Night Sky : August 2021

28.07.21

2il: Sadwrn ar gyferbyniad (ffigwr 1). Bydd yng nghytser yr Afr ac yn weledol y rhan fwyaf o’r nos (22:33 hyd at 04:17) uwch y gorwel i’r De Ddwyrain. Bydd yn cyrraedd ei bwynt uchaf yn yr awyr am 01:25 uwch y gorwel i’r De. Mewn seryddiaeth leoliadol, mae dau wrthrych seryddol ar gyferbyniad pan maent ar yr ochr gyferbyn a'i gilydd o’r sffêr wybrennol pan fydd corff penodol (fel arfer y Ddaear) yn eu harsylwi. Dywedir fod planed (asteroid neu gomed) ‘ar gyferbyniad’ wrth gyferbynnu â’r haul. Bydd Sadwrn 1336.7 miliwn cilomedr (1.3 biliwn cilomedr) o’r Ddaear.

Ffigwr 1.

12fed: Bydd cawod sêr Perseid (ffigwr 2) yn gwneud arddangosiad o’r 17 eg o Orffennaf hyd y 24ain o Awst. Bydd y pwynt pelydrol yn nghytser Pereus (ffigwr 3). Bydd y pwynt pelydrol uwch y gorwel. Ceir yr arddangosfa orau o feteorau cyn y wawr ac wedi iddi nosi rhwng y 9fed a’r 13eg o Awst. Bydd y gawod yn cynnwys darnau o falurion y gofod sydd wedi dod o gomed 109P/Swift Tuttle.

Ffigwr 2.

Ffigwr 3.

18fed: κ (kappa) - Cawod sêr Cygnid (ffigwr 4). Bydd yn weithredol o’r 3ydd hyd y 25ain, gan gynhyrchu’r mwyaf o feteorau tua’r 18fed. Cytser Draco (ffigwr 5) bydd y gawod sêr yn weithredol drwy’r nos. Bydd yr arddangosfeydd gorau tua 23:00 (Amser Haf Prydain), pan fydd y pwynt pelydrol ar ei uchaf yn yr awyr. Corff cychwynnol yw’r blaned fechan 2008 - ED69.  Bydd yn bosib gweld 2 feteor bob awr.

Ffigwr 4.




Ffigwr 5.

Iau ar gyferbyniad (ffigwr 6), wrth iddo orwedd gyferbyn a’r Haul.

Cytser yr Afr (ffigwr 8). Yn weledol rhwng 21:32 a 05:11.

Gellir ei weld uwch y gorwel i’r De Ddwyrain. Bydd yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 01:21 uwch y gorwel i’r De. Ni fydd posib ei weld wedi 05:11 pan fydd yn diflannu uwch y gorwel i’r De Orllewin. Bydd Iau 600 miliwn cilomedr o’r Ddaear.

Ffigwr 6.

20fed: Bydd cyswllt y Lleuad a Sadwrn (ffigwr 7) gan fod yn weledol rhwng 21:00 a 03:20 uwch y gorwel i’r De Ddwyrain ac yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 00:10 uwch y gorwel i’r De. Ni fydd posib ei weld wedi tua 03:20. Bydd Sadwrn 1344 miliwn cilomedr o’r Ddaear a bydd y Lleuad 372599 cilomedr o’r Ddaear. Cytser yr Afr (ffigwr 8).



Ffigwr 7.

Ffigwr 8.

21ain: Bydd y Lleuad a Sadwrn yn dynesu’n agos (ffigwr 9) ac yn weledol o 20:53 (Amser Haf Prydain) uwch y De Ddwyrain fel y bydd yn nosi. Gellir ei weld hyd at tua 03:18 i’r De Orllewin. Bydd Sadwrn1345 miliwn cilomedr o’r Ddaear, a’r Lleuad 375795 cilomedr o’r Ddaear. Cytser yr Afr (ffigwr 8).

Ffigwr 9.

22ain: Bydd cyswllt y Lleuad ag Iau a hefyd bydd dynesiad agos o’r ddau gorff. (ffigwr 10). Bydd yn weledol 21:25 hyd at 05:05 wrth edrych tua’r De Ddwyrain. Yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 01:15 ac yn pylu i’r De Orllewin. Bydd Iau 600 miliwn cilomedr o’r Ddaear a bydd y Lleuad yn bellter o 379335 cilomedr, yng nghytser yr Afr (ffigwr 8)

Ffigwr 10.

22ain: Lleuad lawn (ffigwr 11). Gelwir yn Lleuad ‘Sturgeon’ oherwydd y nifer o bysgod oedd yn y llynnoedd ble roedd y llwyth Algonquin yn pysgota. Mae enwau eraill yn cynnwys, Lleuad ‘Green Corn’, Lleuad Barlys, Lleuad Ffrwyth a ‘Grain Moon’ o’r Hen Saesneg/ Sacsoniadd.

Ffigwr 11.

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.

Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi


Ffisegwr:
Ffiseg Ymasiad Niwclear & Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.