Twristiaeth Gynaliadwy

Mae’r prosiect Profi’r Tywyllwch – Parciau Cenedlaethol Cymru yn rhan o agenda twristiaeth gynaliadwy ehangach. Mae datganiad safle Parciau Cenedlaethol Cymru ar dwristiaeth gynaliadwy yn cefnogi’r diffiniad o Siarter Ewropeaidd ar Dwristiaeth Gynaliadwy sy’n nodi:
“(Twristiaeth gynaliadwy) yw unrhyw ffurf o weithgaredd datblygu, rheoli, neu dwristiaeth,  sy’n sicrhau fod adnoddau naturiol, diwylliannol neu gymdeithasol yn cael eu hamddiffyn a’u cadw yn y tymor hir, ac sy’n cyfrannu mewn ffordd gadarnhaol a theg at ddatblygu economaidd a lles unigolion sy’n byw, gweithio neu’n aros mewn ardaloedd a warchodir.”

http://www.nationalparkswales.gov.uk/__data/assets/pdf_file/0020/352505/sustainable_tourism._position_statement.pdf

Ceir enghreifftiau o fentrau twristiaeth gynaliadwy eraill ar wefan Rheoli Cyrchfannau Croeso Cymru, ar: http://businesswales.gov.wales/dmwales/sustainable-tourism