Night Sky : July 2021

01.06.21

1af: Cysylltiad y Lleuad a Iau (ffigwr 1). Bydd yn weledol yn ystod y wawr, yn esgyn am 01:52 (Amser Haf Prydain), 3 awr 11 munud cyn yr haul, uwch y gorwel i’r De Ddwyrain cyn diflannu o’r golwg fel mae’r wawr yn torri am 04:35. Bydd y ddau yn weledol i’r llygad noeth neu drwy ysbienddrych. Ar yr un prys, bydd y ddau wrthrych yn dynesu’n agos.  Bydd y Lleuad 381926 cilomedr o’r Ddaear, a bydd Iau 715.4 miliwn cilomedr o’r Ddaear. Byddant yn nghytser y Dyfriwr.

Ffigwr 1.

10fed: 23% Eclips Anwlar yr Haul (ffigwr 2). Ni fydd posib gweld 23% o’r haul yng Nghymru, fodd bynnag, ymhobman arall ym Mhrydain ni fydd posib gweld 39% o’r haul. Ni fydd posib gweld yr eclips anwlar cyfan. Bydd yn 23% am 11:06 Amser Haf Prydain. Bydd y Lleuad 400404 cilomedr o’r Ddaear, a’r Haul 151.88 miliwn cilomedr o’r Ddaear.

Ffigwr 2.

10fed: Cawod sêr Arietid (ffigwr 3 a 4). Bydd yn weithredol tan y 24ain o Fehefin, gan gynhyrchu’r swm mwyaf o feteorau rhwng y 7fed a’r 10fed. Ni fydd y gawod yn weledol cyn 02:35 bob nos, pan fydd y pwynt pelydrol yn codi uwch y gorwel i’r Dwyrain. Bydd yn parhau i fod yn weithredol tan y wawr, 04:10. Ar ei uchafbwynt, bydd disgwyl i’r gawod gynhyrchu 10 meteor bob awr. Corff cychwynnol comdt 96P/Machhols. Cytser yr Hwrdd.

Ffigwr 3.

Ffigwr 4.

13eg: Cysylltiad y Lleuad â Mawrth (ffigwr 5). Yn dod yn weledol am 22:06 (Amser Haf Prydain, fel mae hi’n nosi, uwch y gorwel i’r Gorllewin. Ym symud ymlaen tuag at y gorwel, gan fachlud 2 awr, 30 munud wedi’r haul. Cytser y Cranc (ffigwr 6).

Bydd y Lleuad 392914 cilomedr o’r Ddaear a bydd Mawrth 349 miliwn cilomedr o’r Ddaear.

Ffigwr 5.


Ffigwr 6.

21ain: Heulsaf Mehefin (ffigwr 7 a 8). Diwrnod hiraf 2021 yn yr hemisffer Gogleddol, dydd canol haf. Y diwrnod ble mae’r haul yn yn gwneud ei daith flynyddol drwy gytser y sidydd sydd yn ei gario i’r pwynt mwyaf Gogleddol yn yr awyr, yng nghytser y Cranc ar ogwydd 23.45°G. Caiff ei ysytyried gan seryddwyr i fod y diwrnod cyntaf o’r haf yn hemisffer y Gogledd. Bydd y Ddaear 152 miliwn cilomedr o’r haul.

Ffigwr 7




Ffigwr 8.

27ain: Cysylltiad y Lleuad a Sadwrn (ffigwr 9 a 10), yn weledol yn awyr y bore, o 00:35 uwch y gorwel i’r De Ddwyrain. Yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 03:55, uwch y gorwel i’r De. Yn cael ei golli yn nghysgod y wawr am 04:30, uwch y gorwel i’r De. Bydd y Lleuad 369535 cilomedr o’r Ddaaer a Sadwrn yn 1365 miliwn cilomedr o’r Ddaear.

Ffigwr 9.

Ffigwr 10.

27ain: Cawod sêr Bootif (ffigwr 11 a 12). Yn weithredol ar y 22ain o Fehefin hyd yr 2il o Orffennaf. Bydd uchafbwynt y meteorau tua’r 27ain o Fehefin. Cytser Bootes. Arddangosiad orau ar ôl iddi dywyllu.

Corff cychwynnol, comed 7P/Pons-Winnecke

Ffigwr 11.

Ffigwr 12.

28ain: Cysylltiad y Lleuad a Iau (9figwr 13). Yn weledol yn awyr y wawr am 00:07 (amser safonol Prydain) uwch gorwel y De, yn pylu o’r golwg, 04:30. Pellter y Lleuad o’r Ddaear 37570 cilomedr, bydd Iau 657.5 miliwn cilomedr o’r Ddaear. Cytser Y Dyfrwr.

Ffigwr 13

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.

Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi

Ffisegwr: Ffiseg Ymasiad Niwclear & Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.