5ed Mi fydd y Lleuad a Sadwrn yn pasio yn agos i'w gilydd (ffigwr 1). Mi fydd y Lleuad yn 7 diwrnod oed. Mi fyddant yn weledol yn yr awyr hwyr o 19:07 BST ymlaen. Gellir eu gweld gyda'u gilydd drwy delesgop, sbienddrych neu'r lygad noeth. Mi fydd y ddau o fewn cytser y Saethydd (ffigwr 2).
Ffigwr 1: Y Lleuad a Sadwrn, cyrchiad agos.
Ffigwr 2: Cytser y Saethydd.
13eg: Lleuad Llawn (ffigwr 3), yn cyrraedd y cam olaf. Yn y cyfnod yma mi fydd y Lleuad yn gorwedd bron gyferbyn a'r Haul, yn golygu bod wedi lleoli yn uchel uwch yr orwel am rhan fwyaf o'r nos. Gellir ei ganfod yng nghytser y Pysgod a mi fydd o gwmpas 406,000 km o'r Ddaear. Gellir ei weld o bob lledred rhwng 83° o'r Gogledd a 76° o'r De.
Ffigwr 3: Lleuad llawn. Hawlfraint: NASA/Goddard Space Flight Centre.
21ain mi welwn ni gawod sêr Orionid (ffigwr 4). Mi fydd yn weithredol o'r 2il o Hydref hyd y 7fed o Dachwedd ac ar ei orau o gwmpas yr 21ain a'r 22ain o Hydref. Mi fydd cyfle gweld sêr gwib Orionid pan fydd y gawod yn nghytser Orion (ffigwr 5) gyda'r nifer o sêr gwib yn cynyddu pan fydd y befr yn uchel yn yr awyr.
Ni fydd yn weledol cyn 22:06 pob nos pan fydd pwynt y wefr yn codi uwchben gorwel y Dwyrain. Mi fydd yn weithredol tan ddaw toriad y wawr o gwmpas 07:17. Mi fydd y gawod yn cynhyrchu'r golygfeydd gorau o gwmpas 06:00 pan fydd pwynt y wefr ar ei uchaf yn yr awyr.
Bydd 20 o sêr gwib pob awr pan fydd gweithgaredd ar ei uchaf.
Ffigwr 4: Seren wib Orionid.
Ffigwr 5: Cytser Orion.
31ain: Mi fydd y Lleuad a Iau (ffigwr 6) yn rhannu'r r'un esgyniad gyda'r Lleuad yn pasio 1°18' i'r Gogledd o Iau. Mi fydd y Lleuad yn 3 diwrnod oed. O gwmpas yr un pryd mi fydd dau wrthrych yn pasio'n agos.
Mi ddaw'n weledol o gwmpas 17:13 (BST) fel ddaw'r llwydnos i ben, 10° uwch y gorwel De Orllewinol. Mi fyddan nhw'n gostwng wrth y gorwel gan fachlud 2 awr a 13 munud wedi'r Haul am 19:02. Mi fydda nhw rhy ar wasgar i'w gweld trwy delesgôp ond mi fydd posib eu gweld trwy delesgôp neu'r lygad noeth. Mi fydd y Lleuad tua 379,600 km o'r Ddaear a mi fydd Iau 5.9 AU i ffwrdd.
1 AU = Pellter rhwng y Ddaear a'r Haul.
1 AU = 150 000 000 km (93 000 000 milltir).
Ffigwr 6: Cysylltiad y Lleuad a Iau.
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agos i’r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi’n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae’n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.