Awyr Dywyll Chwefror 2022

31.01.22

6ed/7fed: Bydd Mercher ar ei uchaf yn yr awyr foreol (ffigwr 1), yn ystod ei ymddangosiad boreol yn Ionawr/ Chwefror 2022. Bydd yn disgleirio’n llachar yn y De Ddwyrain, gan gyrraedd uchafbwynt uwchben y gorwel yn ystod y wawr ar y 7fed, ac efallai y bydd yn anodd arsylwi arno. Bydd tua 120 miliwn km o’r Ddaear.

Ffigwr 1.

8fed: Y Lleuad ar ei chwarter cyntaf (ffigwr 2), yn ymddangos yn amlwg yn yr awyr gyda’r nos ac yn machlud yng nghanol y nos. Yn weledol am 17:40 (Amser Cymedrig Greenwich) uwch y gorwel i’r De, fel mae hi’n troi yn dywyllwch. Yn cyrraedd ei uchafbwynt am 18:10, uwch y gorwel i’r De. Yn weledol tan 00:45 ac yn diflannu uwch y gorwel i’r Gorllewin. Bydd yn ymddangos yn hanner oleuedig. Bydd 396204 miliwn km o’r Ddaear.

Ffigwr 2.

9fed/ 11eg: Bydd Gwener ar ei ddisgleirdeb mwyaf (ffigwr 3), efallai na fydd yn amlwg iawn, bydd i’w gael yng nghytser Scutum yn y De/ Ddwyrain (ffigwr 4). Bydd tua 68 miliwm km o’r Ddaear. Ar y 11eg bydd Gwener yn dangos hanner cyfnod canolog sy’n cael ei alw’n dicotomi (ffigwr 5) tua’r un adeg ac mae’n ymddangos pellaf oddi wrth yr haul, ar ei ymestyniad mwyaf. Gall yr amser penodol o’r ddau ddigwyddiad fod yn wahanol o ryw ychydig ddyddiau, dim ond oherwydd nad yw orbit Gwener wedi ei alinio’n berffaith gyda’r ecliptig.

Ffigwr 3.

Ffigwr 4.

Ffigwr 5.

13eg: Cysylltiad Gwener a Mawrth (ffigwr 6), yng nghytser y Saethydd (ffigwr 7). Dylai fod yn weledol i’r llygad noeth tua 6yb yn y De Ddwyrain. Bydd Gwener 62 miliwn km o’r Ddaear a Mawrth 312 miliwn km.

Ffigwr 6.

Ffigwr 7.

16eg: Lleuad lawn (ffigwr 8). Hefyd yn cael ei adnabod fel “Lleuad Eira”. Yn y cyfnod yma o’r mis, mae’n weledol am y rhan fwyaf o’r nos, yn codi yn yr hwyrnos ac yn machlud yn ystod y wawr. Bydd tua 386131km o’r Ddaear.

Ffigwr 8.

23ain: Y Lleuad ar ei chwarter olaf (ffigwr 9). Yn weledol yn y bore, tua 03:30 uwch y De Ddwyrain. Yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 06:15 uwch y gorwel i’r De. Yn pylu tua 06:50 uwch y gorwel i’r De. Bydd yn edrych o gwmpas yn hanner oleuedig. Bydd yn Lleuad tua 370000km o’r Ddaear.

Ffigwr 9.

27ain: Cysylltiad y Lleuad a Gwener (ffigwr 10). Bydd y Lleuad a Gwener yn rhannu'r un esgyniad cywir, y Lleuad yn mynd heibio Gwener 8°44’ i’r De Yn weledol o 04:55 and yn cyrraedd uchder o 12° uwch y De Ddwyrain cyn diflannu yn ystod y wawr, tua 06:45. Bydd y ddau yng nghytser y Saethydd (ffigwr 7). Bydd y Lleuad tua 368700km o’r Ddaear a bydd Gwener 77 miliwn km.

Ffigwr 10.

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi


Ffisgegwr:
Ffiseg Ymasiad Niwclear
Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.