Awyr y Nos : Mai 2021

03.05.21

3ydd: Cysylltiad y Lleuad a Sadwrn (ffigwr 1). Bydd weledol ystod y wawr, o 03:03 (Amser Safonol Prydain), a bydd uwchben y gorwel De Ddwyreiniol cyn diflannu o’r golwg fel mae’r wawr yn torri, tua 05:20. Bydd y ddau yn weledol i’r llygad noeth. Bydd Sadwrn 1484 miliwn cilomedr o’r Ddaear, tra bydd y Lleuad 378601 o’r Ddaear. Bydd y ddau wrthrych yn agosach i’r Ddaear nag yr oeddent ym mis Ebrill. Byddant yng nghytser yr Afr (ffigwr 2)

Ffigwr 1. Cysylltiad y Lleuad a Sadwrn

Ffigwr 2.

4ydd: Cysylltiad y Lleuad ag Iau (ffigwr 3). Byddant yn weledol yn ystod yr awyr foreol ac yn esgyn am 03:35 (Amser Safonol Prydain)  gan gyrraedd 12° uwch y gorwel De Ddwyreiniol cyn diflannu fel mae’r wawr yn torri tua 05:20. Bydd yn weledol i’r llygad noeth neu gydag ysbienddrych. Bydd y Lleuad 384209 cilomedr o’r Ddaear, tra bydd Iau 780.9 miliwn cilomedr o’r Ddaear. Bydd y ddau yn ymddangos yng nghytser y Dyfriwr (ffigwr 2).

6ed: h (Eta)- Cawod sêr wib y Dyfriwr (ffigwr 4. Yn weithredol o’r 19eg Ebrill tan 28ain o Fai, gyda’r uchafbwynt o feteorau tua’r 6ed o Fai. Bydd efallai yn bosib gweld h- cawod sêr y Dyfriwr pryd bynnag y bydd y  pwynt pelydrol yng nghytser y Dyfriwr (ffigwr 2) uwchben y gorwel. Bydd y gawod sêr yn weledol tua 02:55 bob nos, pan y bydd y pwynt pelydrol uwchben y gorwel Ddwyreiniol. Bydd yn parhau i fod yn weithredol tan tua 05:00. Mae posibilrwydd o weld 12 meteor bob awr. Mae h sêr gwib Y Dyfriwr yn ddarnau bychan o greigiau o Gomed Halley sydd yn y gomed adnabyddus ac yn weledol o'r Ddaear bob 76 mlynedd. Fel mae’r gomed yn cylchdroi yn agos i’r haul, mae’r corff creigiog yn dirywio o dan wres eithafol yr haul ac yn rhyddhau darnau o’r gomed greigiog.

Ffigwr 4.

8th: η - Lyrid meteor shower (figure 5). Active between 3rd May and 14th, having peak of meteors on approximately the 8th. In constellation Lyra (figure 6), it will be active throughout the night. Expected to reach peak activity, 17:00 BST on the 8th, so best displays will be after dusk. Possibility of seeing upto 18 meteors per hour at peak.

Ffigwr 5.

Ffigwr 6.

13eg: Bydd Mercher yn cyrraedd ei leoliad uchaf yn awyr yr hwyrnos (ffigwr 7). Bydd yn anodd ei weld, gan gyrraedd ei uchafbwynt o 16° uwch y gorwel pan fydd yr haul yn machlud ar y 14eg. Bydd Mercher 135.7 miliwn cilomedr o’r Ddaear. Mae’n werth yr her i geisio ei weld.

Ffigwr 7

26ain: Lleuad lawn (ffigwr 8). Byd y Lleuad tua 362814 cilomedr o’r Ddaear. Bydd yn weledol y rhan fwyaf o’r nos, gan godi fel mae’n tywyllu ac yn machlud yn ystod y wawr.

Ffigwr 8.

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.

Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi

Ffisegwr
Ymasiad Niwclear
Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.