Awyr y Nos : Tachwedd 2021

27.10.21

4ydd: Wranws mewn gwrthgyferbyniad (ffigyrau 1/2/2a). Yn cyrraedd ei wrthgyferbyniad pan yn i’r gwrthwyneb o’r haul. Cytser yr Hwrdd ac yn weledol y rhan fwyaf o’r noson, 19:10 i 05:05. Gellir ei weld yn y Dwyrain a bydd yn diflannu i’r Gorllewin.

Mae’r corff seryddol ar wrthwyneb pan mae’n gwneud dynesiad agos i’r pwynt sydd yn uniongyrchol i’r gwrthwyneb o’r haul yn awyr y nos. Gyda chefndir awyr dwyll, bydd posib gweld Wranws gyda’r llygad noeth, fodd bynnag byddai’n llawer mwy gweledol drwy ddefnyddio ysbienddrych neu delesgop.

Ffigwr 1: Wranws

Ffigwr 2: Wranws mewn gwrthgyferbyniad




Ffigwr 2a

10fed: Cysylltiad y Lleuad a Sadwrn (ffigwr3). Yn weledol o 16:58 (Amser Haf Prydain) yn awyr y De. Gellir ei weld hyd 20:45 a bydd yn diflannu i’r De Orllewin. Cytser yr Afr (ffigwr 3a).

Bydd yn Lleuad 373309k, o’r Ddaear a bydd Sadwrn 1506 miliwn km o’r Ddaear, Byddant hefyd yn gwneud dynesiad agos.

Ffigwr 3: Cysylltiad yw pan mae dwy blaned yn unioni fel eu bod yn ymddangos i fod yn yr un lle, neu bron yr un lle yn yr awyr,

Ffigwr 3a.

11eg:  Cysylltiad a dynesiad agos y Lleuad ac Iau (ffigwr 4). Yn weledol o 16:58 (Amser Haf Prydain) i’r De Ddwyrain. Yn weledol hyd 22:15 ac yn diflannu i’r De Orllewin. Bydd y Lleuad 378704 cilomedr o’r Ddaear a bydd Iau bellter o 724 miliwn cilomedr.

Ffigwr 4: Yn weledol yn nghytser yr Afr. (ffigwr 3a)

12fed: Cawod sêr y Tarw Gogleddol (ffigwr 5), yn weithredol o’r 20fed o Hydref hyd y 10fed o Dachwedd, gyda’r uchafbwynt o feteorau tua’ r 12fed. Wedi ei leoli yng nghytser y Tarw (ffigwr 6). Bydd yn creu’r arddangosfeydd gorau tua 01:00 (amser Greenwich). Corff cychwynnol, asteroid 2004 TG10.

Ffigwr 5.

Ffigwr 6: Gellir gweld i fyny at 5 meteor mewn awr.



17eg: Uchafbwynt cawod sêr Leonid (ffigwr 7). Yn weithredol o’r 6ed o Dachwedd hyd y 30ain o Dachwedd yng nghytser y Llew (ffigwr 8). Yn weledol am 22:30 bob nos pan fydd y pwynt pelydrol uwch y Dwyrain. Yn weithredol hyd tua 07:00. Posibilrwydd o we’d rhwng 5 ag 20 o feteorau mewn awr. Corff cychwynnol, comed 55p/Temple-Tuttle.

Ffigwr 7.

Ffigwr 8.

17eg: M45- clwstwr sêr agored y Pleiades (ffigwr 9) yn nghytser y Tarw. Yn weledol o 17:40, yn y Gogledd Ddwyrain ac yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 00:20 yn De. Yn diflannu tua 06:40 yn y Gorllewin. Yn weledol i’r llygad noeth, fodd bynnag byddai edrych drwy sbienddrych neu delesgop yn well.

Ffigwr 9: clwstwr sêr agored gyda mwy na 100 o sêr. Mae’r pellter o’r Ddaear 444 o flynyddoedd goleuni.


19eg: Lleuad lawn (ffigwr 10). Mae’r Lleuad lawn ym mis Tachwedd (beaver Moon) yn cael ei enwi ar ôl yr afancod sydd yn adeiladu eu hargae gaeafol yr amser yma o’r flwyddyn. Caiff hefyd ei adnabod fel Lleuad rhew gan rai llwythi Americanwyr cynhenid. Yn weledol y rhan fwyaf o’r nos fel mae hi’n nosi ac yn machlud tua’r wawr. Bydd y pellter o’r Ddaear 400947 cilomedr.

Ffigwr 10.

21ain: Uchafbwynt (alpha) Cawod sêr Monocerotid (ffigwr 11). Yn weithredol o’r 15fed hyd y 25ain yng nghytser Canis Fach (ffigwr 12). Yn weledol am 21:55 pan fydd y pwynt pelydrol uwch y Dwyrain. Yn weithredol hyd 07:08. Corff cychwynnol, comed C/1917 F1 (Mellish). Mae posib gweld hyd at 5 meteor yr awr.


Ffigwr 11.

Ffigwr 12.

28ain: Uchafbwynt cawod sêr Tachwedd yr Orionid (ffigwr 13), yn weithredol o’r 13 o Dachwedd hyd 6 Rhagfyr. Yn weledol 18:25 yn y Dwyrain. Yn weithredol hyd 07:20. Bydd posib o weld hyd at 3 meteor yr awry n nghytser Orion (ffigwr 14)

Ffigwr 13.

Ffigwr 14. Cytser Orion fel y’i gwelir drwy’r lygad noeth

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.


Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi


Ffisegwr:
Ymasiad Ffiseg Niwclear
Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.