Bydd Mercher yn ymddangos am y tro olaf o'r flwyddyn. Er hyn bydd yn anodd i'w weld, ar ei orau mi fydd tua 20 gradd oddi wrth yr haul tua 5-6 gradd uwchben yr orwel i gyfeiriad y De De-Orllewin (SSW) ar yr 11fed o Ragfyr am tua awr ar ôl y machlud. Gwell edrych am Gwener a Mawrth sydd yn ymuno a lleuad gilgant rhwng y 3ydd a 5ed o Ragfyr am gyfle am lun da. Yn awyr y bore mae Iau yn dominyddu'r awyr de ddwyreiniol, ac mae'n weladwy o tua 3yb tan y wawr.
Wrth edrych am gawodydd sêr y mis yma, mae gennym eto ddwy gawod feteor yn dod i'w uchafbwynt, y 'Geminids' ar yr 13eg a 14eg a'r 'Ursids' ar yr 22ain. O'r ddau, y 'Gemenids' fydd yn fwyaf gweithredol gan bod 100 meteor bob awr yn cael ei ragfynegi. Mae'r Lleuad llawn ar y 14eg yn amharu ar ei gweld yn glir ond mi fydd 'allan o'r ffordd' erbyn yr 'Ursids'. Dyma gawodydd sydd yn cael llai o sylw nag eraill, oherwydd yr amser o'r flywyddyn mi dybiaf, ond gall gynhyrchu tua 10 meteor yr awr fydd yn weladwy trwy'r nos wrth lwc!
A drwy siarad am 'lwc', efallai bydd cyfle gweld comed tuag at ddiwedd y mis. Mae comedau yn anodd ofnadwy i'r lygad noeth eu hadnabod, ond mi fydd Comed 45P/Honda-Mrkos-Pajdusakova yn goleuo ddigon i'w gweld gyda ysbienddrych o ganol y mis ymlaen. Fodd bynnag rhaid gobeithio am orwel De Orllewinol clir er mwyn gweld yr ymwelydd nefol yma.
Beth bynnag, pob lwc gan obeithio am awyr glir!
Cyflenwyd gan Mid Wales Astronomy www.midwalesastronomy.cymru/