Awyr y Nos- Chwefror 2017

01.02.17

Awyr Chwefror 2017

Dengys y siart ynghlwm awyr y nos am oddeutu 8pm yng nghanol y mis.

Mae’r awyr dde-orllewinol yn parhau i gael ei thra-arglwyddiaethu gan y blaned Gwener. Mae’n wenfflam yn awyr y cyfnos. Mae’n weladwy am oriau wedi’r machlud. Bydd y rhai ohonoch sydd ag ysbienddrych trybedd mowntio ac sydd wedi bod yn gwylio’r blaned dros y misoedd diwethaf wedi dechrau gweld newid sylweddol yn ymddangosiad Gwener. Am y rhan fwyaf o fis Ionawr, ymddangosodd Gwener drwy ysbienddrych fel gwedd hanner lleuad, ond oherwydd effaith ein symudiad o amgylch yr Haul, bydd y wedd Weneraidd yn newid o gilgant “tew” – 40% wedi’i oleuo ar ddechrau Chwe, i gilgant llawer “teneuach” – 18% wedi’i oleuo – erbyn diwedd y mis.  

Mae’r blaned Mawrth bron â chael ei llethu gan y blaned Gwener gerllaw. Mae’n parhau i oleuo lliw coch dwl ar ochr chwith uchaf Gwener. Yn weledol mae “y tu hwnt i’w gorau” ar gyfer arsylwi ond parha’n weledol am fis neu ddau eto.

Mae’r blaned Iau, Brenin y planedau, yn dechrau dod yn haws ei gweld nawr. Erbyn canol Chwefror, mae’n codi oddeutu 11pm yn yr awyr dde-dwyreiniol. Mae ychydig uwch y seren lachar Spica. Eto, bydd y rhai hynny ag ysbienddrych neu delesgopau yn gallu gwylio “dawns” y pedair lloeren fwyaf llachar o amgylch Iau wrth iddynt gylchdroi’r blaned. Bydd telesgopau mwy yn gallu rhai o nodweddion y lathen gymylau atmosfferig.  

I’r bore-godwyr yn ein plith, bydd y blaned Sadwrn yn weledol o oddeutu 5pm yn isel yn yr awyr dde-dwyreiniol.

Prin mae rhywbeth yn digwydd o ran meteorau fis Chwefror. Mae fel arfer yn fis “distaw” gyda dim cawodydd mawr ar waith tan fis Ebrill mewn gwirionedd. Cewch feteorau ysbeidiol anrhagweladwy nawr ac yn y man. Felly mae’n werth cadw’ch llygaid yn agored. Ni wyddoch beth a welwch.

Ceir cyfle i dynnu lluniau rhwng y Lleuad a’r planedau yn ystod y mis os ydych awydd rhoi cynnig arni. Ar y 1af a’r 2il o Chwefror, bydd y Lleuad yn agos at blanedau Gwener a Mawrth. Bydd eto ar yr 28ain neu gwyliwch oddeutu’r 15fed a’r 16eg o Chwefror i ddal y Lleuad yn agos at y blaned Iau a seren Spica.

Fodd bynnag, os ydych ond yn dechrau mynegi diddordeb mewn seryddiaeth ac yn dysgu eich ffordd o amgylch yr awyr, mae mis Chwefror yn fis da iawn. Mae disgwyl i gytser llachar ac amlwg Orïon ymddangos yn y De ar amser call. Mae Orïon yn “arwyddbost” gwych i ganfod patrymau sêr neu gytser eraill yn yr awyr. Edrychwch ar y llun o Orïon isod. Lleolwch y tair seren sy’n gwneud “llathen” letraws Orïon. Dilynwch hwy i lawr ac i’r chwith ac fe ddewch ar draws y seren fwyaf llachar yn yr awyr. Hon yw Seren y Ci yng nghytser y Ci Mawr. Dilynwch sêr y llathen y ffordd groes, am i fyny ac i’r dde, ac fe gyrhaeddwch y seren goch o’r enw Llygad y Tarw yng nghytser y Tarw. O ganol y llathen, gwnewch linell yn syth ar i fyny drwy “ben” Orïon. Bron uwchben, cewch seren felynaidd yr Afr yng nghytser y Cerbydwr. Ewch â llinell o seren llathen y dde a’i hymestyn drwy Betelgeuse, y seren chwith uchaf yn Orïon. Bydd y llinell hon yn eich cyfeirio at y ddwy seren fwyaf llachar yn yr Efeilliaid, Castor a Polwcs. Yn olaf, ewch â llinell drwy’r ddwy seren ar y brig yn Orïon. Ymestynnwch hon i’r chwith a chewch Procion yng nghytser y Ci Bach.

Felly dyna chi. O wybod ond un cytser – Orïon – fe wyddoch yn awr sut i ganfod pump arall. Hon yw’r ffordd i ddysgu eich ffordd o amgylch yr awyr, gan neidio o un cytser i’r llall. Mwynhewch!

Cyflenwyd gan Mid Wales Astronomy www.midwalesastronomy.cymru/

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.