Amdanom Ni

Mae Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri yn llefydd rhagorol i weld yr awyr dywyll. Dyma lecynnau perffaith ar gyfer gweithgareddau liw nos gan gynnwys syllu ar y sêr, a gweithgareddau 'cyfnos tan y wawr', megis teithiau cerdded yng ngolau'r lleuad a saffaris bywyd gwyllt nosol. Gadewch i sêr yr awyr dywyll oleuo eich ffordd i ddull gwyliau 24/7 newydd, yng nghanol llonyddwch ac unigedd Cymru.

Bu edrych ar sêr o ddiddordeb i ddynoliaeth byth ers i ni edrych i fyny am y tro cyntaf, a cheisio dirnad hud a symudiadau awyr y nos. Seryddiaeth yw un o'r gwyddorau hynaf, ac mae’n ein cysylltu a dirgelion y gorffennol a'r hyn a wyddwn ac na wyddwn heddiw am y bydysawd cyfan. Gadewch i awyr y nos eich swyno gyda chwedlau hynafol a fydd yn gefndir i’ch anturiaethau epig eich hun.

Pam fod Awyr Dywyll yn bwysig?

Yr hyn sy'n anodd ei ddal mewn geiriau yw’r profiad y mae pobl yn ei gael o edrych i fyny ar yr awyr ar noson glir mewn man sy'n rhydd o lygredd golau - lle gall y sêr ac ysblander llawn y Llwybr Llaethog gael eu gwerthfawrogi.

Mae effaith pobl ar yr amgylchedd yn dal i gynyddu, gyda thwf mewn llygredd golau yn arwain at sefyllfa lle nad yw awyr y nos bellach yn dywyll iawn. Ni all 90% o boblogaeth y DU weld y Llwybr Llaethog o'u cartrefi. Mewn ymdrech i leihau llygredd golau, bu’r symudiad awyr dywyll yn datblygu'n gyflym gydag ymdrechion yn cael eu gwneud yn rhyngwladol yn ogystal ag o fewn ffiniau y DU a Chymru. Mae manteision lleihau llygredd golau (sef y golau nad yw’n goleuo’r hyn yr ydym eisiau iddo’i wneud) yn cynnwys mwy o welededd o sêr y nos, llai o effeithiau niweidiol goleuadau annaturiol ar yr amgylchedd, a thoriadau sylweddol yn y defnydd o ynni ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae llygredd golau nid yn unig yn cuddio ein gallu i weld y sêr, ond hefyd mae'n gwastraffu ynni a all yn ei dro arwain at lefelau uwch o nwyon tŷ gwydr. Profwyd bod llygredd golau yn cael effaith niweidiol sylweddol ar iechyd dynol, a gall gael effeithiau andwyol sylweddol ar fywyd gwyllt, yn enwedig y rhywogaethau nosol - un o'r union bethau y sefydlwyd Parciau Cenedlaethol y DU i’w gwarchod a’u diogelu.