5ed: Uchafbwynt arddangosfa meteor Camelopardalid (ffigwr 1), yn weithredol o’r 5ed i’r 6ed. Pwynt pelydrol yng nghytser y Ddraig ac yn weithredol drwy’r nos. Bydd yr arddangosfeydd gorau ychydig cyn y wawr pan mae’r pwynt pelydrol ar ei uchaf. Mae’r arddangosfa’n digwydd fel mae’r Ddaear yn pasio drwy falurion comed 209P/LINEAR (Lincoln Near Earth Asteroid Research) sydd yn gwneud orbit cyfan o’r Haul bob rhyw 5 mlynedd.
Ffigwr 1.
8fed: Uchafbwynt cawod sêr y Ddraig (ffigwr2/3), yn weithredol tan y 10fed. Cytser y Ddraig, yn weithredol drwy’r nos. Bydd yr arddangosfeydd gorau toc wedi iddi nosi. Y corff cychwynnol yw comed 21P/Giacobini-Zinner ac yn cymryd tua 6.6 mlynedd i wneud orbit o’r haul.
Ffigwr 2
Ffigwr 3
10fed: Uchafbwynt cawod sêr y Tarw Deheuol (ffigwr 4/5), yn weithredol o’r 10fed o Fedi hyd yr 20fed o Dachwedd yng nghytser Cetus. Yn weledol o 19:20 bob nos pan mae’r pwynt pelydrol uwch y gorwel i’r Dwyrain. Yn weithredol hyd 07:00. Bydd yr arddangosfeydd gorau 02:00 (Amser Haf Prydain). Corff cychwynnol yw comed 2P/Encke.
Ffigwr 4: Pump+ meteor yr awr
Ffigwr 5.
11eg: Bydd Sadwrn yn cwblhau ei fudiant gwrthredol (ffigwr 6/7/8) gan ddiweddu ei symudiad Gorllewinol drwy’r cytserau ac yn dychwelyd i symudiad Dwyreiniol arferol. Mae mudiant gwrthredol yn cael ei achosi gan symudiad y Ddaear o amgylch yr Haul. Fel y mae’r Ddaear yn cylchdroi’r Haul, mae ein persebectif yn newid, gan achosi lleoliad ymddangosol o wrthychau i symud o ochr i ochr yn yr awyr gyda chyfnod o un blwyddyn. Mae’r symudiad siglog yma’n cael ei arosod ar symudiad Dwyreiniol hir dymor y blaned drwy’r cytserau. Bydd Sadwrn 1431 miliwn km o’r Ddaear.
Ffigwr 6: Mae’r saeth llwyd yn dangos golyglin i’r blaned. Mae’r diagram ar y Dde yn dangos symudiad ymddangosol y blaned ar draws yr awyr fel y gwelir o’r Ddaear.
Ffigwr 7: Symudiad Arosod Sadwrn.
Ffigwr 8.
Yn weledol 19:10 (Amser Haf Prydain) uwch y gorwel i’r De. Yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 20:35 uwch y gorwel i’r De. Yn weledol hyd 23:15 gan ddiflannu uwch y De Orllewin.
11ain: Uchafbwynt d (Delta) uwch y gorwel i’r De. Cawod sêr Aurigid (ffigwr 9/10/11), yn weithredol o’r 10fed i’r 18fed. Arddangosfeydd gorau 06:00 (amser Haf Prydain) pan mae’r pwynt pelydrol uchaf yn yr awyr. Cytser Auriga. Gellir gweld 2 neu 3 bob awr.
Ffigwr 9.
Ffigwr 10.
Ffigwr 11.
14eg: Cysylltiad (grwpio agos (ffigwr12)) o’r Lleuad a Sadwrn, 18:50 (Amser Haf Prydain) uwch y gorwel i’r De Ddwyrain. Yn weledol hyd 23:30 yn nghytser yr Afr. Bydd Sadwrn 1440.5 miliwn cilomedr o’r Ddaear a bydd y Lleuad 378640 cilomedr i ffwrdd. Byddant hefyd yn gwneud dynosiad agos, gan fynd heibio o fewn 3°50’ i’w gilydd.
Ffigwr 12.
15fed: Cysylltiad agos o’r Lleuad a Iau (ffigwr 13), 18:50 (Amser Haf Prydain) uwch y gorwel i’r De Ddwyrain. Yn weledol hyd 01:00. Byddant hefyd yn gwneud dynosiad agos, y Lleuad yn mynd heibio 4°08’ i’r De o Iau. Bydd y Lleuad 381824 cilomedr o’r Ddaear a bydd Iau 664.5 miliwn cilomedr.
Ffigwr 13.
18fed: Bydd Iau yn diweddu ei fudiant gwrthredol (ffigyrau 6/7/14). Yn weledol 18:40 (Amser Haf Prydain) uwch y gorwel i’r De Ddwyrain. Yn weledol hyd 00:45, gan ddiflannu uwch y gorwel i’r De Orllewin.
Ffigwr 14.
18fed: Uchafbwynt e (Epsilon) Cawod sêr yr Efeilliaid (ffigyrau 15/16), yn weithredol o’r 14ain hyd y 27ain. Yn weledol 21:30 bob nos uwch y gorwel i’r Dwyrain. Yn weithredol hyd 07:10. Cytser yr Efeilliad a gellir gweld i fyny i 3 meteor yr awr.
Ffigwr 15.
Ffigwr 16.
21ain: Uchafbwynt cawod sêr Orion (ffigyrau 17/18), pwynt pelydrol, cytser Orion, gorwel i’r Dwyrain. Gweledol 22:00 hyd 07:15. Comed cychwynnol 1P/Halley. Posibilrwydd o weld 15 meteor yr awr.
Ffigwr 17.
Ffigwr 18.
24ain: Cawod sêr Leonis Minorid (ffigwr 19). Yn weithredol hyd y 27ain yng nghytser y Llew Bach. Arddangosfeydd gorau cyn y wawr ar y 24ain ac wedi’r hwyrnos ar y 24ain. Corff cychwynnol comed C/1739K1. Dau feteor yr awr.
Ffigwr 19.
28ain: Chwarter olaf y Lleuad (ffigwr 20), Yn weledol 00:17 uwch y Gogledd Ddwyrain. Bydd yn pylu am 07:42 uwch y gorwel i’r De. Bydd yn ymddangos 48% wedi ei oleuo ar bellter o 394530 cilomedr o’r Ddaear.
Ffigwr 20.
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisgegwr:
Ymasiad Ffiseg Niwclear
Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.