Astroffotograffiaeth

Dal y bydysawd wrth anelu am y sêr

Gwisgwch eich côt, estynnwch eich camera a mentrwch i fyd cyffrous ffotograffiaeth yn y nos.

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'ch ffordd o amgylch awyr y nos, dysgu enwau'r sêr a'r cytserau, wedi edrych ar nifylau pell drwy ysbienddrych neu delesgop, efallai y byddwch yn teimlo’n awyddus i ddal rhyfeddodau awyr y nos i’w mwynhau y tu hwnt i hud y foment. Ond os ydych wedi arfer tynnu lluniau trwy bwyntio a thynnu llun, gall astroffotograffiaeth fod yn eithaf anodd. Felly rhowch eich côt amdanoch, ewch â’ch camera gyda chi a rhowch gynnig ar fyd cyffrous golau a thywyllwch astroffotograffiaeth.

Er bod posib gwirioni ar offer ddeniadol i dynnu lluniau o awyr y nos, nid oes rhaid i astroffotograffiaeth fod mor anodd â hynny. Gall eich camera bwyntio a thynnu cyffredin gyda thrybedd dynnu lluniau gwych o’r Lleuad a llawer mwy. Mae cysylltiadau, llwybrau sêr a sêr gwib yn ddechreuad gwych ar gyfer astroffotograffwyr newydd.

Mae'r rhan fwyaf o gamerâu digidol yn cynnwys opsiynau tynnu lluniau a fydd yn rhoi rhywfaint o awyrluniau gwych gan gynnwys modd nos, cyflymder caead tynnu parhaus, rheolaeth amlygu â llaw, a hyd yn oed ffocysu â llaw. Cofiwch analluogi’r fflach!

Mae’n debyg na wnaiff amlygiad awtomatig eich camera roi'r canlyniad gorau, felly gosodwch hyd yr amlygiad â llaw a rhowch gynnig ar wahanol werthoedd i weld pa fodd sy’n gweithio orau – tynnwch lawer o luniau, byddwch yn amyneddgar ac arbrofwch. Y peth gwych am ffotograffiaeth ddigidol yw y bydd gan eich camera fel arfer nodwedd a fydd yn dweud wrthych beth yw amser yr amlygiad, a gwybodaeth dechnegol berthnasol arall gallwch gyfeirio ati yn y dyfodol.

Cysylltiadau

Ymhlith y digwyddiadau seryddol mwyaf deniadol y gallwch eu cofnodi gyda'ch camera pwyntio a thynnu yw cysylltiadau (parau agos) y Lleuad a'r planedau. Wrth dynnu lluniau cysylltiadau, byddwch yn aml yn awyddus i glosio i mewn. Mae llawer o gamerâu pwyntio a thynnu ag offer closio optegol a digidol. Mae offer closio optegol yn chwyddo eich targed dewisol, ond mae offer closio digidol yn tocio’r olygfa ac yn chwyddo’r picselau, nad yw'n helpu o gwbl, oherwydd er y bydd yn gwneud y rhannau aneglur yn fwy, byddant yn dal i fod yn aneglur. Os allwch chi, analluogwch y swyddogaeth closio-digidol neu nodwch faint o glosio optegol sydd gan eich camera, a pheidiwch â chlosio i mewn yn fwy na hynny.

Llwybrau Sêr a Sêr Gwib

Mae llwybrau sêr yn hyfryd i’w dal ac maent yn rhoi gwir ymdeimlad o'r byd yn troi. Yr allwedd yw cadw'r caead ar agor am gyn hired a phosib i ddatgelu troad y nen yn ystod y noson. Efallai na fydd uchafswm amser amlygiad eich camera ond 10 i 15 eiliad, ond gydag ychwanegiad un offeryn sylfaenol a rhaglen gyfrifiadurol rhad ac am ddim, mae'n bosibl tynnu lluniau ardderchog o lwybr sêr. Prynwch glamp bar bach gyda gafaelion rwber i ddal eich botwm caead i lawr fel y gallwch gofnodi delweddau’n olynol heb gyffwrdd eich camera (mae rhain fel arfer ar gael mewn siop DIY am tua £6).

Fframiwch eich ardal darged drwy ddefnyddio ongl closio ehangaf y camera. I ychwanegu mwy o fanylder i'ch llun terfynol, cynhwyswch nodweddion yn y blaendir er mwyn rhoi ymdeimlad o raddfa a lleoliad i’r llun fel coed, bryniau, clogwyni neu nodweddion tirwedd eraill. I ddechrau eich cyfres o luniau, gosodwch eich camera ar ei uchafswm hyd amlygiad (neu ar y modd nos, os na allwch ddewis cyflymder caead penodol), yna newidiwch gyflymder ISO eich camera i 400. Gosodwch ffocws y lens ar bwynt anfeidredd (∞). Dewiswch y swyddogaeth cyflymder caead tynnu parhaus, yna rhowch y clamp ar eich camera i ddal y botwm caead i lawr. Sefwch yn ôl a thynnwch luniau am o leiaf 10 munud - yr hiraf yn y byd, y gorau fydd. Unwaith y byddwch wedi gorffen, bydd gennych ddwsinau neu hyd yn oed cannoedd o amlygiadau byr gydag ychydig o gytserau gweladwy ynddynt.

Gellir tynnu lluniau cawodydd sêr gwib a’u prosesu drwy’r un dull yn union â llwybrau sêr, er y bydd rhaid i chi fod yn fwy amyneddgar a chadw’r camera’n pwyntio i’r un lle drwy’r nos. Dewiswch ardal o'r awyr sydd yn dywyll a ffotogenig, ac efallai yn cynnwys eich hoff gytser tymhorol - yng Nghymru dewiswch Draco! Gall yr un dechneg hefyd gofnodi taith yr Orsaf Ofod Ryngwladol drwy’r awyr yn ogystal â’r Wennol Ofod, a fflachiadau o loerennau Iridium.

Eich cam nesaf yw lawrlwytho a gosod un o'r rhaglenni cyfrifiadurol rhad ac am ddim a ysgrifennwyd yn benodol i ddiben cyfuno'r fframiau unigol.

Link Star-trails

StarMax

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.