Blog Awyr Dywyll Ionawr 2022

14.12.21

3ydd: Uchafbwynt cawod sêr Cwadrant (ffigwr 1): Rhwng y 12fed o Ragfyr a’r 12fed o Ionawr. Bydd yr arddangosfeydd gorau cyn y wawr. Bydd rhwng 60 a 200 meteor bob awr a gellir bod yn weladwy yng nghytser Bootes (ffigwr 2). Corff cychwynnol, asteroid 2003 EH1 a chomed C/1490 Y1.

Ffigwr 1.

Ffigwr 2.


6ed: Cysylltiad a dynesiad agos y Lleuad ac Iau (ffigwr 3). Yn weledol am 16:50 (Amser Safonol Greenwich) uwch y gorwel Deheuol, fel y bydd hi’n tywyllu ac yn machlud tua 20:30. Bydd yn Lleuad 373847 km o’r Ddaear a bydd Iau 842.7 miliwn km o’r Ddaear.

Ffigwr 3.


7fed: Bydd Mercher ar ei ymestyniad mwyaf i’r Dwyrain (ffigwr 4/5) gan gyrraedd ei ymwahaniad mwyaf o’r Haul yn ystod ei ymddangosiad hwyrnos yn Rhagfyr 2021, Ionawr 2022. Bydd yn disgleirio’n llachar ond ni fydd yn weladwy iawn gan fod yn anodd ei weld. Bydd yn cyrraedd uchder o 11 uwch y gorwel ar fachlud haul ar y 10fed o Ionawr. Bydd 146.45 miliwn km o’r Ddaear.

Ffigwr 4.

Ffigwr 5. Mae’r diagram yn dangos nifer o ymestyniadau posib () lle mae pob un yn bellter onglog rhwng planed a’r Haul o bersbectif y Ddaear.

9fed: Y Lleuad ar ei chwarter cyntaf (ffigwr 6). Yn weledol am 16:50 (Amser Safonol Greenwich), uwch y De Ddwyrain fel y mae’n tywyllu, Yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 18:15 uwch y De. Yn weledol hyd 23:48 pan fydd yn diflannu uwch y Gorllewin. Bydd yn ymddangos yn hanner oleuedig. Bydd 390092km o’r Ddaear.

Ffigwr 6.


17eg: Lleuad lawn (ffigwr 7). Yn y cyfnod yma o’r mis, mae’n weledol y rhan fwyaf o’r noson, yn codi tua’r cyfnos ac yn machlud yn agos i’r wawr. Pellter, 397535km o’r Ddaear. Ceir ei alw’n Lleuad y Blaidd gan ei bod yn fwy tebygol o glywed y blaidd yn udo yn y cyfnod hwn.

Ffigwr 7.


19eg: Gama () Cawod sêr yr Arth Fach (ffigwr 8/9). Yn weithredol o’r 15fed hyd y 25ain ac yn cynhyrchu’r mwyafrif o feteorau ar y 19eg yng nghytser yr Arth Fach. Bydd posibilrwydd o weld 2 meteor yr awr am 10:00 (Amser Safonol Greenwich).

Ffigwr 8. Gamma Ursae Minorids

Ffigwr 9.


25ain: Y Lleuad ar ei chwarter olaf (ffigwr 10). Yn weledol yn y bore, o 02:10 uwch y gorwel Dwyreiniol. Yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 06:15 uwch y gorwel Deheuol. Bydd yn cael ei golli i lwydolau’r wawr tua 07:40 uwch y gorwel Deheuol. Bydd yn ymddangos yn hanner oleuedig. Bydd yn bellter o 373737km o’r Ddaear.

Ffigwr 10.


29ain: Bydd cysylltiad a dynesiad agos rhwng y Lleuad a Mawrth (ffigwr 11). Yn weledol yn ystod y wawr, yng nghytser y Saethydd (ffigwr 12) ac yn ymddangos am 06:10 (Amser Safonol Greenwiwch) uwch y De Orllewin gan ddiflannu tua 07:40. Bydd Mawrth 326.5 miliwn km o’r Ddaear a bydd y Lleuad yn bellter o 362326km.


Ffigwr 11.

Ffigwr 12.


31ain: Clwstwr cwch gwenyn (M44, NGC 2632, gelwir hefyd yn Praesepe (ffigwr 13). Yn weledol o 18:20 (Amser Safonol Greenwich) yn nghytser y Cranc (ffigwr 14) uwch y Dwyrain. Yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 00:18, uwch y gorwel Ddeheuol. Yn weledol hyd 06:10 gan ddiflannu i’r Gorllewin. Bydd yn anodd ei weld gyda llygad noeth heblaw o safle dywyll, fodd bynnag, yn weledol drwy ysbienddrych neu delesgôp bychan. Bydd 577.4 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd o’r Ddaear.

Ffigwr 13.

Ffigwr  14.

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.


Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi


Ffisegwr:
Ymasiad Ffiseg Niwclear & Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.