2il: Lleuad lawn. Bydd gyferbyn a’r haul, ac yn uchel uwch y gorwel y rhan fwyaf o’r noson. Bydd y grawn leuad/ ffrwyth leuad (ffigwr 1) tua 3399000 o gilomedrau o’r ddaear. Wrth gyrraedd ei gyfnod llawn, bydd yng nghytser y Dyfriwr (ffigwr 2)
Ffigwr 1: Ffrwyth leuad
Ffigwr 2: Cytser Y Dyfriwr
9fed (Epsilon)- cawod sêr Perseid (ffigwr 3 & 4).
Mi fydd cawod sêr gwib Perseid yn weithredol o’r 5ed hyd yr 21ain o Fedi ac mae’r nifer mwyaf o sêr gwib i’w gweld ar y 9fed. Mi fydd y pwynt pelydrol uwch y gorwel ac felly’n weledol drwy’r nos a byddant i’w gweld ar eu gorau cyn y wawr tua 06:00. Bydd posib gweld i fyny i 4 seren wib bob awr pan fyddant ar eu gorau.
Ffigwr 3: Pwynt pelydrol cawod sêr Perseid yng nghytser Perseus.
Ffigwr 4: Cawod sêr Perseid
22ain yw cyhydnos Medi (Hydref) (Ffigwr 5)
Ffigwr 5: Cyhydnos yr Hydref
Ar ddiwrnod y gyhydnos, mae gan bob man ar y ddaear tua 12 awr o ddydd a nos, mae taith flynyddol yr haul drwy gytserau’r Sidydd yn ei gario ar draws y cyhydedd wybrennol. Daw’r gair Saesneg equinox o’r Lladin aequus (cydradd) a nox (nos).
Ble bynnag yr ydych ar y ddaear ar ddiwrnod y gyhydnos, bydd yr haul yn codi o’r gorwel sydd yn gorwedd i’r Dwyrain, ac yn machlud o dan bwynt sydd yn gorwedd i’r Gorllewin.
Mae’r gyhydnos yn digwydd yr ennyd pan mae’r haul wedi ei leoli yn union dros gyhydedd y ddaear sef yr adeg pan nad yw echel y ddaear ddim yn gogwyddo i ffwrdd o’r haul na thuag at yr haul. (ffigwr 5)
Ffigwr 6: Cysylltiad agos y Lleuad ac Iau.
Bydd y Lleuad tua 387000 cilomedr o’r ddaear, tra bod Iau yn 715.5 miliwn cilomedr o’r ddaear.
Ffigwr 7: Cysylltiad agos y Lleuad a Sadwrn
Bydd posib eu gweld tua 19:30 fel mae hi’n nosi 14° uwch y gorwel Deheuol.
Yn weledol tan 23:35 ac yn pylu o dan 7° uwch y gorwel De Gorllewinol.
Mae’n ymddangos yng nghytser y Saethydd. Bydd y Lleuad tua 378000 cilomedr o’r ddaear tra bydd Sadwrn tua 1432.7 miliwn cilomedr o’r ddaear.
27ain: Cawod sêr dydd Sextandid (ffigwr 8 &9).
Byddant eu gorau tua 07:00 ar y 27ain a bydd y pwynt pelydrol yn codi uwch y gorwel Dwyreiniol. Ffynhonnell y gawod sêr yw asteroid U2005UD.
Ffigwr 8: Cawod sêr Sextandid.
Ffigwr 8: Cawod meteor Sextandid
Ffigwr 9: Cawod meteor Sextandid
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Physicist
Nuclear Fusion Physics
Astrophysics
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.