Gwersylla Dan y Sêr

Dewch o hyd i wersyllfa sy’n cuddio yng nghefn gwlad ymhell oddi wrth oleuadau llachar y ddinas, a chofleidiwch ryfeddod y tywyllwch.

Dewch o hyd i wersyll sydd wedi'i guddio yng nghefn gwlad yn ddigon pell oddi wrth oleuadau llachar y ddinas a chofleidiwch ac anweswch ryfeddod y tywyllwch a gwyliwch y byd yn troi. Mae rhai meysydd gwersylla gwych sy'n gweithio'n galed i leihau llygredd golau sy'n cynnig cyfleoedd personol unigryw i brofi awyr a seinweddau’r nos. Er mwyn cael golygfeydd ysblennydd o'r Llwybr Llaethog ac er mwyn gweld hyfrydwch nefolaidd eraill, Cymru yw'r lle i ddod, gan gynnwys y ffaith bod y tri Pharc Cenedlaethol yn cael eu cydnabod gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol am safon eu hawyr dywyll arbennig a’u sêr disglair. Mae noson o dan y sêr, gweld yr haul yn machlud a'r haul yn gwawrio yn brofiad anhygoel sy'n agored i bawb ond dim ond ychydig sy’n cael y profiad.

Bydd rhai meysydd gwersylla yn eich helpu i ddechrau syllu ar y sêr ac yn rhoi siartiau sêr ac ysbienddrych i chi. Mae llawer o wersylloedd yn gyfeillgar / ystyriol tuag at yr awyr dywyll ac mae ganddynt oleuadau sy'n cael eu diffodd yn y nos a golau sydd wedi ei gysgodi’n dda sydd  nid yn unig yn helpu i gynnal yr awyr dywyll uwchben ond hefyd yn helpu i’ch llygaid i aros yn ‘fyw’ i’r tywyllwch fel petai. Pan fyddwch yn gwersylla gwnewch ymdrech i ddiffodd eich technoleg yn hytrach na’i ddefnyddio a chymerwch eich amser i ymdoddi i'ch amgylchedd naturiol, y synau, yr arogleuon a’r golygfeydd a ddatgelir gan y tywyllwch. Mae gwersylla o dan y sêr yn amser gwych i ddod i adnabod eich ffrindiau a'ch teulu.

Rydym yn tueddu i anghofio pa mor hardd yw hi allan yn yr awyr agored. Nid oes unrhyw beth mewn gwirionedd sy'n curo’r gallu i glywed y byd yn deffro o'ch cwmpas ar ôl noson o gysgu o dan y sêr. O awyr llawn sêr i laswellt meddal ac arogl gwair gwlithog yn yr awyr oer, byddwch yn ailddarganfod sut mae'r pethau gorau mewn bywyd mewn gwirionedd yn rhad ac am ddim. Mae rhywbeth cyntefig cyffrous am wersylla. Mae cysgu lle gallwch glywed synau'r nos o’ch amgylch a chorws y wawr yn eich deffro mewn ffordd wych ac yn fodd o’ch cysylltu â'r byd naturiol, cyfunwch hyn â syllu ar y sêr ac mae ein cyswllt dynol gyda'r bydysawd cyfan yn cael ei ddihuno.
Y nosweithiau gorau ar gyfer syllu ar y sêr yw'r rhai ar nosweithiau digwmwl clir - fodd bynnag peidiwch â gadael i ychydig o gymylau eich siomi a defnyddiwch yr adegau hyn i ddysgu am y sêr neu rannu storïau am y chwedlau a’r arwyr sy’n gysylltiedig gyda’r awyr yn y nos.

Os ydych am fanteisio ar y nosweithiau clir ar gyfer syllu ar y sêr, yna mae'n werth cael eich pecyn gwersylla yn barod ar gyfer yr adegau pan fydd yr amodau yn dda ar gyfer syllu ar y sêr. Cadwch focs wedi ei bacio'n barod o'ch offer gwersylla mewn cornel benodol o'ch tŷ neu garej a byddwch yn barod i yrru i'ch hoff wersyll awyr dywyll gyda chyn lleied o straen a strach. Cadwch eich pabell, eich sach gysgu, a’ch mat cysgu gyda'i gilydd, ynghyd â'ch goleuadau (lamp gyda batris ychwanegol, llusern, a / neu oleuadau pabell). Paciwch y pethau gegin gyda'i gilydd, gan gofio eu glanhau a’u hailbacio ar ôl pob taith. Fel hyn, gallwch adael y dref gan aros unwaith neu ddwy ar gyfer bwydydd munud olaf a choed tân ac fe fyddwch yn barod am eich antur 24/7.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.