Blog Awyr Dywyll Ebrill 2022

31.03.22

9fed: Y Lleuad ar ei chwarter cyntaf (ffigwr 1). Yn weledol am 21:25 (Amser Haf Prydain), uwch y De Orllewin fel mae hi’n nosi. Yn symud tuag at y gorwel ac yn machlud am 05:10. Bydd yn ymddangos yn hanner oleuedig. Bydd yn bellter o tua 396283km o’r Ddaear.

Ffigwr 1

16eg: Lleuad lawn (ffigwr 2). Yn weledol y rhan fwyaf o’r nos, gan godi yn yr hwyrnos ac yn machlud yn y wawr. Bydd tua 368750km o’r Ddaear. Mae lleuad llawn Ebrill yn cael ei alw’n Lleuad Wridog ar ôl y fflocs sef blodau pinc sydd yn blodeuo ar ddechrau’r gwanwyn. Caiff hefyd ei alw’r Lleuad y Pasg gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i gyfrif y dyddiad ar gyfer y Pasg.


Ffigwr 2


22ain: Cawod sêr Lyrid (ffigwr 3). Yn weithredol o’r 16eg hyd y 25ain/26ain gyda’r nifer fwyaf o feteorau ar y 22ain. Caiff y Lyridau eu gwêl dyn nghytser Ercwlff (ffigwr 4). Mae’r corff cychwynnol sydd yn gyfrifol am greu’r gawod Lyrid yn cael ei adnabod fel comed C/1861 G1 (Thatcher (ffigwr5)). Mae posib gweld hyd at 20 meteor yr awr. Bydd yr uchafbwynt tua 20:00 Amser Haf Prydain.


Ffigwr 3.


Ffigwr 4.


Ffigwr 5.

23ain: Y Lleuad ar ei chwarter olaf (ffigwr 6). Bydd i’w weld yn ystod y wawr, gan godi tua 04:50 (Amser Haf Prydain), uwch y De Ddwyrain gan bylu yn ystod y wawr. Bydd tua 370412km o’r Ddaear. Bydd yn ymddangos yn hanner oleuedig i’r arsyllydd.


Ffigwr 6


24ain: Cysylltiad y Lleuad a Sadwrn (ffigwr 7). Bydd y ddau yn weledol uwch y De Ddwyrain yn ystod y wawr, cyn pylu o’r golwg fel mae’r wawr yn torri. Ar yr un pryd, bydd y ddau hefyd yn gwneud dynesiad agos, sydd yn cael ei alw’n ‘appulse’ yn dechnegol (lle mae dau neu fwy o wrthyrchau seryddol, fel arfer y planedau neu’r lleuad yn ymddangos yn agos i’w gilydd yn yr awyr). Bydd Sadwrn 1524.8 miliwn km o’r Ddaear a bydd y Lleuad 374107km o’r Ddaear. Byddant wedi ei lleoli yn nghytser yr Afr.


Ffigwr 7.


Ffigwr 8

28ain: Bydd Mercher ar ei uchder mwyaf gyda’r nos (ffigwr 9). Bydd yn cyrraedd ei bwynt uchaf yn yr awyr yn ei ymddangosiad yn yr hwyrnos yn ystod Ebrill/ Mai 2022. Bydd yr ymddangosiad wedi ei osod yn dda, fodd bynnag, bydd yn her i arsylwi arno, a bydd yn cyrraedd uchafbwynt uwch y gorwel yn ystod machlud ar y 29ain o Ebrill. Bydd Mercher 129 miliwn km o’r Ddaear.



Ffigwr 9.

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi, Ymasiad Ffiseg Niwclear & Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.