Mi fydd cyswllt rhwng y Lleuad a Mawrth ar y 10fed o Chwefror (ffigwr 1 & 2). Mi fydd y ddau yn rhannu'r un dyrchafiad, mi fydd y Lleuad yn pasio 6° 04´ i'r De o Mawrth. Mi fydd y ddau yn weladwy tua 17.40 GMT fel mae'r cyfnos yn pylu, 46° uwchben y gorwel De Orllewinol. Mi fydd y ddau yn symud tua'r gorwel ac yn machlud 6 awr a 17 munud wedi'r haul am 23:35. Mi fyddant yng nghytser y Pysgod. Mi fyddent yn weladwy i'r lygad noeth.
Ffigwr 1. Sgema o Mawrth a'r Lleuad
Ffigwr 2. Llun o'r Lleuad a Mawrth.
Mae cysylltiadau yn unai dau wrthrych yng Nghysawd yr Haul neu un gwrthrych yn y cysawd a gwrthrych pellach megis seren. Mae cysylltiad yn ffenomen sy'n deillio o bersbectif y sylwedydd: nid yw'r dau wrthrych yn agos i'w gilydd yn y gofod. Gall cysylltiadau fel dau wrthrych llachar megis dwy blaned gael eu gweld gyda'r lygad noeth.
Ar y 18fed mi fydd Gwener a Sadwrn mewn cyswllt (ffigwr 3). Mi fydd Gwener a Sadwrn yn rhannu'r r'un dyrchafiad gyda Gwener yn pasio 1° 05´ i'r gogledd o Sadwrn.
Ffigwr 3. Gwener a Sadwrn mewn cyswllt (2016).
Mi fyddant yn weledol yn awyr y wawr gan godi am 05:34 (GMT), 1 awr a 52 munud o flaen yr Hayl ac yn cyrraedd uchder o 8° uwch y gorwel De Ddwyreiniol cyn pylu o'r golwg ar doriad y wawr oddeutu 07:03.
Mi fydd Gwener a Sadwrn yng nghysawd y Saethydd. Mi fydd y ddwy blaned i'w gweld i'r lygad noeth neu sbienddrych.
Ar y 19eg mi fydd Lleuad llawn. Ar yr adeg yma o'r mis mae'r lleuad bron yn union gyferbyn a'r Haul yn yr awyr a wedi ei leoli yn uchel uwchben yr orwel am y rhan fwyaf o'r nos. (ffigwr 4)
Mae lleuad llawn Chwefror yn anghyffredin o agos i amser y mis pan fydd y Lleuad ar ei agosaf i'r Ddaear. Golygir hyn ei fod yn ymddangos ychydig yn fwy o ran maint a disgleirdeb na'r arfer. Mae hyn yn digwydd oddeutu unwaith bob 13 mis.
Ffigwr 4. Llun yn dangos lleuad llawn ar ei bwynt pellaf ac agosaf i'r ddaear.
Pan fydd y Lleuad yn cyrraedd ei faint llawn mi fydd yng nghytser y Llew ac yn ymddangos ar ei uchaf yn hemisffer y Gogledd. Mi fydd 356,000 km (221 208 milltir) i ffwrdd o'r Ddaear.
Ar y nosweithiau'n dilyn y 19eg o Chwefror mi fydd y Lleuad yn codi oddeutu awr yn hwyrach bob dydd ac yn amlycach yn hwyrach pob nos. O fewn ychydig ddyddiad mi fydd ond yn weladwy cyn awyr y wawr. Erbyn y bydd yn cyrraedd ei chwarter olaf, wythnos ar ôl y lleuad llawn, mi fydd yn codi o gwmpas hanner nos ac yn machludo gwmpas hanner dydd.
Rhybudd: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agor i'r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda'ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi'n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae'n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.