Ar yr ail mi fydd cawod sêr Capricornid (ffigwr 1 & 2) yn cyrraedd uchafswm gweithgaredd. Mi fydd rhai sêr gwib yn gysylltiedig a'r gawod i'w gweld hyd yr 20fed o Awst.
Mi fydd pefr y gawod yn ymddangos 26° gradd uwch y gorwel Ddeheuol am hanner nos. Yn debygol tua 2 seren wib yr awr, gan fod pefr isel yn yr awyr gan leihau'r cyfle o weld mwy o sêr gwib.
Mi fydd y lleuad yn 1 diwrnod oed yng nghyfnod uchafswm gweithredu sy'n golygu ychydig lleiaf o ymyrraeth.
Ffigwr 1: α (Alpha) Cawod sêr Capricornid.
Ffigwr 2: α (Alpha) Cawod sêr Capricornid.
Ar y 13eg mi fydd cawod sêr Perseid (ffigwr 3 & 4) yn cyrraedd uchafswm gweithrediad. Mi fydd rhai sêr gwib cysylltiedig a'r gawod i'w gweld hyd yr 20fed.
Mi fydd pefr i'w weld 35° uwch y gorwel Gogledd Ddwyreinol am hanner nos. Mi fydd oddeutu 46 seren wib yr awr i'w weld gan fod y befr yn uchel yn yr awyr yn golygu bod pob cyfle i'w gweld.
Y mannau gorau yw i beidio edrych ar y perf ond ar unrhyw ddarn tywyll o'r awyr oddeutu 30-40 gradd i ffwrdd. Ar y pellter yma fydd y gorau i weld cynffonau'r sêr heb fod yn rhy bell oddi wrth eu gilydd.
Ffigwr 3: Mae cawod sêr Perseid i'w weld pan fydd y Ddaear yn pasio llwch Comed Swift-Tuttle fel ddangosir yn y diagram.
Ffigwr 4: Lleoliad pefr Perseid.
Ar y 21ain mi fydd cawod sêr Cygnid yn cyrraedd uchafswm gweithredu. Mi fydd rhai sêr gwib i'w gweld pob nos rhwng Gorffennaf ag Awst.
Mi fydd perf i weld 68 gradd uwchben y gorwel Ddwyreiniol. Mi fydd oddeutu 4 seren wib i'w gweld pob awr, gan fod y berf yn uchel yn yr awyr mi fydd y siawns o'u gweld yn uchel.
Ffigwr 5: Lleoliad cawod sêr Cygnid. α (Alpha)
Mi fydd y Lleuad yn 20 diwrnod oer yn ystod uchafswm gweithredu yn dangos ymyrraeth yn yr awyr.
Y man gorau i edrych yw darn tywyll o'r awyr tua 30-40 gradd i ffwrdd o'r berf. Mi fydd cynffonau hir i'w gweld heb fod yn rhy bell o'u gilydd.
Ar y 30ain mi fydd y Lleuad ar ei phwynt agosaf yn ei orbit i'r Ddaear ac yn ymddangos ychydig yn fwy na'r arfer. (ffigwr 6).
Mae pellter y Lleuad o'r Ddaear yn amrywio am nad yw'r orbit yn gylch perffaith gan ddilyn llwybr a elwir yn elips.
Fel mae'r Lleuad yn teithio ar y llwypr eliptig yma o gwmpas y Ddaear pob mis mae ei phellter yn amrywio tua 10%, rhwng 363,000 km a 405,000 km.
Ffigwr 6: Nid yw orbit y Lleuad o gwmpas y Ddaear yn gylch ond mae'n agos iawn fel y dangosir uchod. Diagram gan Brian Koberlein.
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agos i’r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi’n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae’n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.