Awyr y Nos - Ionawr 2017

01.01.16

Mae siartiau awyr yn dangos y sêr ar gyfer ganol mis Ionawr tua 8yh ac felly gallwn gychwyn y flwyddyn newydd gyda phlaned yn awyr y nos hefyd, er nad yw'n un hawdd i'w adnabod. Mi fydd Mercher yn ymddangos yn Ne Orllewin yr awyr yn wythnos gyntaf Ionawr, ac er y bydd yn llachar, dim ond 7° uwchben y gorwel bydd posib ei gweld ar fachlud. Mi fydd gweddill y planedau llachar i'w gweld yn awyr y bore a dyma ble mae rhan fwyaf o weithgaredd.

Mae Gwener yn disgyn yn araf bach yn awyr y bore ond mae'n parhau i fod y blaned fwyaf llachar sy'n ymddangos. Ar fore y 9fed o Ionawr, bydd cyfuniad agos rhwng Gwener a Sadwrn a byddant ⅕ o ddiamedr gweladwy y Lleuad i ffwrdd o'i gilydd. Os bydd yr awyr yn caniatau, mi fydd yn ryfeddod i'w weld trwy eich ysbienddrych neu delesgop. Y blaned lachar nesaf fydd Iau, tua 45° i'r gorllewin o Gwener. Hyd yn oed gyda phâr cyffredin o 'sbienddrych mae posib gweld hyd at 4 o loerenau yn cylchdroi'r blaned. Mawrth yw'r blaned olaf yn awyr y bore, tua hanner ffordd rhwng Gwener a Iau. Mi fydd yn goleuo yn araf dros y misoedd nesa a bydd ei liw coch yn ymddangos yn gryfach.

Edrychwch am gawod sêr y Cwadrantid yn niwrnodau cyntaf 2016, bydd posib gweld dros 70 pob awr. Mae'r uchafswm wedi ei ragfynegi i ymddangos yn oriau mân y 4ydd o Ionawr, felly gwisgwch yn gynnes a setlo tuag at gyfeiriad y dwyrain er mwyn gweld ei fwyniant.

Mi fydd Comed Catalina dal yn weladwy ond bydd angen ysbienddrych neu telesgop i'w gweld fel clwt o olau. O fewn camera, mae'n dangos lliw gwyrdd nodweddiadol, gosodwch eich lens 100mm ar gyfer amlygiad 4 eiliad ar 1600 ISO er mwyn dal yr ymwelydd. Edrychwch ar y map ar gyfer gweld lleoliad y comed pob 3 diwrnod.

Yn olaf, gallwch weld y Lleuad yn pasio heibio nifer o sêr yng nghlwstwr Hyades gyda'r nos ar y 19eg a thrwodd i fore'r 20fed.. Digon i chwilio amdano felly, gan obeithio yr gorau i chwi yn 2016 ac am awyr glir!

Cyflenwyd gan Mid Wales Astronomy www.midwalesastronomy.cymru/

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.