Mi fydd brig cawod sêr Eta y Dyfriwr ar y 6ed-7fed o Fai. Mae'r gawod fel arfer yn weithredol rhwng Ebrill 19eg a Mai 28ain. Mae perf y gawod i weld yn dod o gyfeiriad cytser y Dyfriwr (ffigwr 1). Mae'r gawod wedi ei henwi ar ôl seren ddisgleiriaf y gytser, yr 'Eta Aquarii'.
Mae Eta y Dyfriwr yn un o ddwy gawod sêr sydd wedi eu creu o falurion Comed Halley (ffigwr 2). Mae'r Ddaear yn pasio drwy lwybr Halley ac o gwmpas yr Haul am yr eilwaith ym mis Hydref. Mae hyn yn creu cawod sêr Orionid sydd ar ei orau o gwmpas Hydref yr 20fed.
Mae Comed Halley yn cymryd 76 mlynedd i gylchu'r Haul. Y tro nesaf bydd yn weledol o'r Ddaear fydd yn 2061.
Yr amser gorau i weld cawod Eta Y Dyfriwr fydd rhwng hanner nos a 06:00.
Ffigwr 1.
Mae'r 'Dyfriwr' (Aquarius) yn golygu 'cariwr dwr' mewn Lladin.
Ffigwr 2: Comed Halley ar 8fed o Fawrth 1986.
Ar Fai 18fed mi fydd Lleuad Las (ffigwr 3).
Ffigwr 3: Lleuad Las.
Nid oes gan yr enw ddim i'w wneud a lliw y Lleuad, ond gall 'lleuad las' (lleuad a lliw lleiaf o las) fodoli'n llythrennol yn ddibynol ar rai amodau penodol: e.e os yw ffrwydriadau folcanaidd neu dannau adael gronynau yn yr atmosffêr fysai'n lledaenu golau coch.
Hefyd ar y 18fed mae'r Lleuad Llawn yn cael ei adnabod fel Lleuad y Blodyn.Gelwir yn hyn oherwydd bod blodau yn blodeuo yn ystod y mis. Enwau eraill yw'r Lleuad Llefrith a Lleuad Plannu Hadau, mae hefyd wedi cael ei alw'n Lleuad y Sgwarnog.
Ar yr 22ain o Fai mi welwn gysylltiad y Lleuad a Sadwrn. Mi fydd y Lleuad a Sadwrn yn dilyn yr un dyrchafiad. Mi fydd y Lleuad yn 18 diwrnod oed.
Ffigwr 4: Mae'r ddelwedd yn y canol yn dangos y pellter lleiaf rhwng y ddau wrthrych wrth edrych o'r Ddaear.
Mi fydden nhw'n weledol y awyr y bore oddeutu 01:56, pan fydden nhw'n codi o gwmpas 7° uwchben y gorwel De Ddwyreiniol. Mi fydden nhw'n cyrraedd pwynt uchaf yr awyr o gwmpas 04:44, 16° uwchben gorwel y De. Mi fydd y pâr ychydig yn rhy bell arwahân i'w gweld gyda'i gilydd trwy delesgôp ond mi fydden nhw'n weledol i'r lygad noeth neu drwy sbienddrych.
Rhybudd: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agor i'r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda'ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi'n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae'n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.