2il Clwstwr crwn Herciwles (M13, NGC 6205) i fydd wedi eu gosod yn daclus i’w weld (ffigwr 1&2). Am hanner nos mi fydd ar ei phwynt uchaf yn yr awyr. Yn weledol o 23:36(BST) 66 gradd uwchben y gorwel De Ddwyreiniol. Gan ddiflannu oddeutu 02:54, 67 gradd uwchben y De Orllewin.
Mi fydd M13 wedi pylu ac yn amhosib i’w weld i’r lygad noeth, ond gall ei weld gyda pâr o sbienddrych neu delesgôp bychan.
Mae’r pellter 22-28 mil blynyddoedd golau i ffwrdd.
Ffigwr 1: Mae M13 yng nghesail cytser Herciwles.
Ffigwr 2: Calon clwstwr crwn Herciwles
Hawlfraint: ESA/Hubble a NASA
Ar y 10fed mi welwn gawod sêr Offiwcid (ffigwr 3 & 4). Maent yn weithredol o 19eg o Fai hyd at mis Gorffennaf. Mi fydd yn pefrio 14 gradd uwchben y gorwel ddeheuol am hanner nos. Mae’n debyg mai dim ond un seren wib fydd i’w weld pob awr. Mi fydd y lleuad yn 7 diwrnod oed sy’n lleihau’r cyfle o’u gweld, y siawns gorau fydd i edrych 30-40 gradd i ffwrdd o’r pefr er mwyn gweld trywydd eithaf hir heb fod ormod ar wasgar.
Ffigwr 3: Cawod sêr Offiwcid yng nghytser Offiwcws.
Ffigwr 4: Cawod sêr gyda chynffon hir.
19eg Mi fydd y Lleuad a Sadwrn yn rhannu’r un ddyrchafiad gyda’r Lleuad yn pasio 0°26' i’r De o Sadwrn (ffigwr 5). Mi fydd y Lleuad yn 16 diwrnod oed. Oddeutu’r r’un amser mi fydd y ddau wrthrych i’w gweld yn agos i’w gilydd. Mi fyddant yn weledol yn awyr y bore, ac yn hygyrch o gwmpas 23:58 pan fyddent yn codi 7 gradd uwchben y gorwel De Ddwyreiniol. Mi fyddant yn cyrraedd y pwynt uchaf yn yr awyr am 02:48, 16 gradd uwchben y gorwel Ddeheuol. Mi fyddant yn pylu i awyr y wawr am 04:26, 13 gradd uwch y gorwel Ddeheuol. Mi fydd y pâr yn ddigon agos i’w gweld trwy delesgop gyda’i gilydd yn ogystal a gyda sbienddrych neu’r lygad noeth.
Ffigwr 5: Y Lleuad a Sadwrn
21ain yw diwrnod hiraf 2019 yn hemisffer y Gogledd, yng nghanol diwrnod yr haf (ffigwr 6). Dyma ddiwrnod y flwyddyn pan fydd yr Haul yn pasio’n flynyddol drwy gytser y Sidydd ac yn ei basio i bwynt fwyaf Gogleddol yr awyr, ar osgo yn ngytser y Cranc o 23.5°N. Ar y diwrnod hwn, mae’r Haul uwch y gorwel yn hirach nac unrhyw ddiwrnod arall yn hemisffer y Gogledd.
Mae seryddwyr yn cyfri hwn fel diwrnod cyntaf yr haf.
Ffigwr 6: Goleuo’r Ddaear gan yr Haul ar ddiwrnod heuldro Mehefin.
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agos i’r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi’n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae’n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.