Awyr y Nos: Ebrill 2019

01.04.19

Mi fydd y Lleuad a Mawrth yn pasio o fewn 4°35' o'u gilydd (ffigwr 1a & 1b). Mi fydd y Lleuad yn 4 diwrnod oed. 

Mi fyddant yn weledol am oddeutu 20:21 (GMT) fel mae'r llwydnos yn pylu, 35° uwchben gorwel y Gorllewin. Mi fyddant wedyn yn symud tua'r gorwel gan fachlud 4 awr a 36 munud wedi'r Haul am 00:34. 

Ni fyddant ddigon agos i'w gweld gyda'u gilydd gyda thelesgop ond gallwch eu gweld gyda'r lygad noeth neu trwy sbienddrych.

Ffigwr 1a: Eglurdeb o'r plygiadau yn orbit y Ddaear a Mawrth.  Hawlfraint, NASA.

O gwmpas tua'r r'un amser mi fydd y ddau wrthrych yn rhannu'r r'un dyrchafiad, a elwir yn gysylltiad (ffigwr 2).

Ffigwr 1b: Llun o'r blaned Mawrth a'r Lleuad mewn cysylltiad.

Ffigwr 2: 

Mi fydd y Lleuad yn 7 diwrnod oed. I weld y cawodydd sêr edrychwch am ddarnau tywyll o'r awyr o gwmpas 30°–40° i ffwrdd o'r perfiadau.

Ffigwr 3: Cawod sêr Virginid a'r cytseriaid. 

Mae M3 mewn safle da i'w weld ar y 18fed o Ebrill gan gyrraedd y pwynt uchaf yn yr awyr am hanner nos. Mi fydd yn haws i'w weld o hemisffêr y Gogledd, yn weledol trwy'r nos o 21.42 ymlaen, 44° uwch y gorwel Ddwyreiniol. Mi fyddant yn eu colli i'r wawr am 04.44, 44° uwchben y gorwell Gorllewinol. Ni fyddant yn weledol i'r lygad ond mae posib eu gweld trwy sbienddrych neu delesgop. Mi fydd 33,900 blwyddyn golau i ffwrdd o'r Ddaear.

Ffigwr 4: M3. Hawlfraint: Mount Lemmon Sky Centre.

Cawod sêr Lyrid: 23ain o Ebrill. Mi fydd y cawodau i'w gweld o'r 19eg i'r 25ain.

Mi fyddant yn pefrio 37° uwchben y gorwel Ddwyreiniol am hanner nos. Dylid gweld oddeutu 6 cawod pob awr, a mi fydd y pefriadau yn uchel yn yr awyr a felly siawns da o'u gweld gyda'r lygad. (ffigwr 5).  

Ffigwr 5: Cawod sêr Lyrid.

Rhybudd: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agor i'r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda'ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.

Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi'n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae'n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS

Ffisegwr - Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg.

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.