11fed mi fydd croesiad Mercher. (ffigwr 1) sy'n golygu bydd Mercher yn pasio o flaen Yr Haul gan silwét o 12:34 hyd 18:03 GMT (ffigwr 2). see transit of Mercury (figure 1). Dyma groesiad cyntaf Mercher ers Mai 2016 a'r olaf hyd Tachwedd 2032. Mae croesiad yn parhau ychydig oriau fel arfer.
Ffigwr 1: Croesiad Mercher Mai 2016. Hawlfraint NASA.
Ffigwr 2: Map o ble fydd y croesiad yn weledol. Hawlfraint: Dominic Ford, 2011 – 2019.
Ar gyfer syllwyr newydd y peth mwyaf anhygoel am groesiad Mercher yw pa mor fach yw maint y blaned mewn cymhariaeth i'r Haul.
Y ffordd hawsaf i gael delwedd o'r Haul yw creu taflunydd o ddau ddarn o bapur neu cherdyn. Mae'n dda ar gyfer gweld eclips yr Haul a chroesiad Merched (ffigwr 3). Mi fydd Mercher yn fychan ofnadwy ac yn anodd i'w weld.
Byddwch angen:
Sut:
Ffigwr 3: Taflunydd twll pin.
Gwnewch fersiwn o'r taflunydd twll pin drwy wneud twll yng ganol a gwneud yn siwr bod y twll yn grwn a chywir.
18fed yn dangos cawod sêr Leonid (ffigwr 4). Yn weithredol o 6 o Dachwedd tan 30 o Dachwedd, gan gynhyrchu gweithrediad ar ei uchaf o sêr gwib ar y 18fed. Yn weledol ar 22:25 pob nos pan bydd y befr yn uwch na'r gorwel Ddwyreiniol hyd 06:59.
Ffigwr 4: Cawod sêr Leonid, 15 seren wib pob awr o'r gomed 55P/Tempel-Tuttle.
18fed mi fydd Pleiades (ffigwr 5) yn dangos clwstwr sêr (M45 – NGC1432) y Tarw. Yn weledol yn awyr y bore mi fydd yn weledol i'r lygad noeth ond yn well trwy sbienddrych.
Ffigwr 5: M45 (NGC1432), Clwstwr Pleiades (canol). Hawlfraint: NASA/ESA/AURA/ Caltech .
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agos i’r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi’n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae’n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.