Teithiau Trên

Ar y trên yn y nos – dyma lle mae’r storïau yn dechrau.

Mae storïau gwych yn cael eu creu pan fo pobl yn teithio tuag at fachlud yr haul ar drên. Mae rhai trenau nos gwych yng Nghymru sy'n mynd â chi ar draws tirweddau anghygoel wedi'u goleuo gan y sêr. Wrth amseru’n gywir, efallai y byddwch yn gweld beth yw hynt y lleuad ac yn cael y fraint o weld sêr gwib. Mae teithiau trên yn ystod y nos ar y cyfoeth o reilffyrdd cul sydd yng Nghymru, yn enwedig ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn cynnig cyfle i fwynhau'r awyr dywyll.

Mae rhai rheilffyrdd eisoes yn cynnal digwyddiadau arbenigol gyda'r nos -
Am gyfleoedd i fwynhau teithiau trên nos edrychwch ar y gwefannau am fanylion.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Eryri

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.