Awyr Mis Hydref

01.10.18

Messier 110 neu M110 (ffigwr 1) yw'r alaeth lloeren fwyaf llachar yng nghalaeth Andromeda (M31) mi fydd yn olygfa ddifyr ac mewn safle gwych i'w weld. Mae ar ei orau yn weledol yn yr awyr oddeutu hanner nos ar y 1af o Hydref.

Mi fydd yn weladwy am oddeutu BST uwch y gorwel yn y Dwyrain. Mi fydd yn pylu tua 06.00 yn y gorllewin. 

Mi fydd yn anodd i'r llygad weld M110, mi fydd yn weladwy fodd bynnag gyda phâr da o sbienddrych neu thelesgop. (4 modfedd neu fwy). 

Ffigwr 1. Galaeth Andromeda (M31) gyda M110 i'r de ddwyrain o'r canol. Hawlfraint: ATLAS image/NASA/Caltech/NSF

Mae M110 yn cynnwys llwch ac arwyddion o ffurfiadau sêr diweddar nad yw'n gyffredin mewn galethau tebyg iddi. Mae M110 o gwmpas 2.69 blwyddyn golau i ffwrdd.

Hefyd ar y 1af a'r ail o Hydref mae M31 yn amlwg mewn safle da i'w edmygu. Mi fydd mewn golwg o tua 20.10 BST hyd 06.00, eto yn y Dwyrain ac yn gorffen yn y Gorllewin. Mi fydd Andromeda yn ofnadwy o anodd i'w weld heblaw cymorth telesgop neu pâr o sbienddrych.

Ffigwr 2. Galaeth Andromeda drwy ddyfais archwilio isgoch NASA.

Ar yr ail o Hydref, yn nes at adref mi fydd y lleuad yn ei chwarter olaf (ffigwr 3), mi fydd yn amlwg yn awyr y wawr, yn codi oddeutu 23.00 BST, 8 awr o flaen yr Haul, mi fydd yn pylu wrth i'r wawr dorri oddeutu 06.55.

Ffigwr 3. Y lleuad yn y chwarter olaf.

Ar y 3ydd o Hydref, mi fydd NGC253 (ffigwr 4) y lluniawr galaethau i'w gweld gyda chymorth o safon uchel. Ni fydd yn codi mwy na 13° uwchben y gorwel felly ni fydd yn hawdd iawn i'w weld. Ni fyddwch yn gallu gweld gyda'r llygad noeth heb gymorth.

Ffigwr 4. NGC 253.

Mae NGC 253 o gwmpas 11.4 miliwn blwyddyn golau i ffwrdd. Mae Telesgop Hubble NASA o ddelwedd o graidd yr alaeth droellog agosaf yn dangos ffurfiad seren ffyrnig tua 1,000 o flynyddoedd golau ar draws. Mae galaethau tebyg yn cynnwys cyfradd o enedigaethau sêr ofnadwy o uchel! Hawlfraint : Carnegie Institution of Washington.

Ar y 4ydd o Hydref, mi fydd y lleuad ac M44 (ffigwr 5), clwstwr a elwir Praesepe (lladin ar gyfer "rheolwr" ac NGC 2632 yng nghlwstwr Cancr, dyma glwstwr agored agos i'r ddaear sy'n cynnwys mwy o sêr nac unrhyw glwstwr cyfagos. Mi ellir ei weld gyda'r lygad, mi sylwodd y seryddwr Ptolemy arno yn ogystal a Galileo er ei fod 177 blwyddyn golau i ffwrdd.

Ffigwr 5. M44 Clwstwr cwch gwenyn ble mae posib gweld gyda'r llygad.

Mi fydd y lleuad ac M44 yn weledol yn awyr y wawr oddeutu 01.15 BST 6 awr o flaen yr Haul. Mi fydd yn codi uwch yr orwel Dde-Ddwyreiniol cyn pylu wrth iddi wawrio tua 07:00. Mae'r lleuad ac M44 ychydig ar wasgar felly mae posib ei weld trwy sbienddrych ond nid drwy delesgop. Mae ffigwr 6 yn dangos awyr y nos ar gyfer Hydref 2016.

Ffigwr 6. Map yr awyr.

Ar Hydref 12fed gellir gweld y lleuad ac Iau (ffigwr 6A) yn dod yn agos i'w gilydd, mi fydd y lleuad yn ddau diwrnod oed. Ni fyddant i'w gwel gyda'u gilydd ar delesgop ond gellir eu gweld gyda'r lygad noeth neu sbienddrych. Ffigwr 6A Y lleuad ac Iau. Hawlfraint RAS.

Ar y 16eg o Hydref mae 136199 Eris (ffigwr 7) i'w weld yn g gnhwlstwr Cetus. Mi fydd yn weledol am y rhan fwyaf o'r nos ac yn cyrraedd y pwynt uchaf o gwmpas hanner nos. Mi fydd yn weledol rhwng 22.00 ac 04,40 yn gwneud ei ffordd o'r De Ddwyrain i'r De Orllewin. Mi fydd angen telesgop 4 modfedd neu fwy iw weld. Mi fydd yn edrych yn fwy ac yn llachar nac ydyw go iawn, mae hyn oherwydd bydd y ddaear yn gorwedd yn y canol ac yn ffurfio llinell syth gydag Eris a'r Haul bob ochr iddi.

Ffigwr 7. 136199 Eris. Hawlfraint, NASA/Hubble Space Telescope.

Dydd Iau 18fed o Hydref mi fydd y lleuad a Mawrth (ffigwr 8 a 9) yn agos i'r ddaear. Mi fyddant yn weledol yn awyr y nos o 18.35BST ychydig uwchben y gorwel De- Ddwyreiniol. Mi fyddan nhw'n cyrraedd eu pwynt uchaf yn yr awyr tua 20.35. Mi ddylan nhw fod mewn golwg tan tua 23.40 yng nghlwstwr yr Afr. Gellir eu gweld gyda'r llygad, sbienddrych neu delesgop.

Ffigwr 8. Y lleuad a Mawrth yn agos at ei gilydd. 

Ffigwr 9.

Ar y 21ain o Hydref mae cawod sêr Orionid (ffigwr 10 ac 11) yn cyrraedd ei uchafswm. Mi ddylai ddechrau o gwmpas 16eg o Hydref a parhau hyd y 30ain. Mae cawod sêr blynyddol yn ymddangos pan fydd y ddaear yn symud trwy weddillion asteroid a chomedau ac yn llosgi yn yr atmosffer rhwng 70 a 100km.

Drwy gweithio cyflymder a chyfeiriad mae sêr gwib yn cyrraedd y Ddaear mae posib darganfod o pa gorff mae wedi deillio. Y rhiant ar gyfer Orionids yw Comed Halley.

Ffigwr 10. Comed Halley. Hawlfraint, NASA/ESA/Max Planck Institute for Solar System Research.

Figure 11. Orionids, in the constellation Orion, near Betelgeuse.

Gan obeithio am awyr dywyll, gobeithio bydd gellir gweld 25 cawod sêr pob awr, ond mewn gwirionedd mae'n debyg fydd hyn ychydig yn llai. 

Mi fydd Iau mewn lleoliad da i'w weld yng nghlwstwr yr Afr ar y 24ain o Hydref. Mi fydd yn cyrraedd ei phwynt uchaf am hanner nos.

Ffigwr 12. Wranus. Hawlfraint, NASA, Voyager 2.

Ffigwr 13. Gellir gweld Wranws rhwng yr Hwrdd a'r Pysgotwr. Hawlfraint Galilean Satellite Information.

NGC 869 (ffigwr 14). Clwstwr o sêr agored ellir eu gweld ar Hydref 16ain. Mae 7,600 blwyddyn golau i ffwrdd ac oddeutu 13 miliwn mlwydd oed. Gellir bod yn drafferthus gweld NG 869 gyda'r lygad noeth oni bai eich bod mewn lle tywyll ofnadwy. Gelli eu gweld yn llawer haws gyda sbienddrych neu delesgop. Ffigwr 14 y clwstwr dwbl NGC 869 ac NGC 884 (chwith) gyda'r gogledd i'r top. Hawlfraint NASA/Hubble.

Mae clwstwr sêr agored NGC 884 (ffigwr 15) a geir ei adnabod yn aml fel ochr ddwyreiniol y clwstwr dwbl yn weledol ar 27ain o Hydref. Mi fydd yn cyrraedd pwynt uchaf yr awyr tua hanner nos. 

Ffigwr 15. NGC 884. Clwstwr Dwb; NGC 869 (top a NGC 884 (gwaelod) gyda'r gogledd i'r chwith. Oddeutu 7600 blwyddyn golau i ffwrdd a 12.5 miliwn oed.

31 Hydref mi fydd y lleuad ac M44 yn agos. Mi fydd y lleuad yn 22 diwrnod oed. Gellir eu gweld yn awyr y bore o gwmpas 23.25 yng nghlwstwr Cancr ac yn pylu o gwmpas 06.46. 

Ffigwr 16. Clwstwr Cancr. Y Lleuad ac M44.

Rhybudd: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agor i'r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda'ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.

Mae meddalwedd Stellarium yn gymorth gwych er mwyn canfod beth sydd yn yr awyr.

Mark R Smith FRAS

Ffisegydd

Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.