Awdur ein Blog

14.03.19

Ar nosweithiau clir, mae syllu ar y sêr yng Nghymru'n wirioneddol wefreiddiol. Mae ansawdd yr awyr dywyll a'r tirweddau ysblennydd yn lleoliad perffaith, lle gallaf fwynhau fy ngwaith beunyddiol a'm diddordeb.  Rwy'n gobeithio bod fy mlogiau yn ennyn diddordeb pobl yn y sêr a'r planedau a phrosesau rhyfeddol y Llwybr Llaethog a'r tu hwnt.

Rwy'n ffisegydd a fy maes ymchwil gwyddonol yw ffiseg ymasiad thermoniwclear. Mae gennyf ddiddordebau ymchwil hefyd ym maes Astroffiseg.

Fel ymgynghorydd y dechreuais weithio gyda chanolfan Darwin Sir Benfro ym mis Ionawr 2013, gan gynnal darlithoedd ar seryddiaeth ac astroffiseg i sefydliadau ieuenctid (y cybiaid a'r brownis) yn ogystal ag i ysgolion cynradd yn y sir.

Drwy ganolfan Darwin rwyf hefyd yn cynnal darlithoedd ar ymasiad thermoniwclear i fyfyrwyr ffiseg safon uwch yng Ngholeg Sir Benfro ac mewn ysgolion uwchradd amrywiol yn Sir Benfro.  

Lle bo'n bosibl, rwy'n cynorthwyo canolfan Darwin gyda'r gwaith o ddatblygu cwricwlwm sydd â chysylltiad agos â gofynion addysgol STEM ysgolion.                    

Yn ogystal â threulio amser yng nghanolfan Darwin, rwyf hefyd yn gwneud gwaith gwyddonol ac yn gweithio gyda sefydliadau addysgol amrywiol (prifysgolion etc) ledled y DU.

Ymhlith cymwysterau proffesiynol Mark R Smith mae ffiseg ar lefel gradd gyda pheirianneg, astroffiseg ar lefel ôl-raddedig a chymhwyster ôl-raddedig uwch mewn ffiseg niwclear gyda pheirianneg. Mae hefyd yn Gymrawd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.