Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Wythnos Awyr Dywyll Cymru Trosolwg

  • Wythnos Awyr Dywyll Cymru Trosolwg

  • Cwmpas: Cymru
  • Maint: 2,083 sq/m
  • Pwynt Uchaf: Yr Wyddfa
  • Prif Safleoedd i Syllu ar y Sêr: Gormod i'w rhestru!
  • Adeg gorau i syllu ar y sêr: Medi-Mawrth

Croeso i'n ail Wythnos Awyr Dywyll Cymru! - (Chwefror 17-26, 2023)

Da ni yn falch o weithio gyda pob un o’r tirweddau dynodedig yng Nghymru er mwyn cyflwyno nifer o ddigwyddidau byw ac ar-lein ar draws y wlad.

Gyda’n gilydd mae pob Parc Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o lygredd golau a sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn gweld y sêr ond hefyd ar ein iechyd ac ar fywyd gwyllt.

Byddwn ni wrth ein boddau petawch yn ymuno â ni ar ein taith o gwmpas tirweddau dynodedig Cymru er mwyn gweld y gwaith sy’n mynd ymlaen i warchod ein Awyr Dywyll a sut allwch chi helpu.

Dyddiad

Amser

DL

Lle

Pris

Be

Linc Archebu

17/02

I'w gadarnhau

AHNE Ynys Môn

Parc Gwledig Morglawdd Caergybi

Am ddim

Bocsys ystlumod gyda Coedwig Actif

Gwefan Cyngor Môn

17/02

1930-2030

Bannau Brycheiniog

N/A

N/A

Dathlu 10 Mlynedd o Warchodfa Awyr Dywyll – Troi'r Golau i Ffwrdd

Gwefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

17/02 Bannau BrycheiniogPontypridd£40Padlfyrddio Awyr DywyllGwefan Outdoor Explore Wales

17/02

 

CPRE

Cenedlaethol

N/A

CPRE - Cyfri Sêr

Gwefan CPRE

18/02

TBC

AHNE Pen Llŷn

Cwrt a Phorth Meudwy

Am Ddim

O’r Môr i’r Sêr

Ebostio Dani.robertson@eryri.llyw.cymru (Mewn partneriaeth gyda NT)

18/021730-2130Bannau BrycheiniogCanolfan Ymwlewyr Bannau Brycheiniog -  Libanus£20Taith Gerdded Awyr DywyllEventbrite

19/02

1700-1930

Eryri

Cwm Idwal

Am Ddim

Taith gerdded seryddol yng Nghwm Idwal

Ebostio Dani.robertson@eryri.llyw.cymru

19/021830-2030

AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Colomendy, Loggerheads

 Gweithdy Astroffotograffeg Awyr Dywyll a Sêr i DdechreuwyrE-bostio ceri.lloyd@denbighshire.gov.uk
21/0217.00-17.45Bannau BrycheiniogAr-LeinAm DdimAwyr y nos yn y Gaeaf - Nick Busby

Zoom

Cyfeirnod Cyfarfod: 829 1390 3217

Cyfrinair: 543456

22/02

1400-1500

AHNE Pen Llŷn

Nant Gwrtheyrn

Am Ddim

Straeon am y Sêr gyda Fiona Collins

Ebostio Dani.robertson@eryri.llyw.cymru

22/02

16-1700

AHNE Pen Llŷn

Nant Gwrtheyrn

Am Ddim

Sgwrs gan ein Swyddog Awyr Dywyll Dani Robertson ar enwau Cymraeg y sêr

Ebostio Dani.robertson@eryri.llyw.cymru

22/02

18-2000

AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Colomendy, Loggerheads

£25

Padlfyrddio dan y Sêr

Gwefan SUP Lass

22/02

18-2000

AHNE Ynys Môn

Parc Gwledig Morglawdd Caergybi

£7.50

Gweld Sêr a Straeon gan Claire Mace

Gwefan Cyngor Môn

22/02

1830-2030

AHNE Ynys Môn / RSPB Cymru

RSPB Ynys Lawd

£10

Astroffotograffiaeth – Cyflwyniad & Gweithdy gyda Hanna Baguley

Gwefan RSPB

23/021830-2030

AHNE Pen Llŷn

Porth y Swnt 

Dathlu’r Tywyllwch - Noson o straeon awyr dywyll efo Gillian Brownson a gweld sêr efo’r arsyllfa symudol

Ebostio Dani.robertson@eryri.llyw.cymru

24/021730-2030EryriCwm Eigiau Taith Gerdded Awyr Dywyll

Ebostio Dani.robertson@eryri.llyw.cymru

24/021830-1930AHNE Ynys Môn / RSPB CymruYnys Lawd£4.50Sgwrs gan Ben Porter ar sut mae llygredd golau yn effeithio ar adar y môrGwefan RSPB

25/02

18-2000

AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Colomendy, Loggerheads

£25

Padlfyrddio dan y Sêr

Gwefan SUP Lass

25/021830-1945Arfordir PenfroCastell Henllys£5Rhyfeddodau Awyr y Nos - sesiwn adrodd storïau wrth y tân mewn tŷ crwn o’r Oes HaearnGwefan archebu Arfordir Penfro

There are no star gazing sites for this destination page yet.

Gweithgareddau Awyr Dywyll

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Astroffotograffiaeth

Gwisgwch eich côt, estynnwch eich camera a mentrwch i fyd cyffrous ffotograffiaeth yn y nos.

Seryddiaeth

Mae awyr dywyll anhygoel y Parciau Cenedlaethol yn rhoi cyfleoedd gwych drwy gydol y flwyddyn i wylio awyr y nos, i syllu ar y sêr, planedau a'r lleuad.

Nosweithiau Sêr Gwib a Chomedau

Ar noson glir, syllwch i fyny ar yr awyr yn ddigon hir a byddwch yn gweld sêr gwib ac efallai hyd yn oed, yn sylwi ar gomed.

Gwylio’r Wawr a’r Machlud

Mae awyr lân a thirweddau mawreddog Cymru yn lle perffaith i edrych ar liwiau coch ac oren hardd y wawr neu fachlud haul.

Gwersylla Dan y Sêr

Dewch o hyd i wersyllfa sy’n cuddio yng nghefn gwlad ymhell oddi wrth oleuadau llachar y ddinas, a chofleidiwch ryfeddod y tywyllwch.

Gwylio Moch Daear

Profwch olygfa anhygoel o foch daear yn dod allan yn y gwyll o’u brochfa, i chwilota am fwyd a chwarae yng ngolau'r lleuad.

Teithiau Cerdded Ystlumod

Gwrandewch am wichiadau’r unig famal sy’n wirioneddol hedfan, a gwyliwch eu dawnsfeydd acrobatig yn awyr y nos.

Adar y Nos

Yn swil a hudolus – cerddorfa’r machlud a’r wawr yng nghoedwigoedd cyfrin Cymru.

Antur Magïod

Dewch o hyd i’r creaduriaid llachar gwych hyn yn cuddio mewn gerddi a gwrychoedd.

Beicio Mynydd

Gadewch i’r nos fod yn antur newydd yn y tywyllwch, gyda thraciau a llwybrau yn cynnig her newydd i chi tra bo’r lleuad yn gwenu arnoch.

Teithiau Cerdded Gyda’r Hwyr ac yn y Nos

Dowch i gael eich temtio i’r tywyllwch gan belydrau’r lleuad a golau sêr, gwisgwch eich côt a mentro i’r cyfnos.

Rhedeg Llwybrau

Gydag awyr iachusol y nos a heddwch y tywyllwch, mae rhedeg llwybrau yn y nos yn rhoi dimensiwn cwbl newydd ac unigryw i’r profiad.

Teithiau Trên

Ar y trên yn y nos – dyma lle mae’r storïau yn dechrau.

Goleufeydd a Choelcerthi

Ewch yn ôl mewn amser a phrofi gwreichion a sêr, yn union fel y byddai’n hynafiaid wedi ei wneud.

Gwarchodfa Awyr Dywyll

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Snowdonia

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Darllen Mwy
Pembrokeshire

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Darllen Mwy