Awyr Mis Awst

05.09.18

Cawod llwybr sêr gwib Perseid 2018:

Beth yw llwybr cawod sêr gwib Perseid?

Cawod sêr Perseid yw un o'r un mwyaf bywiog a llachar yn y flwyddyn. Mae'n digwydd ym mis Gorffennaf ac Awst yn hemisffer y Gogledd gan ei wneud yn un o gawodydd mwyaf poblogaidd yr haf. Mae'r brig yn digwydd o gwmpas y 12fed i'r 13eg o Awst. Mi fydd cawodydd yn cychwyn ar Orffennaf y 17eg ac yn parhau nes 24ain o Awst.

Mewn ardaloedd tywyll gwledig mae'r Perseid yn weledol a gall gyrraedd graddfa o 50-100 seren wib pob awr. Mae'r sêr gwib yma yn eithaf cyflym gan dorri trwy atmosffer y ddaear ar gyflymder o 37.5 milltir yr awr, ond yn adnabyddus am adael trwydd ar eu holau sy'n weledol am ychydig o amser.

Mae cawod sêr Perseid yn deillio o Gomed Swift-Tuttle. Y Perseid oedd y gawod sêr gyntaf i'w cael eu cysylltu gyda chomed pan nododd yr astrolegydd Giovanni Schiaparelli bod tebygrwydd rhwng yr orbit a Chomed Swift-Tuttle yn 1862.  

Mae ffigwr 1 islaw yn dangos uchafbwyntiau 2018 llwybr cawod sêr gwib Perseids.

Mae ffigwr 3 yn dangos seren wib yn symud trwy awyr y nos. Mae'r cynffon o olau i'w weld ar noson glir pan fydd y seren yn llosgi allan oherwydd ffrithiant pan fydd yn pasio trwy atmosffer uwch y Ddaear.

Ffigwr 1 :-

Ffigwr 2 :-

Ffigwr 3 :-

Mae arsylwadau eraill o gawod sêr ym mis Awst yn rhan o gawodydd yr Afr (ffigwr 4/5), mi fydd yn cyrraedd yr uchafswm o symudiadau ar Awst 2il. Mi fydd sêr gwib sy'n rhan o'r gawod yma i'w gweld i'r lygad rhwng 15fed o Orffennaf a 20fed o Awst.

Ffigwr 4 :-

Ffigwr 5 :-

Cafodd y gawod ei chreu o gwmpas 3,000 i 5,000 o flynyddoedd yn nôl pan rannwyd y Comed 169P/NEAT i ddau. Cafodd y gawod sêr ei ddarganfod gan y seryddwr Hwngaraidd, Miklos von Konkoly-Thege yn 1871. 

Mae'r lleuad (ffigwr 6) ar ei bwynt agosaf ar Awst 10fed. Mae'r pellter o'r Ddaear yn amrywio am nad yw'r orbit yn berffaith grwn, ond ychydig yn fwy ar siap hirgrwn gan ddilyn llinell a elwir yn elips,

Ffigwr 6 :- Ffigwr 7 :-

Ar yr 11fed o Awst mi fydd y Lleuad yn pasio o flaen yr Haul gan greu eclips solar rhannol. Ni fydd yr aliniad yn union a ni fydd yr un man ar y ddaear yn gweld eclips llawn. 

Mi fydd llwybr yr eclips yn pasio trwy amryw o wledydd gan gynnwys:

Gwlad

Ehangder yr eclips

Rwsia

Gorchudd yr haul 68% 

Canada

Gorchudd yr haul 60% 

Yr Ynys Las

Gorchudd yr haul 48% 

Tseina

Gorchudd yr haul 45% 

Svalbard a Jan Mayen

Gorchudd yr haul 40% 

Norwy

Gorchudd yr haul 37% 

Mongolia

Gorchudd yr haul 36% 

O'r DU mi fydd yr Haul ar uchafswm eclips o 2%. Peidiwch byth a cheisio edrych yn uniongyrchol ar yr haul gyda'r llygad noeth. Dylid defnyddio offer pwrpasol ar gyfer hyn, os nad ydych yn sicr, gwiriwch gyda arbenigwr. 

Ar Awst 14eg mi fydd Messier 15 (M15) a elwir hefynd yn Glwstwr Mawr Pegasws (ffigwr 8/9) i'w weld. Mae 33,600 blwyddyn golau i ffwrdd o'r Ddaear. Mi fydd clwstwr sêr i'w weld yn agos i'w gilydd.

Ffigwr 8 :-

I'r lygad noeth mae'n anodd gweld M15 ond gall ei weld trwy sbienddrych neu delesgop. Gellir ei ganfod rhwng Pegasws ac Y Dyfrwr (Aquarius) rhwng gorwel y De Ddwyrain a'r De Orllewin.

Ar 15fed o Awst mi fydd clwstwr M2 (NGC 7089) yn Y Dyfrwr  i'w weld yn dda. Mi fydd yn cyrraedd y rhan uchaf o'r awyr oddeutu hanner nos ac yn weladwy rhan fwyaf o'r nos. Mae M2 yn eithaf gwan, mae posib ei weld gyda'r lygad noeth ond mi fydd yn haws gyda sbienddrych neu delesgop.

Ffigwr 9 :-

Mi fydd y gawod sêr a-Cygnid (ffigwr 10) yn weithredol ar 21ain o Awst. Mi fydd rhai sêr gwib sy'n gysylltiedig a'r gawod yn weledol o Goffennaf i Awst, dylai bod 4 cawod yr awr i'w gweld fry yn yr awyr sydd yn gwneud y siawns o'u gweld gyda'r lygad yn well. 

Ffigwr 10 :-

Hyd yn hyn, nid yw tarddiad y gawod α–Cygnid wedi ei ddarganfod.

Er mwyn cymhorthi gweld yr amrywiaeth o wrthrychau yn yr awyr, defnyddiwch feddalwedd Stellarium sydd ar gael ar y wefan. 

Planedau

Gwener (ffigwr 11) Gall ei weld yn isel yn y gorllewin ac yn suddo wrth i'r mis fynd yn ei flaen, mi fydd yn adlewyrchu rhai pelydrau o'r haul ac felly gwell cyfle i'w weld. Mae Gwener yn symud tuag at Spica fel ai mis Awst yn ei flaen. Dyw ond deg gradd yn uwch na gorwel y Gorllewin wedi machlud.

Ffigwr 11 :-

Y blaned Iau yn dangos ychydig o strwythur cymylau.

Iau (ffigwr 12) gall ei ganfod wedi machlud ar ddechrau'r mis gan ddefnyddio telesgop bychan, ond yn anffodus mi fydd yr atmosffer yn amharu ar yr olygfa wrth iddo symud yn nes at y Glorian.

Ffigwr  12 :- Delwedd Cassini o'r blaned Iau, NASA

Sadwrn (ffigwr 13), mi roedd y blaned wedi ei chyfosod ar y 27ain o Mehefin felly mi fydd i'w gweld i'r de ar ddyrchafiad o ~15 gradd ar ôl machlud haul ar ddechrau mis Awst. Mi fydd ei disgleirdeb yn pylu wrth i'r mis fynd yn ei blaen. Yn anffodus mi fydd yr atmosffer yn amharu ar yr olygfa eto.

Ffigwr 13 :- Y blaned Sadwrn. Cassini - NASA

Mercher (ffigwr 14), Wrth basio rhwng y Ddaear a'r Haul (cysylltiad israddol) ar Awst 9fed, mae'n dod yn weledol ar ôl yr 20fed cyn cyrraedd pellter mwyaf i'r dwyrain o'r Haul ar y 26ain.

Ffigwr 14 :- Delwedd Messenger o blaned Mercher Nasa

Mawrth (ffigwr 15), mi fydd yn symud tuag at yr Afr yn y gorllewin wrth iddo fod ar ei agosaf i'r Ddaear ers 2003 ar Orffennaf 30/31ain. Mi fydd yn codi ar ddechrau'r mis ac ar ei ddisgleiria yng nghanol y mis cyn dechrau pylu erbyn y diwedd.

Ym mis Gorffennaf mi wnaeth storm llwch guddio llawer o'r arwyneb, os bydd hyn yn parhau mi fydd lleihad amlwg ar welediad. 

Ffigwr 15 :-

Delwedd Telesgop Gofod Hubble o'r blaned Mawrth.
Jim Bell et al. AURA / STScI / NASA

Mark R Smith FRAS

Ffisegwr

Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.