Sefydliadau Sy’n Hyrwyddo ac Amddiffyn ein Hawyr Dywyll

Mae gan nifer o sefydliadau fentrau sy’n ymwneud ag awyr dywyll:

Cymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol

Y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA) yw'r awdurdod byd ar lygredd golau a dyma'r prif sefydliad sy’n brwydro yn erbyn llygredd golau er mwyn amddiffyn awyr y nos ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ei nodau yw: 

  • Hyrwyddo amddiffyn awyr y nos; 
  • Addysgu'r cyhoedd a llunwyr polisi am gadwraeth awyr y nos; 
  • Hybu defnydd cyfrifol o oleuadau allanol amgylcheddol; a 
  • Galluogi'r cyhoedd gydag offer ac adnoddau i helpu i ddod â’r nos yn ôl.

Gwarchodfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol

Mae Gwarchodfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol (a ddynodwyd gan yr IDA) yn dir cyhoeddus neu breifat sydd yn ymestyn o leiaf 700 km². Tiroedd sy'n hygyrch i'r cyhoedd un ai’n rhannol neu'n gyfan gwbl yw'r rhain sy'n cael eu gwarchod yn gyfreithiol at bwrpasau gwyddonol, naturiol, addysgol, diwylliannol, treftadaeth a/neu ddibenion mwynhad y cyhoedd. Rhaid i'r ardal graidd ddarparu awyr dywyll eithriadol o'i gymharu â'r cymunedau a dinasoedd o’i hamgylch, lle mae disgleirdeb awyr y nos yn rheolaidd hafal i, neu'n dywyllach na 20 o feintiau fesul eiliad arc sgwâr (http://darksky.org/idsp/become-a-dark-sky-place/). Mae clustogfeydd yn gymorth i gefnogi cadwraeth awyr dywyll yn y craidd.

Ffurfir gwarchodfeydd drwy bartneriaethau rheolwyr tir sy'n cydnabod gwerth amgylchedd nos naturiol drwy reoleiddio a chynllunio tymor hir. Mae gan Barciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Eryri statws Gwarchodfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol.

Parciau Awyr Dywyll Rhyngwladol

Mae Parciau Awyr Dywyll Rhyngwladol yn debyg i Warchodfeydd Awyr Dywyll ond maent yn ardaloedd llai ac yn bennaf yn nwylo un neu ddau o sefydliadau. Enghreifftiau yn y DU yw Ystâd Cwm Elan (Cymru), Coedwig Galloway (Yr Alban), Parc Cenedlaethol Northumberland (Lloegr) a Kielder Water & Forest Park (Lloegr).

Partneriaeth Canfod Awyr Dywyll Y DU

Mae Partneriaeth Canfod Awyr Dywyll y DU yn rwydwaith o sefydliadau anllywodraethol (NGOs) amgylcheddol a seryddiaeth cenedlaethol a lleol ynghyd â’r gymuned leol, sy’n anelu at:

  • Ymgysylltu pobl o gefndiroedd amrywiol gydag awyr y nos;
  • Annog agweddau cadarnhaol tuag at wyddoniaeth a thechnoleg;
  • Cefnogi datblygiad llefydd, ymwybyddiaeth a thwristiaeth awyr dywyll;
  • Datblygu rhwydwaith cenedlaethol o gyfathrebwyr awyr dywyll; a
  • Chreu partneriaethau sefydliadol hirdymor.

Safleoedd Canfod Awyr Dywyll

Mae Safleoedd Canfod Awyr Dywyll yn rwydwaith cenedlaethol o lefydd sy'n cynnig golygfeydd gwych o awyr y nos  sy'n hygyrch i bawb. Fe’u henwebwyd gan grwpiau a sefydliadau lleol a ddynodwyd gan Bartneriaeth Canfod Awyr Dywyll y DU. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer statws Safle Canfod Awyr Dywyll, mae angen i'r lleoliadau ateb nifer o feini prawf sy'n eu gwneud yn ddiogel ac yn hygyrch, yn ogystal â bod ag awyr dywyll addas. Safleoedd Canfod Awyr Dywyll yw llefydd sydd:

  • Ymhell oddi wrth unrhyw lygredd golau lleol gwael; 
  • Yn darparu llinellau gweld da o'r awyr; a
  • Gyda mynediad cyhoeddus da, gan gynnwys tir cadarn ar gyfer cadeiriau olwyn ac yn gyffredinol gwbl hygyrch bob amser.

Gellir gweld map o Safleoedd Canfod Awyr Dywyll yn: http://www.darkskydiscovery.org.uk/dark-sky-discovery-sites/map.html

Comisiwn Awyr Dywyll

Mae’r Comisiwn Awyr Dywyll yn rhan o Gymdeithas Brydeinig Seryddol (BAA) yn sefydliad anllywodraethol (NGO) gydag aelodaeth genedlaethol, sy'n bryderus am y cynnydd cyflym mewn llygredd golau ar draws y DU (http://www.britastro.org/dark-skies/index.php). Mae gan y Comisiwn gannoedd o aelodau o ystod eang o ddisgyblaethau. Ei nodau yw annog;:

  • Cynyddu'r defnydd o ffitiadau modern sy'n rheoli'r golau a allyrrir a ffynonellau golau tymheredd lliw cynnes, i leihau llacharedd yn yr awyr a thresmasu golau.
  • Y maint cywir o olau ar gyfer y dasg. 
  • Defnydd o watedd synhwyrol; bydd golau cyfwerth â 40W yn ddigon i oleuo rhodfa a gardd gyffredin 
  • Rheolaeth ar lifoleuo adeiladau, cyfleusterau chwaraeon, ayyb., gyda switsiau priodol, cysgodwyr, bafflau ac addasu mowntiau er mwyn i lampau ddisgleirio lle mae gwir angen y goleuni, a dim ond pan fydd ei angen.
  • Cyfarwyddiadau ar fowntio sensitif, a gwybodaeth am ymyrraeth golau ac effeithiau andwyol posibl eraill ar ddeunydd pacio bob golau allanol.