Awyr Dywyll Mis Mawrth

27.02.19

Cyhydnos Mawrth: Dydd a Nos yn gyfartal.

Mae cyhydnos Mawrth yn hemisffer y Gogledd ar ddydd Mercher 20fed o Fawrth 2019. 21.58 y.h (ffigwr 1 & 2).

Ffigwr 1. Ar y cyhydedd mae echel y Ddaear yn berbendiciwlar i belydrau'r Haul. Mae cyhydedd yn digwydd oherwydd echel troad y Ddaear. Mae'r echel begynol yn gogwyddo ar ongl 23.5° i gylchdro o gwmpas yr Haul (dim i raddfa).

Ffigwr 2. Mae'r cyhydedd a'r heuldro yn dynodi dechrau'r tymhorau seryddol. Mae'r cyhydedd yn dynodi dechrau'r Gwanwyn a'r Hydref tra mae'r heuldro'n dynodi dechrau'r Haf a'r Gaeaf. 

Ym mis Mawrth, mi fydd yr Haul yn teithio tua'r Gogledd ar draws y cyhydedd. 

Ar 21ain o Fawrth mi fydd Lleuad Llawn a adnabyddir fel Lleuad y Mwydyn (ffigwr 3) gan amlaf yn Leuad Llawn ola'r Gaeaf a dechrau'r Gwanwyn. Adnabyddir dan yr enw yma oherwydd y mwydod sy'n ymddangos ar yr adeg hyn o'r flwyddyn.

Ffigwr 3. Lleuad y Mwydyn.

Dynesiad agos y Lleuad a Iau: Ar 27ain o Fawrth mi fydd rhain yn pasio o fewn 1°52' o'u gilydd. Mi fydd y Lleuad yn 21 diwrnod oed. Yn weledol yn awyr y bore o gwmpas 02:54 pan fydd yn codi 7° uwch y gorwel De Ddwyreiniol. Mi fyddant yn cyrraedd pwynt uchaf yr awyr am 05:32, 15° uwch gorwel y De. Mi fyddant yn cael eu colli i awyr y wawr oddeutu 05:41, 15° uwchben y gorwel Ddeheuol. Mi fyddant yn anodd i'w gweld gan na fyddant dim uwch na 15° uwchben y gorwel.

Mi fydda nhw'n rhy bell arwahan i'w gweld drwy delesgôp gyda'u gilydd, fodd bynnag, mi fydda nhw'n weledol trwy'r lygad noeth neu sbienddrych (ffigwr 4 & 5). Ar y 27ain o Fawrth y pellter rhwng y Lleuad a Iau fydd:

Y Lleuad = 0.0026 Uned Seryddol (AU’s) = 241 800 milltir

Iau = 5 AU’s = 465 000 000 milltir

Ffigwr 4. Y Lleuad a Iau yn pasio'n agos. 

Ffigwr 5. Mi fydd Iau yn weledol i'r lygad noeth fel seren fychan (wedi gylchu) ychydig o dan y lleuad.

Rhybudd: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agor i'r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda'ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.

Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi'n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae'n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS

Ffisegwr - Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.