Chwedl Orïon

16.11.16

Wrth i awyr y gaeaf ddynesu, mae yna un cytser sy'n dominyddu’r awyr uwchlaw’r gweddill, a hwnnw yw Orïon yr heliwr mawr. Mae hi’n hawdd adnabod y cytser hwn gyda’r tair seren yn ei wregys sef Alnitak, Alnilam a Mintaka, ac mae’n cynnwys rhai o'r gwrthrychau awyr dywyll fwyaf enigmatig sydd o fewn cyrraedd hawdd i bawb, waeth beth yw eich arbenigedd seryddol. Trwy ddefnyddio Llathen Fair fel canllaw gallwch yn hawdd adnabod siâp cyfarwydd dyn, ei ysgwyddau yw’r seren goch Betleguese a’r seren glas/gwyn Bellatrix ac mae ei ben-glin a’i droed yn cael eu cynrychioli gan y sêr glas/gwyn Saiph a Rigel sydd yn hawdd ei hadnabod. Wedi'i leoli islaw ei wregys mae ei 'gleddyf' sy'n cynnwys 'Nebula Mawr Orïon' gwrthrych sydd posib ei weld yn glir gyda’ch llygaid o awyr dywyll Bannau Brycheiniog. Os defnyddiwch ysbienddrych syml 10x50 fe ddaw'r nebula i'r golwg yn amlwg.

Rhestrwyd y cytser gan y seryddwr Groegaidd Ptolemy yn yr ail ganrif OC. Fodd bynnag, cafodd ei gofnodi gan y Babiloniaid mor gynnar â 686 Cyn Oed Crist yn nhabledi seryddol MUL.APIN, fel y SIPA.ZI.AN.NA, "Bugail Ffyddlon y Nefoedd." Mae hi hyd yn oed wedi cael ei hystyried y gallai Llathen Fair fod wedi cael ei chynrychioli ym mhaentiadau ogof Lascaux, a gafodd eu paentio tua 15,000 Cyn Oed Crist.  Mae Orïon yn ddigon hynafol i fod yn rhan o naratif Swmeraidd Gilgamesh. Mae safle cymharol Orïon yn yr awyr yn gosod y ffigwr wrth ochr y Tarw, ac mae Orïon yn aml yn cael ei ddarlunio fel petai mewn gwrthdaro â’r tarw. Yn dyddio’n ôl cyn belled â’r 18fed ganrif Cyn Oed Crist, mae Epig Mesopotamaidd Gilgamesh yn gosod Uru AN-NA, sy'n golygu "Goleuni’r Nefoedd," yn erbyn GUD AN-NA, "Tarw’r Nefoedd." Mae Goleuni’r Nefoedd yn cynrychioli'r cytser rydym yn ei adnabod heddiw fel Orïon ac mae Tarw’r Nefoedd yn cynrychioli'r cytser a elwir heddiw yn y Tarw.

Mae Orïon yn ffigwr mawr ym mytholeg Groeg ac yn dyddio'n ôl i'r seithfed neu'r wythfed ganrif Cyn Oed Crist yn Yr Ilias a'r Odyseia. Yn Yr Ilias, mae Orïon yn cael ei nodi fel y cytser sydd yng nghwmni ei gi Siriws.  Mae Homer yn sôn am gyfarfyddiad Odysseus ag Orïon yn yr isfyd yn unfed ar ddeg llyfr Yr Odyseai, lle'r oedd yr heliwr mawr yn crwydro'r isfyd gyda phastwn efydd.

Cafodd Orïon ei osod yn yr awyr ar ôl ei farwolaeth, fodd bynnag, mae yna ddwy fersiwn ym mytholeg Groeg. Yn y gyntaf, wrth hela ar Ynys Creta, broliodd Orïon y gallai ladd unrhyw anifail ar y Ddaear. Digiodd Gaia a holltodd y ddaear yn agored, ac o’r crombil ymddangosodd sgorpion i ladd Orïon. Yn yr ail fersiwn, ceisiodd Orïon dorri llw diwerideb Artemis trwy rym. Dan fygythiad, galwodd Artemis am y sgorpion a laddodd Orïon. Oherwydd ei arwriaeth mewn bywyd yn y ddwy chwedl, gofynnwyd i Zeus osod Orïon yn y nefoedd.  Cafodd Orïon ei osod yn yr awyr gan Zeus, oedd yn teimlo ei bod yn briodol i osod y sgorpion yn yr awyr hefyd. Hyd heddiw, dywedir bod Orïon yn dal i redeg i ffwrdd o'r bwystfil a’i lladdodd gyda'i bigiad marwol. Adlewyrchir hyn yn Orïon yn disgyn neu’n 'rhedeg i ffwrdd’ fel mae’r Sgorpion yn codi.  Mae Sgorpion eisoes wedi machlud yn yr hydref fel mae Orïon yn codi, ac wrth i Sgorpion godi yn yr haf mae Orïon eisoes wedi machlud yn y gorwel gorllewinol. Mae'r ddwy yn chwedl hynafol sydd yn egluro cost balchder.

I ddysgu mwy am y cytserau a sut i ddod o hyd iddyn nhw, beth am ymuno â seryddwyr o Awyr Dywyll Cymru yn ystod eu nosweithiau tywysiedig o dan awyr dywyll Cymru. Byddwch nid yn unig yn dysgu am y cytserau, ond hefyd yn darganfod sut i ddefnyddio ysbienddrych i syllu ar alaethau, nifylau a phlanedau pell, yn mwynhau golygfeydd drwy delesgopau a hyd yn oed yn gallu tynnu lluniau o'r pethau yr ydych wedi eu gweld.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.