Project NOS

Project NOS Trosolwg

  • Project NOS Trosolwg

  • Cwmpas: Gogledd Cymru
  • Maint: 1,117 milltir sgwâr
  • Pwynt Uchaf: Yr Wyddfa
  • Prif Safleoedd i Syllu ar y Sêr: Llyn y Dywarchen
  • Adeg gorau i syllu ar y sêr: Mawrth-Medi

Rydym wedi cydweithio i greu Prosiect Nos - Partneriaeth Awyr Dywyll Gogledd Cymru - gyda’r nod o greu’r ardal fwyaf o awyr dywyll warchodedig yn y byd! Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, Bryniau Clwyd - Dyffryn Dyfrdwy a Phenrhyn Llŷn.

Snowdonia

Rydym yn credu y dylid gwarchod awyr dywyll y nos; dyna pam ein bod yn frwdfrydig dros ennill statws swyddogol gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA).

Dyma rai o’r rhesymau dros warchod yr awyr dywyll...

  • Bydd yn gwarchod tywyllwch y nos ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
  • Bydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywyd gwyllt
  • Bydd yn fodd i roi hwb i’r diwydiant twristiaeth yn ystod y tymor tawel
  • Bydd yn lleihau llygredd golau ac allyriadau CO2
  • Mae 60% o’n bioamrywiaeth yn dibynnu ar dywyllwch i oroesi.

Safleoedd Gorau i Syllu ar y Se

Llyn y Dywarchen

Mae Llyn y Dywarchen uwchlaw pentref Drws y Coed yn Nyffryn Nantlle, ger Rhyd Ddu. Mae’n llyn pysgota poblogaidd iawn, ac mae maes parcio gerllaw.

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Hyd at 6 cherbyd
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Rhyd Ddu (SH 569 529), 1 milltir
  • Cyfleusterau: Dim ar y safle

Bwlch y Groes

Mae Bwlch y Groes yn gorwedd ar yr isffordd sy'n cysylltu Dinas Mawddwy a Llanuwchllyn, ac mae'n un o'r bylchau uchaf yng Nghymru sydd wedi ei darmacio. Mae'r olygfa o'r bwlch yn cwmpasu gwastatir dyffryn Dyfi, Cader Idris a’r Aran Fawddwy, a Mynyddoedd y Berwyn i'r gogledd-ddwyrain.
Parcio: Hyd at 10 cerbyd
Ffôn cyhoeddus agosaf: Llanymawddwy (SH 902 189), 2 filltir
Cyfleusterau: Dim ar y safle

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Parcio:: Hyd at 10 cerbyd
  • Ffôn cyhoeddus agosaf: Llanymawddwy (SH 902 189), 2 filltir
  • Cyfleusterau: Dim ar y safle

Gweithgareddau Awyr Dywyll

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Astroffotograffiaeth

Gwisgwch eich côt, estynnwch eich camera a mentrwch i fyd cyffrous ffotograffiaeth yn y nos.

Seryddiaeth

Mae awyr dywyll anhygoel y Parciau Cenedlaethol yn rhoi cyfleoedd gwych drwy gydol y flwyddyn i wylio awyr y nos, i syllu ar y sêr, planedau a'r lleuad.

Nosweithiau Sêr Gwib a Chomedau

Ar noson glir, syllwch i fyny ar yr awyr yn ddigon hir a byddwch yn gweld sêr gwib ac efallai hyd yn oed, yn sylwi ar gomed.

Gwylio’r Wawr a’r Machlud

Mae awyr lân a thirweddau mawreddog Cymru yn lle perffaith i edrych ar liwiau coch ac oren hardd y wawr neu fachlud haul.

Gwersylla Dan y Sêr

Dewch o hyd i wersyllfa sy’n cuddio yng nghefn gwlad ymhell oddi wrth oleuadau llachar y ddinas, a chofleidiwch ryfeddod y tywyllwch.

Gwylio Moch Daear

Profwch olygfa anhygoel o foch daear yn dod allan yn y gwyll o’u brochfa, i chwilota am fwyd a chwarae yng ngolau'r lleuad.

Teithiau Cerdded Ystlumod

Gwrandewch am wichiadau’r unig famal sy’n wirioneddol hedfan, a gwyliwch eu dawnsfeydd acrobatig yn awyr y nos.

Adar y Nos

Yn swil a hudolus – cerddorfa’r machlud a’r wawr yng nghoedwigoedd cyfrin Cymru.

Antur Magïod

Dewch o hyd i’r creaduriaid llachar gwych hyn yn cuddio mewn gerddi a gwrychoedd.

Beicio Mynydd

Gadewch i’r nos fod yn antur newydd yn y tywyllwch, gyda thraciau a llwybrau yn cynnig her newydd i chi tra bo’r lleuad yn gwenu arnoch.

Teithiau Cerdded Gyda’r Hwyr ac yn y Nos

Dowch i gael eich temtio i’r tywyllwch gan belydrau’r lleuad a golau sêr, gwisgwch eich côt a mentro i’r cyfnos.

Rhedeg Llwybrau

Gydag awyr iachusol y nos a heddwch y tywyllwch, mae rhedeg llwybrau yn y nos yn rhoi dimensiwn cwbl newydd ac unigryw i’r profiad.

Teithiau Trên

Ar y trên yn y nos – dyma lle mae’r storïau yn dechrau.

Goleufeydd a Choelcerthi

Ewch yn ôl mewn amser a phrofi gwreichion a sêr, yn union fel y byddai’n hynafiaid wedi ei wneud.

Gwarchodfa Awyr Dywyll

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Snowdonia

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Darllen Mwy
Pembrokeshire

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Darllen Mwy