Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei ddynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o’r gwarchodfeydd hudol hyn sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Ar ôl cael ei dynodi gyda theitl mor nodedig, mae Eryri bellach yn gobeithio nid yn unig i amddiffyn yr amgylchedd a gwella bioamrywiaeth ac awyr dywyll yr ardal, ond hefyd i ymuno gyda phartneriaid yng Nghymru i fynd gam ymhellach na’r dynodiadau eraill yn y byd a chodi ymwybyddiaeth o'r nodweddion sy'n cysylltu’r sêr o’n diwylliant, o'r Mabinogi i'r hen benillion.

Dim ond newydd ddechrau y mae’r daith o ddarganfod a gwerthfawrogi’r sêr, ac mae Eryri yn dymuno gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol i gynnal ansawdd yr awyr dywyll sydd gennym yn Eryri. Mae digonedd o gyfleoedd i syllu ar y sêr ac edmygu awyr y nos o odre mynyddoedd Eryri...... .. Beth am ddod i brofi'r awyr dywyll drosoch chi eich hun?