd yn y dydd yn cael ei drawsnewid yn gyfan gwbl i fwystfil newydd gan y tywyllwch!

Mae beicio nos yn anhygoel a gall fod yn un o’r profiadau mwyaf gwerthfawr y gallwch ei gael ar feic, ac mae hynny’n enwedig o wir os ydych yn beicio gyda grŵp. Wrth feicio yn y tywyllwch, bydd eich synhwyrau yn cael eu dwysáu a bydd eich holl sgiliau fel beiciwr yn cael eu profi! Pan fyddwch chi’n cyfuno eich ymwybyddiaeth wych gyda nosweithiau serennog neu olau leuad, neu niwl dwfn, ac fe fydd yr holl brofiad yn datblygu i fod yn rhyfeddol yn enwedig os gallwch chi glywed sŵn tylluanod a llwynogod yn y pellter.

Mae beicio yn y tywyllwch yn dechnegol anos na beicio yn y dydd, felly mae dewis llwybr sy'n addas ar gyfer eich gallu yn hanfodol. Os nad ydych wedi bod yn beicio nos o'r blaen, mae'n beth doeth mynd ar lwybr yr ydych yn gyfarwydd iawn ag o neu fel arall, mynd allan gyda grŵp ac arweinydd sy'n gyfarwydd â'r llwybr ac sy’n gallu eich helpu drwy eich tywys drwyddo.

Yn syml, mae mentro allan i ardaloedd nad ydynt yn strydoedd wedi'u goleuo'n ar ôl iddi dywyllu yn gallu bod yn brofiad ynddo'i hun. Peidiwch â disgwyl gallu neidio a throi'r un mor hawdd â phetaech yn gwneud hynny mewn goleuni.  Mae beicio llwybr gradd glas neu lwybr ceffyl yn ystod y nos yn ôl pob tebyg yn fwy fel llwybr coch yng ngolau dydd ac oherwydd yr her dechnegol ychwanegol; mae'n debyg na fyddwch yn mynd mor bell.

Er bod goleuadau yn hanfodol yn y tywyllwch, yn rhannol er mwyn i eraill allu eich gweld, ond yn bennaf fel eich bod yn gallu gweld yn fras beth sydd o'ch blaenau, gwerthfawrogwch brydferthwch a dirgelwch awyr y nos a chadwch eich golau yn isel. Ystyriwch beth fydd y lefel golau lleiaf bydd ei angen i oleuo'r llwybr a'i ymylon. Bydd hyn yn dwysáu eich 'antur yn y tywyllch', ac fe fydd yn gwella profiad pobl eraill yn eich grŵp tra'n cael llai o effaith ar bobl eraill allan yng nghefn gwlad ac, yn bwysicach fyth yn lleihau effaith llygredd golau ar natur.

Y dyddiau hyn mae rhai goleuadau pwerus iawn sydd mor gryf fel eich bod bron yn gallu anghofio ei bod hi'n nos. Fodd bynnag, mae defnyddio goleuadau o'r fath yn tynnu oddi wrth y llawenydd o feicio nos. Bydd yna adegau pan nad ydych wir angen goleuadau ac yn gallu mwynhau gwefr y tywyllwch yn well hebddynt. Hefyd, os ydych chi mewn grŵp, byddwch yn dallu pobl os ydych yn eu hwynebu gydag eich fflachlamp pen, felly arbedwch eich batri a wynebwch y noson.

Bydd defnyddio lamp pen neu lamp wedi'i gosod ar ddolenni eich bar yn taflu cysgodion. Dylech fod yn ymwybodol y gall tyllau, rampiau a rhwystrau eraill ar y llwybr gael eu cuddio neu eu gorchuddio gan gysgod. Bydd cysgodion hefyd yn ei gwneud yn anodd gwybod pa mor ddwfn neu arw yw rhannau o'r llwybr sydd o'ch blaen. Dysgu beicio drwy deimlo yw'r hwyl cyffrous o feicio nos. Beiciwch gyda'ch corff yn barod am beth bynnag ddaw, tra’n ddigon rhydd i wneud eich taith yn llyfn ac esmwyth a bydd gwneud hynny yn gwella eich gallu i fod yn feiciwr rhagweithiol sy'n gallu cwrdd â her y llwybr.

Pan fyddwch chi allan gyda grŵp byddwch yn amyneddgar. Felly os yw eraill yn chwarae neu ffidlan gyda'u goleuadau neu eu cyfrwy neu beth bynnag arall, neu os ydynt yn meddwl bod y daith feicio'n her iddynt, neu os oes ganddynt broblemau mecanyddol, cofiwch ac ystyriwch efallai mai chi fydd yn anlwcus y tro nesaf ac yn cael pyncjar. Wrth feicio mewn grŵp cofiwch edrych ar ôl eich gilydd bob amser a chofiwch nad yw cael eich gadael ar eich pen eich hun yn y tywyllwch ddim yn hwyl o gwbl.

Argyfyngau 

Mae lwc dda yn tueddu i ddigwydd i’r sawl sydd wedi paratoi ac yn barod am yr hyn sydd o’u blaenau, felly osgowch argyfyngau posibl drwy gynllunio’n dda. Mae edrych ar ôl eich beic, cael offer trwsio, fflachlamp pen sbâr, lluniaeth, dillad cynnes, a map yn hanfodol. Hefyd gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth rywun ble rydych chi'n mynd a phryd y byddwch yn ôl. Ystyriwch beth yw eich gwybodaeth cymorth cyntaf, neu gwnewch yn siŵr bod rhywun yn y grŵp yn gallu cynnig cymorth cyntaf.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.