Gwylio Moch Daear

Profwch olygfa anhygoel o foch daear yn dod allan yn y gwyll o’u brochfa, i chwilota am fwyd a chwarae yng ngolau'r lleuad.

Mae moch daear yn rhywogaeth a warchodir ac mae'r cyfle i'w gwylio yn brofiad i'w drysori. Anaml y gwelir moch daear yn ystod y dydd ac maent fel arfer yn dod allan o'u brochfa i chwilio am fwyd wrth iddi nosi. Maent yn byw mewn grwpiau neu lwythau teuluol ac felly pan fyddwch yn gwylio moch daear, efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld cenawon yn chwarae. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn gwylio moch daear gofynnwch i'ch darparwr llety os ydynt yn gwybod am unrhyw gyfleoedd lleol ar gyfer taith dywys i wylio, neu cysylltwch â grŵp bywyd gwyllt lleol.

Tra bod creaduriaid eraill gan gynnwys eirth, bleiddiaid a lyncsod wedi eu colli ym Mhrydain, mae’r mochyn daear yn llai arswydus ond mwy swil ac enigmatig wedi parhau i fyw’n wyllt yng nghefn gwlad, a hwn yw’r mamal cigysol mwyaf ym Mhrydain.
Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o bobl wedi gweld mochyn daear marw ar ochr y ffordd, ond nid yw'n syndod nad yw cynifer ohonom erioed wedi gweld mochyn daear yn y gwyllt. Diogelir moch daear gan y gyfraith ac felly hefyd y brochfeydd (tyllau) y maent yn byw ynddynt, o dan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992.  Cofiwch ei bod yn drosedd i darfu ar fochyn daear pan fydd mewn brochfa ac felly mae angen cymryd gofal arbennig i beidio ag ymyrryd yn anfwriadol gyda'r frochfa na’r agoriad iddi wrth gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd gwylio moch daear.

Mae gan y mochyn daear Ewropeaidd glyw sensitif iawn a synnwyr da o arogl, sy'n ei wneud yn wych am osgoi pobl. Gall moch daear arogli ôl troed dynol a adawyd oriau ynghynt, a gall synau anghyfarwydd atal y moch daear rhag dod allan o’u cartref dan y ddaear am ddyddiau. Felly pan fyddwch allan yn aros yn dawel yng nghysgodion nos am fochyn daear, byddwch yn barod i aros am amser hir.

Tra byddwch yn aros, cymerwch amser i ddatblygu eich synnwyr moch daear hun, gan dalu sylw i'r synau ac arogleuon o'ch cwmpas, a gwrando am greaduriaid eraill a allai fod hefyd yn rhannu awyr gwyll y nos gyda chi, a chymerwch amser i fwynhau'r llonyddwch. Er gall olygu fod llawer o waith disgwyl, y disgwyl hwn sy'n gwneud y gweithgaredd yn arbennig o gyffrous - ai siffrwd mochyn daear a glywsoch chi, ynteu ddim ond y gwynt? Ar ben hynny, pan fo’r mochyn daear yn ymddangos gyda'i drwyn yn plycio’r awyr i geisio dal unrhyw arogl o berygl, byddwch hefyd yn dal eich anadl mewn syndod disgwylgar a nerfus.

Mehefin a Gorffennaf yw’r misoedd gorau i weld moch daear, oherwydd gallwch wylio cenawon chwareus yn prancio uwchben y ddaear. Er mai Moch Daear ydynt, nid ydynt yn gaeafgysgu ac maent yn llai gweithgar yn y gaeaf. Er na all moch daear weld yn dda iawn mae ganddynt synnwyr arogl da, felly gwisgwch ddillad tywyll, het a menig am eich dwylo. Peidiwch ag arogli yn rhy lân eich hun, ac osgowch arogleuon cryf fel diaroglydd, persawr neu gyflyrydd ffabrig - cyfle gwych i blant beidio â chymryd bath! Mae gan yr Ymddiriedolaeth Moch Daear sy'n hyrwyddo lles a chadwraeth moch daear, nifer o grwpiau rhanbarthol sy'n cynnig nosweithiau gwylio moch daear ym misoedd yr haf ac os ydych yn lwcus efallai y bydd gan eich darparwr llety frochfa ar eu tir. Cofiwch ei bod yn drosedd i darfu moch daear a hefyd mae mynd ar dir preifat i ddod o hyd i frochfeydd moch daear yn dresmasu, felly er mwyn bod yn gyfrifol wrth gyflawni’r weithgaredd hon,  ewch gyda grŵp wedi’i drefnu.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.