Awyr y Nos: Ebrill 2021

30.03.21

6ed: Cyswllt y Lleuad a Sadwrn (ffigwr 1). Yn weledol ystod y wawr, ac yn ymddangos am 05:46 (Amser Safonol Prydain), 1 awr 55 munud cyn yr Haul. Bydd yn cyrraedd uchder o 10° uwch gorwel y De Ddwyrain, cyn diflannu o’r golwg fel mae’r wawr yn torri tua 06:18. Yn weledol i’r llygad noeth neu gydag ysbienddrych. Adnabyddir fel appulse, pan mae dau neu fwy o wrthrychau seryddol, gan amlaf planed neu’r Lleuad yn ymddangos yn agos i’w gilydd yn yr awyr. Bydd y Lleuad 38540 cilomedr o’r Ddaear, a Sadwrn yn 1549.3 miliwn cilomedr mewn pellter.

Ffigwr 1. Cysylltiad y Lleuad a Sadwrn

17eg: Cysylltiad y Lleuad â Mawrth (ffigyrau 2 &3). Byddant yn dod yn weledol tua 21:38 (Amser Safonol Prydain) fel mae’r awyr yn nosi uwch y gorwel Gorllewinol ac yn machlud tua 01:49. Yn weledol i’r llygad noeth neu drwy ysbienddrych. Bydd y Lleuad 397119 cilomedr o’r Ddaear a bydd Mawrth 285.8 miliwn cilomedr o’r Ddaear.

Ffigwr 2: Cysylltiad y Lleuad a Mawrth

Ffigwr 3.

22ain: Cawod sêr Lyrid (ffigwr 3& 4). Yn weithredol o’r 16eg hyd at y 25ain. Yn weledol yng nghytser Ercwlff. Pwynt pelydrol uwch y gorwel drwy’r nos, sydd yn golygu bydd y gawod yn weithredol yn ystod oriau tywyllwch. Disgwylir uchafbwynt am 13:00 (Amser Safonol Prydain) ar yr 22ain, felly efallai bydd yr arddangosfa orau cyn y wawr ac ar ôl iddi nosi ar yr 22ain. Gellir gweld tua 18 o feteorau bob awr.

Ffigwr 4: Llun o gawod sêr Lyrid

Ffigwr 5: Cawod sêr Lyrid

27ain: Bydd y lleuad yn cyrraedd ei gwedd lawn (ffigwr 6 & 7) a bron iawn union gyferbyn yr Haul yn yr awyr. Bydd yn agos i gyfnod o’r mis pan y bydd y Lleuad yn gwneud ei ddynesiad agosaf at y Ddaear (perigê). Bydd y Lleuad yn ymddangos ychydig yn fwy ac yn fwy llachar nag ar amseroedd eraill. Fodd bynnag, mae unrhyw wahaniaeth yn anweladwy i’r llygad noeth. Mae Lleuad llawn Perigê fel hwn yn digwydd unwaith bod 13 mis.

Bydd 356587 cilomedr i 357378 cilomedr o’r Ddaear. Mae Lleuad llawn mis Ebrill yn cael ei alw’n Leuad wridog, wedi ei enwi ar ôl y Fflocs, y blodau pinc sydd yn blodeuo yn y Gwanwyn.

Ffigwr 6: Gweddau'r Lleuad

Ffigwr 7: Lleuad Wridog

1af i’r 30ain: Mae ffigyrau 8 i 16 yn dangos rhai o’r cytserau a fydd i’w gweld yn ystod mis Ebrill.

Ffigwr 8.

Ffigwr 9.

Ffigwr 10

Ffigwr 11

Ffigwr 12

Ffigwr 13

Ffigwr 14

Ffigwr 15

Ffigwr 16

Ffigyrau 9 i 16 yw: Antlia, Cameleon, Cwpan, Y Ddyfrsarff, Y Llew, y Llew bach, Secstans  a’r Arth Fawr yn y drefn honno.

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.

Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi

Ffisegwr:

Ymasiad Ffiseg Niwclear

Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.