Rhagfyr 2017

07.12.17

Eich Canllaw I Wylio'r Sêr Mis Rhagfyr  2017...

Cewch gyfle i gael cip olwg sydyn ar y blaned Mercher, sydd i’w weld yn isel iawn yn y cyfnos ar y ddwy noson gyntaf ym mis Rhagfyr, ynghyd â’r Blaned Sadwrn y bydd ychydig o raddau uwch ei ben. Bydd y ddau cael eu colli yn llewyrch yr haul yn fuan iawn, ond mi fydd Mercher  yn weladwy unwaith eto yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr, yn y bore y tro yma. Ar ei uchaf, y bydd dim ond tua 4 gradd uwch na’r gorwel ESE am oddeutu 7y.b. ar Ragfyr 29ain.

Y Planedau allanol, Wranws a Neifion, bydd yr unig gyrff eraill i'w weld tan oriau cynnar y bore, a bydd angen cymorth ysbienddrych neu delesgop cymorth i’w ganfod. Fel y gallwch weld yn y Llun, dynnais drwy un o fy nhelesgopau, mae'n hawdd iawn i anwybyddu planedau hyn ac i gymryd yn ganiataol mai "sêr arferol” ydynt hwy. Dim ond drwy gymharu braslun o'r ardaloedd gyda map seren y byddai "dresmaswyr" yn dod i'r amlwg, neu drwy gymryd lluniau ychydig o ddyddiau oddi wrth ei gilydd a nodi pa "seren" sydd wedi symud yn ystod yr amser rhwng lluniau.

Fel y crybwyllwyd, yn gynnar yn oriau man y bore, cyn iddi wawrio,  bydd phlanedau eraill ddod yn amlwg yn yr awyr ddwyreiniol. Mae Mawrth ac Iau yn dechrau dod i’r amlwg, gyda Lleuad gilgant tenau yn gorwedd rhwng ac uwchben y pâr ar y 14eg o Ragfyr. Mae Gwener, a fyddai yn goleuo yn oriau man y bore wedi llithro yn ôl i lewyrch yr haul, ond bydd yn ailymddangos yn awyr y flwyddyn nesaf

Edrychwch allan am seren wib y mis hwn; mae gennym ddwy gawod yn dod i uchafsymiau, y Geminids ar 13-14eg a’r  Ursids (Ursa minor) ar 22ain. O’r ddau, y Geminids fydd y gawod fwyaf gweithredol o bell ffordd gyda hyd at 100 seren wib yn cael ei ragweld ac eleni, bydd y lleuad allan o'r ffordd tan tua 3y.b. Mae’r rhagolygon ar gyfer y Ursids yn well byth gyda dim ond hen leuad  4 diwrnod o gwmpas am chydig o oriau awr ar ôl machlud haul. Mae’r gawod yma yn cael ei oruchwylio braidd, oherwydd yr amser o’r flwyddyn am wn I, ond gellir cynhyrchu tua 10 seren wib yr awr. Unwaith eto, Cadwch eich llygaid yn agored, wrach gewch noson lwcus iawn!

Ar  ddiwedd y flwyddyn, ar noson y 30-31ain o Ragfyr, aiff y lleuad unwaith eto drwy'r clwstwr seren Hyades(Rhain sy’n creu'r siâp "V"  sydd i weld yn glwstwr y Tarw). Bydd nifer o sêr disglair yn pasio ar ei hôl hi (neu ‘occulted’ i ddefnyddio term cywir) yn ystod y nos, gan gynnwys y seren ddisgleiriaf yng nghlwstwr y Tarw, yr Aldebaran coch.

Wel, dyna chi. Pob lwc, awyr glir a dymuniadau gorau oll ar gyfer y Nadolig a'r flwyddyn newydd i chi i gyd.

Diolch anferthol I Les Fry am yr holl wybodaeth :)  

Bethan,

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.