Awyr Dywyll Mawrth 2022

28.02.22

10fed: Y Lleuad ar ei chwarter cyntaf (ffigwr 1). Bydd 399082 km o’r Ddaear. Bydd yn weledol tua 18:30 (Amser Cymedrig Greenwich) uwch y gorwel i’r De. Yn machlud tua 02:45. Bydd yn ymddangos yn hanner oleuedig.

Ffigwr 1

18fed: Lleuad lawn (ffigwr 2). Yn weledol y rhan fwyaf o’r nos, yn codi yn ystod yr hwyrnos ac yn machlud yn ystod y wawr. Bydd tua 376300 km o’r Ddaear. Caiff Lleuad lawn Mawrth ei alw’n Lleuad y Mwydyn. Caiff y Lleuad lawn olaf yn nhymor y gaeaf ei alw’n Lleuad y Mwydyn gan fod y pryfed genwair yn dod allan ar ddiwedd y gaeaf.

Ffigwr 2

20fed: Cyhydnos (Equinox) Mawrth (ffigwr 3/4/5). Yn 2022 bydd y gyhydnos yn dogwydd tua 15:33 (ACG). Bydd yr Haul 148.97 miliwm km o’r Ddaear. Ar ddiwrnod y gyhydnod, bydd gan bobman ar y Ddaear tua 12 awr o dydd a nos, fel mae taith flynyddol yr Haul drwy’r cytser y sidudd yn ei gario ar draws y cyhydedd wybrennol.

Ffigwr 3.

Ffigwr 4.

Ffigwr 5. Cyhydnos Mawrth yng Nhgôr y Cewri, Wiltshire


20fed: Bydd Gwener ar ei ymestyniad fwyaf i’r Gorllewin (ffigwr 6/6a). Bydd yn cyrraedd ei ymwahaniad fwyaf o’r Haul yn ei ymddangosiad boreol o 2022. Ni fydd yn amlwg iawn a bydd efallai ychydig yn anodd ei weld, byddai ysbienddrych yn cynorthwyo i weld yn well. Bydd Gwener 101.716 miliwn km o’r Ddaear.


Ffigwr 6.

Ffigwr 6a.


25ain: Y Lleuad ar ei chwarter olaf (ffigwr 7). Bydd yn amlwg yn ystod yr awyr foreol cyn y wawr. Yn weledol am 02:57, cyn pylu o’r golwg fel mae’r wawr yn torri am 05:45. Bydd yn ymddangos rhyw hanner oleuedig ar bellter o 369043km.


Ffigwr 7.

28ain: Cysylltiad y Lleuad a Gwener (ffigwr 8). Byddant yn weledol yn ystod y wawr o 05:30 uwch y De Ddwyrain cyn pylu o'r golwg am 06:40. Bydd y Lleuad yn bellter o 374617 km a bydd Gwener 110.5 miliwn  km. Bydd i'w weld yng nghytser yr Afr (ffigwr 9).


Ffigwr 8.



Ffigwr 9.


28ain: Dynesiad agos y Lleuad, Gwener a Sadwrn (ffigwr 10). Bydd yn anodd arsylwi arno. Bydd yn weledol yn ystod y wawr (cytser yr Afr (ffigwr 9)), o 05:30 uwch y De Ddwyrain cyn pylu o'r golwg am 06:30. Bydd y Lleuad 374692 km o’r Ddaear tra bydd Gwener 110.5 miliwn km a Sadwrn yn 1581.4 miliwn km.


Ffigwr 10.

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi
Ffisegwr
Ymasiad Ffiseg Niwclear
Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.