Awyr y Nos : Mai 2020

04.06.20

5ed: η (Eta) Mi fydd cawod sêr Y Dyfriwr yn weithredol o'r 19eg hyd yr 28ain o Fai yn cynhyrchu cyfradd uchaf o sêr gwib ar y 5ed/6ed (ffigyrau 1-4). Yn weladwy ychydig cyn 02:56 pob nos pan fydd y pwynt gwefru uwch y gorwel Ddwyreiniol. Mi fydd yn weithredol tan y wawr oddeutu 05:00. Mae'r gawod yn debyg o gyrraedd uchafbwynt o gwmpas 21:00 ar y 5ed ac maent i'w gweld ar eu gorau cyn y wawr ar y 6ed.



Ffigwr 1: Perf y gawod sêr.



Ffigwr 2: Cawod sêr Y Dyfriwr.



Ffigwr 3:  Pelydrau'r gawod sêr.



Ffigwr 4: Mae'r sêr gwib yn tarddu o'r r'un pwynt gwefru yn yr awyr.

12fed: Cysylltiad agos y Lleuad ac Iau. Mi fydd yn anodd i'w canfod gan na fyddant yn codi yn uwch na 16° uwch y gorwel (mi fydd y lleuad yn sylweddol fwy llewyrchus na Iau). Mi fydd y ddau yng nghytser Y Saethydd. Mi fydden nhw rhyw arwahân i'w gweld trwy delesgop ond yn weladwy trwy sbienddrych neu gyda'r lygad noeth.



Ffigwr 5: Cysylltiad agos y Lleuad a Iau.

15fed: Cysylltiad agos y Lleuad a Mawrth (ffigwr 6). Mi fydd y pâr yn anodd i'w canfod gan na fydda nhw'n uwch na 14° uwch yr orwel. Mi fyddent yn weledol yn awyr y wawr, yn codi o gwmpas 03:02. 2 awr a 22 munud cyn yr Haul. Mi fydd y ddau yng nghytser Y Dyfriwr. Mi fydden nhw rhyw arwahân i'w gweld trwy delesgop ond yn weladwy trwy sbienddrych neu gyda'r lygad noeth.



Ffigwr 6: Cysylltiad agos y Lleuad a Mawrth.

30fed mi fyddwn yn gweld y Lleuad yn ei chwarter cyntaf (ffigwr 7). Mi fydd yn flaenllaw yn awyr y nos ac yn machlud o gwmpas hanner nos. Mi fydd yn weladwy o gwmpas 21:48 fel mae'r cyfnos yn pylu 42° uwch y gorwel De Orllewinol. Ar yr adeg yma mi fydd yn ymddangos yn hanner oleuedig.



Ffigwr 7: Y Lleuad yn ei chwarter cyntaf.

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agos i’r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro. Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi’n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae’n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS

Ffisegwr
Ffiseg Ymasiad Niwclear
Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.