Teithiau Cerdded Ystlumod

Get closer to these flying noctural mammals

Gwrandewch am wichiadau’r unig famal sy’n wirioneddol hedfan, a gwyliwch eu dawnsfeydd acrobatig yn awyr y nos.

Mae ystlumod yn wirioneddol gyfareddol, croeso i’r unig famal yn ein bydysawd sy’n hedfan! Mae 16 o rywogaethau yng Nghymru ac mae gan ein Parciau Cenedlaethol rai poblogaethau rhagorol gan gynnwys yr Ystlum Pedol Fwyaf prin yn ogystal ag ystlumod mwy cyffredin fel yr Ystlum Lleiaf a Dorbentons.
Yn ystod yr haf, mae ystlumod yn clwydo yn ystod y dydd ac fel arfer yn dod allan yn union cyn y wawr ac ar ôl iddi nosi i fwydo ar bryfed. Dônt o hyd i’w bwyd drwy broses atsain-lleoliad gan ddefnyddio synau amledd uchel, ac maent hefyd yn defnyddio galwadau ar gyfer dod o hyd i’r ffordd ac i gyfathrebu. Mae gwrando ar yr acrobatiaid hedfan hyn drwy ddefnyddio synhwyrydd ystlumod a chlywed sut maent yn defnyddio eu gwichian i hela eu hysglyfaeth yn anhygoel, yn enwedig os yw'n dal i fod yn ddigon golau i’w gweld yn hedfan yn sionc, gan wibio a dipio yn awyr y nos i ddal eu cinio.

Yn anffodus, mae llawer o boblogaethau ystlumod yn dirywio trwy gyfuniad o waith datblygu sy'n effeithio ar glwydi, colli cynefin bwydo, llai o bryfed yng nghefn gwlad (peth o hynny wedi ei achosi gan lygredd golau!), ffyrdd yn hollti llwybrau hedfan, a bygythiadau yn y cartref, gan gynnwys cathod a rhai triniaethau cemegol o ddeunyddiau adeiladu.

Mae ystlumod yn byw yng nghefn gwlad, trefi a dinasoedd ledled y DU. Maent ar eu mwyaf gweithgar yn ystod misoedd yr haf wrth iddynt hedfan drwy'r nos yn dal pryfed. Yn y gaeaf, mae'r rhan fwyaf o ystlumod yn gaeafgysgu ac nid ydynt yn hedfan. Rydych yn fwyaf tebygol o'u gweld hanner awr cyn machlud neu cyn y wawr wrth iddynt hedfan yn agosach at eu clwydi. Fel ni, mae pob ystlum yn hoffi tywydd cynnes a sych, ac felly gydag ychydig o lwc, bydd eich oriawr ystlumod yn cael ei osod i gefndir machlud gwych! Mae gwahanol rywogaethau o ystlumod yn hedfan mewn gwahanol rannau o'r awyr. Mae rhai ystlumod yn hedfan yn uchel iawn tra bod eraill yn aros yn isel; mae eraill yn hela dros ardaloedd agored tra bod rhai yn aros yn agos ar goed. Gall rhai ystlumod hyd yn oed gael eu gweld yn sgimio wyneb y dŵr i ddal pryfed. Bydd ystlumod yn hedfan ble bynnag mae eu hysglyfaeth, gan ei hela i lawr gyda'u sgiliau atsain-leoli rheibus ffantastig.

Mae 18 o rywogaethau o ystlumod yn y DU, ond mae pedwar rydych yn debygol o’u gweld.

  • Ystlumod Lleiaf sy’n dod allan o gwmpas y machlud, a dyma’r ystlumod bach cyflym rydych yn fwyaf tebygol o’u gweld yn troelli a throi o amgylch adeiladau, goleuadau stryd, coed a gwrychoedd.
  • Daw ystlumod Noctule allan yn gynnar yn y nos wrth iddi dywyllu. Maent yn hedfan mewn llinell syth, yn uchel uwchben ac mae ganddynt adenydd cul nodedig.
  • Daw ystlumod hirglust brown allan wedi iddi nosi. Maent yn tueddu i hedfan yn araf a bron hofran fel ieir bach yr haf. Maent yn hedfan yn agos iawn at goed, gan eu gwneud yn anos i'w gweld.  
  • Mae gan ystlumod Daubenton draed mawr blewog gwych. Maent yn hedfan yn isel dros ddŵr, gan sgimio’r wyneb fel hofranlong fach a dal pryfed gyda’u traed.

Y ffordd orau i wahaniaethu rhwng y rhan fwyaf o rywogaethau yw defnyddio canfodydd ystlumod sy'n gwrando ar y gwichian traw uchel a wna’r ystlumod. Mae'r gwichiadau hyn fel arfer tu hwnt i'r ystod gwrandawiad dynol.  Mae ystlumod yn defnyddio'r gwichian hwn i adeiladu darlun cadarn o'u hamgylchedd. Mae'r system atsain-leoliad yn eu galluogi i hedfan drwy'r nos dywyll gan hela’r lleiaf o bryfed.
Yn aml bydd gan dywyswyr teithiau cerdded ystlumod  synwyryddion ystlumod fel y gallwch glywed yn ogystal â gweld ystlumod. Efallai y byddwch yn canfod fod gan eich darparwr llety ddyfais synhwyrydd ystlumod y gallwch ei benthyg a’i defnyddio.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.