e (epsilon) - Cawod sêr Perseid fydd yn weithredol o'r 5ed i'r 21ain gan gynhyrchu cawodydd sêr gweithredol iawn ar y 9fed a'r 10fed (ffigwr 1a a b). Mi fydd y cawodydd yn ymddangos ar uchder o 78° uwch y gorwel a gellir gweld hyd at 4/5 ohonynt ar ei chyfnod brig (00:00 - 05:00 BST).
Dros y cyfnod yma mi fydd cyfle gweld cawodydd ε-Perseid pryd bynnag fydd y berf yng nghytser Perseus (ffigwr 1c) uwch y gorwel, gyda nifer o sêr gweladwy yn cynyddu os fydd y befr yn uwch yn yr awyr.
Ffigwr 1(a): Cawod sêr Perseid.
Ffigwr 1 (b): Cawod sêr Perseid. Hawlfraint: Dhilung Kirat/Flickr.
Ffigwr 1(c): Cytser Perseus.
Mi fydd Lleuad Llawn yn ymddangos ar y 14eg. Ar y nosweithiau'n dilyn y 14eg mi fydd yn codi oddeutu awr yn hwyrach bob diwrnod gan ymddangos yn fwy llewyrchus yn hwyrach yn y nos. O fewn ychydig ddyddiau dim ond yn awyr y bore bydd yn ymddangos. Fel bydd yn cyrraedd y chwarter olaf, tua wythnos ar ôl lleuad llawn mi fydd yn codi am hanner nos ac yn machlud o gwmpas hanner dydd.
Pan fydd y Lleuad ar ei lawnaf mi fydd yn gorwedd yng nghytser y Dyfrwr (ffigwr 3) ac yn ymddangos yn uchel yn yr awyr. Mi fydd 406,000 km o'r Ddaear.
Ffigwr 2: Lleuad Llawn.
Ffigwr 3: Cytser y Dyfrwr.
Ar yr 22ain mi fydd y lleuad yn ei chwarter olaf (ffigwr 4) ac yn weledol yn awyr y wawr yn codi aqm 22:55 BST gan gyrraedd uchder o 59° uwch y gorwel Ddeheuol cyn pylu fel y bydd yn gwawrio am 06:38. Mi fydd y Lleuad yn edrych ar hanner llewyrch a mi fydd yn edrych fel siap pei wedi dorri yn ei hanner.
Ffigwr 4: Lleuad yn ei chwarter olaf.
22ain fydd cyhydnos mis Medi (ffigwr 5) yn dynodi diwrnod cyntaf tymor yr Hydref yn hemisffer y Gogledd. Ar ddiwrnod y cyhydnos mi fydd 12 awr o ddydd a nos i bron bawb ar y Ddaear fel mae'r Haul yn teithio drwy gytser y Sidydd.
Ble bynnag fyddwch chi ar y Ddaear yn ystod y Cyhydnos mi fydd yr Haul yn codi o'r pwynt ar y gorwel i'r Dwyrain ac yn machlud ar y pwynt Gorllewinol.
Ffigwr 5: Cyhydnos yr Hydref.
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agos i’r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi’n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae’n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.