Gwylio’r Wawr a’r Machlud

Mae awyr lân a thirweddau mawreddog Cymru yn lle perffaith i edrych ar liwiau coch ac oren hardd y wawr neu fachlud haul.

Be’ all fod yn well dechreuad i'r dydd na deffro i synau côr y bore bach a chael eich cyfarch gan olau euraidd yr haul? Ar ben arall y dydd, mae rhywbeth oesol wrth wylio'r haul yn nythu yn ôl i mewn i'r dirwedd. Mae llawer o leoliadau yn y Parciau Cenedlaethol lle mae'r harddwch syfrdanol hyd yn oed yn fwy anhygoel wrth i'r haul wawrio a machlud gyda rhyfeddodau’r nos o’n hamgylch. Mae lliw tanbaid oren y wawr a marwor tanllyd y machlud yn gyfle gwych i feddwl am y materion mawr mewn bywyd a’n lle nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn y bydysawd ehangach.

Yn aml, ceir ymdeimlad unigryw o heddwch sy’n digwydd yr un pryd â gwawrio a machlud yr haul, ac maent yn cynnig cyfleoedd arbennig i fwynhau’r golygfeydd a synau natur. Mae ffotograffiaeth, paentio, gwylio bywyd gwyllt i gyd yn cynnig cyfleoedd newydd ar yr adegau hyn o'r dydd. Wrth feddwl am ddod o hyd i lefydd anhygoel i wylio'r glôb euraidd yn disgyn ac yn codi - cofiwch edrych tua'r dwyrain i weld yr haul yn codi ac edrych tua'r gorllewin i weld yr haul yn machlud.

Mae ffotograffwyr yn aml yn siarad am yr oriau hud, yr amser arbennig yn union ar ôl codiad yr haul neu ychydig cyn machlud haul. Mae dau beth arbennig yn digwydd i oleuni haul; yn gyntaf mae'n cael cynhesrwydd euraidd gydag arlliwiau coch ac oren hyfryd ac yn ail mae ongl isel yr haul yn pwysleisio ffurfiau a gweadau yn y dirwedd.

Mae gwylio gwawrio a machlud yr haul yn deimlad hudolus, rhamantus, bywiog ac yn rhoi ymdeimlad unigryw o berthyn mewn bydysawd mwy na ni. Er bod yr haul yn ymddangos fel petai’n "codi" ac yn "syrthio" ar y gorwel, mewn gwirionedd symudiad y Ddaear sy'n achosi i'r haul ymddangos fel petai’n diflannu. Mae rhith yr haul yn symud yn beth mor argyhoeddiadol fel bod hyn yn golygu bod gan bron bob diwylliant chwedlau a chrefyddau wedi eu hadeiladu o amgylch y model geoganogol, sef bod yr haul yn troi o gwmpas y Ddaear, ac yn y gorllewin roedd y gred hon yn bodoli hyd nes i'r seryddwr Nicolaus Copernicus lunio model helioganogol yn y 16eg ganrif.

Mae ansawdd arbennig i olau'r haul ar yr adegau hyn, gyda'r golau oren isel yn hynod o fyw ond eto yn gysgodol - sy'n trawsnewid tirweddau ac yn goleuo trysorau cudd. Mae lliwiau'r machlud a gwawrio'r haul yn digwydd o ganlyniad i ongl golau'r haul wrth iddo gwrdd gydag atmosffer y ddaear. Fel mae pelydr gwyn o olau haul yn teithio drwy'r atmosffer, mae rhai o'r lliwiau yn cael eu gwasgaru o'r pelydr gan foleciwlau aer a gronynnau hedegog, sy'n newid lliw terfynol y pelydr y mae'r gwyliwr yn ei weld. Am fod cydrannau’r tonfeydd byrrach, megis glas a gwyrdd, yn gwasgaru'n gryfach, mae'r lliwiau hyn yn cael eu tynnu'n gyntaf o’r pelydr. Yn ystod gwawrio a machlud yr haul, pan fo'r llwybr drwy'r atmosffer yn hirach, mae'r cydrannau glas a gwyrdd yn cael eu symud bron yn gyfan gwbl gan adael gyda'r tonfeydd hirach oren a choch a welir ar yr adegau hynny. Yna, gall y pelydrau haul coch sy'n weddill gael eu gwasgaru gan ddefnynnau cwmwl a gronynnau cymharol fawr eraill a goleuo'r gorwel yn goch ac oren. Mae lliwiau machlud yr haul fel arfer yn fwy disglair na lliwiau'r haul yn gwawrio, gan fod yr awyr gyda'r nos yn cynnwys mwy o ronynnau nag aer y bore.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.