Awyr y Nos - Mawrth 2017

01.03.17

Awyr y Nos ym mis Mawrth 2017

Mae’r siart ynghlwm yn dangos awyr y nos oddeutu 8pm yng nghanol y mis.

Am y misoedd diwethaf mae’r blaned Gwener wedi bod yn tra-arglwyddiaethu awyr y De Orllewin, ond yn ystod mis Mawrth bydd y blaned yn llithro’n sydyn tuag at orwel y Gorllewin. Bydd yn machlud oddeutu 1 awr wedi’r Haul erbyn yr 20fed ac yn diflannu o awyr y cyfnos rhyw bum diwrnod wedyn. Bydd yn ailymddangos yn sydyn erbyn diwedd y mis yn awyr y bore. Bydd yn codi oddeutu awr cyn yr Haul.

Cyn y diflanna o’r golwg, ymunir y blaned Gwener gan y blaned Mercher yn yr awyr Orllewinol isel. Gellir defnyddio’r blaned Gwener fwy llachar fel arwydd defnyddiol i leoli’r ymyrrwr newydd. Yn machlud rhyw 40 mun wedi’r Haul ar y 14eg Mawrth, bydd y blaned Mercher i’w gweld yn fras rhwng y gorwel a’r blaned Gwener. Oddeutu’r 20fed, bydd y blaned Mercher rhyw 7 gradd i’r chwith o’r blaned Gwener ond ar uchder tebyg o’r gorwel. Ond erbyn diwedd y mis, mae’r ddwy blaned wedi gwahanu gyda’r blaned Mercher yn machlud bron i ddwy awr wedi’r Haul. Ceir cyfle am lun diddorol o’r blaned Mercher gyda’r Lleuad fain iawn ar y 29ain o Fawrth,  gan edrych i’r Gorllewin rhyw 40 munud wedi’r Haul fachlud...os yw’r tywydd yn caniatáu!!!!

Parha’r blaned Mawrth i fod yn weladwy ychydig yn fwy i’r De o’r pâr ond mae’n dod yn llai amlwg ymysg y cefndir serol. Dim ond arlliw coch y blaned sy’n ei datgelu wrth ddefnyddio ysbienddrych a hyd yn oed telesgop. Mae’n eithaf siomedig ei gweld wedi i’r cyfle i’w gweld ar ei gorau yn y sesiwn hon fynd heibio. Mae’r flwyddyn nesaf yn addo i fod yn wych ar gyfer arsylwyr y blaned Mawrth. Mae hyn oherwydd bydd y Ddaear a’r blaned Mawrth yn mynd heibio ei gilydd yn agosach nag y maent wedi’i wneud ers 2003.

Fel y crybwyllwyd fis diwethaf, mae’r blaned Iau yn awr yn codi yn awyr y De Ddwyrain erbyn canol y cyfnos. Mae’i phedair lleuad fwyaf llachar sef Io, Ewropa, Ganymede a Calisto i’w gweld yn hawdd wrth ddefnyddio ysbienddrychau wedi’u gosod ar drybeddau wrth iddynt berfformio eu ballet cylchdroadol o amgylch y blaned. Ychydig islaw’r blaned Iau mae’r seren lachar Spica. Caiff y rhes optegol hon gwmni’r Lleuad ar y 15fed o Fawrth.

Y blaned Sadwrn yw’r blaned olaf i ymddangos y mis hwn. Mae’n weladwy yn isel yn y De Ddwyrain rhai oriau cyn i’r Haul godi. Gwnaiff ysbienddrychau wedi’u gosod ar drybeddau ond dangos awgrym o’r system gylch enwog o amgylch y blaned. Er mae hyn yn llawer gwell na beth a welir drwy delesgopau.  

Does dim llawer i edrych ymlaen ato o ran cawodydd sêr gwib y mis hwn. Ceir ond ysbeidiau arferol ac annisgwyl, yn llosgi yn eu rhuthr tanllyd drwy’n hatmosffer.

Er hynny, cadwch lygad ar orwel y Gogledd gan fod misoedd Mawrth a Medi yn “amseroedd da” yn hanesyddol ar gyfer gweithgarwch awroraidd. Er mae hyn yn dibynnu llawer iawn ar yr Haul. Mae’r Haul yn mynd drwy gylch 11 mlynedd o weithgarwch Smotiau Haul. Mae unrhyw un sy’n arsylwi’r Haul yn ddiogel yn gwybod hyn. Rydym ymhell ar ein ffordd i lawr y Lleiafswm Solar sydd i fod rhwng 2019 a 2020. Nid y gweithgarwch Smotiau Haul yw unig achos gweithgarwch awroraidd, ond mae’n cymryd rhan, felly croeswch eich bysedd. Efallai y byddwn mor lwcus ag yr oeddem y llynedd.

Bydd ein gwrthrych o ddiddordeb olaf y mis hwn hefyd yn cynnwys elfen o lwc. Comed ydyw. Mae’n un o’r gwrthrychau astronomegol eithriadol o anodd i ragfynegi pa mor llachar fyddant yn ymddangos yn awyr y nos. Y gomed dan sylw yw’r  41P Tuttle-Giacobini-Kresak ddynodedig. Cylcha’r Haul bob 5.46 mlynedd. Ar y dychweliad hwn, mae dynesiad agosaf y Gomed at yr Haul, a chyfnod lle dylai fod ar ei mwyaf llachar, yn cyd-daro bron yn union â’i dynesiad agosaf i’r Ddaear “gwta” 13.5 miliwn o filltiroedd i ffwrdd. Dylai’r Gomed fod yn weladwy gydag ysbienddrych...unwaith mae’r Lleuad allan o’r ffordd...o ganol mis Mawrth ymlaen. Ceir y posibilrwydd iddi fod yn Gomed llygad noeth oddeutu cyfnod y dynesiad agosaf ddiwrnod neu ddau bob ochr i 31ain Mawrth. Y bonws arall gyda’r dychweliad hwn yw bod y Gomed yn mynd heibio drwy ardal o’r awyr y gall bron pawb ei hadnabod, yn bennaf yr Aradr. Yn ystod yr amser hyn o’r flwyddyn mae’r Aradr yn weladwy wrth edrych tuag at yr awyr Ddwyreiniol yn y cyfnos. Saif yn unionsyth fel y dangosir yn y siart awyr ynghlwm. Nodir safle 41P bob deuddydd wrth fynd heibio’r rhanbarth hwn. Gydag ysbienddrych, dylid ei weld fel tes o olau bach niwlog. Efallai gwnaiff telesgopau a ffotograffau yn wir ddangos lliw lledwyrdd nodweddiadol sy’n gysylltiedig â chomedau. Gallent o bosib canfod cynffon i’r Gomed. Amser a ddengys o ran hynny fodd bynnag. Felly...Awyr Glir a hela da!!

Cyflenwyd gan Mid Wales Astronomy www.midwalesastronomy.cymru/

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.