Awyr y Nos: Gorffennaf 2019

01.07.19

4ydd: Mae orbit y Ddaear o gwmpas yr Haul yn ei gario i ran pellaf i ffwrdd, mae'r affelion (ffigwr 1) yn bellter o 1.02 AU (pellter y Ddaear i'r Haul).

Mae pellter y Ddaear o'r Haul yn amrywio o gwmpas 3% dros y flwyddyn oherwydd bod yr orbit siap hirgrwn gan ddilyn llwybr a elwir yn elips.

Mae'r Ddaear yn cyflawni un cylchdro o gwmpas elips orbit yn flynyddol felly mae ar ei phellaf o'r Haul tua'r r'un diwrnod bob blwyddyn.

Yn dechnegol mae'n cofnodi'r amser mae'r Haul yn ymddangos ar ei leiaf yn yr awyr na unrhyw gyfnod arall o'r flwyddyn a phan mae'r Ddaear yn derbyny lleiaf o wres. Yn ymarferol nid yw 3% o wahaniaeth rhwng y pellteroedd yn amlwg.

Mae gwahaniaeth blynyddol yn nhywydd y Ddaear, er enghraifft rhwng yr haf a'r gaeaf, yn cael ei achosi oherwydd gogwydd yng nghylchdro y Ddaear yn fwy na'i phellter o'r Haul,

Ffigwr 1: Affelion.

8fed: Mi fydd cawod sêr Capricornid (ffigwr 2) yn cyrraedd ei anterth. Mi fydd rhai sêr gwib i'w gweld pob nos o mis Gorffennaf i Awst. Mi fydd pefr y gawod yn ymddangos 15° uwch y gorwel De Ddwyreiniol am hanner nos. Gallwn weld 1 seren wib pob awr gan fydd y berf yn isel yn yr awyr gan leihau'r cyfle o weld llawer o sêr gwib.

Ffigwr 2: Pefr cawod sêr Capricornid

Mae'r Lleuad yn 6 diwrnod oed yn ystod y prif weithgarwch a dim llawer o ymyrraeth. Gallwn weld y rhan fwyaf o'r sêr gwib tua 30° to 40° i ffwrdd ym mannau tywyll yr awyr. O gwmpas y pellter yma mae'r berf y sêr gwib yn dangos cynffonau hir (ffigwr 3).

Ffigwr 3: Cawod sêr, Capricornids.

9fed: Mi fydd Sadwrn i'w weld yng nghytser Y Saethydd (ffigwr 4). Yn weladwy am y rhan fwyaf o'r nos ac yn cyrraedd pwynt uchaf yr awyr o gwmpas hanner nos. Mi fydd yn anodd i'w weld gan na fydd yn ymddangos yn uwch na 16° uwchben yr orwel. Mi fydd yn weladwy rhwng 22.59 a 03.42. Mi fydd i'w weld am 22.59 pan fydd yn codi 9° uwchben y gorwel De-Ddwyreiniol, Ni fydd yn hygyrch wedi 03:42 pan fydd yn symud 10° uwchben y gorwel De Orllewinol. Mi fydd ei phellter o'r Ddaear 1351 miliwn cm (839 472 477 milltir).

Ffigwr 4: Sadwrn mewn cysylltiad.

21ain: Mi fydd cawod sêr Cygnid (ffigwr 5) ar ei uchaf o ran gweithgaredd.  Mi fydd rhai sêr gwib yn weladwy pob nos rhwng Gorffennaf ac Awst.

Dylid gweld pedwar seren wib pob awr, mi fydd y pefrio yn uchel yn yr awyr fydd yn cynyddy'r siawns o weld y sêr gwib.

Mi fydd unrhyw ardal dywyll 30°– 40° i ffwrdd o'r pefru yn dangos yn dda.

Mi fydd y Lleuad yn 19 diwrnod oed yn cyflwyno ymyrraeth yn awyr y cyn-fore.

Ffigwr 5: Cawod sêr Cygnid

29th: The δ (delta) Aquarid meteor shower (figure 6) reaching maximum activity. Some shooting stars are expected to be visible each night from 15 July to 20 August.

Radiant 7° above South Eastern horizon at midnight. Viewing only about 2 meteors per hour, radiant being low in the sky, reducing the chance of seeing meteors.

Mi fydd y lleuad yn 27 diwrnod oed yn ystod y prif weithredu a ddim yn amharu llawer.

Mi fydd unrhyw ardal dywyll 30°– 40°  i ffwrdd o'r pefru yn dangos yn dda.

Ffigwr 6: δ Aquarid.

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agos i’r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.

Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi’n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae’n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS

Ffisegwr

Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.