Ar yr ochr blanedol, Gwener yw'r oleuaf ohonynt, i'w gweld yn isel yn awyr y De Orllewin, am tua 11/2 awr ar ôl machlud haul, er cei ei amharu gan olau'r dywynu'r cyfnos. Os ydych yn chwilio am sialens tua'r ail neu drydydd o Dachwedd, a bod awyr isel y De Orllewin yn amlwg, chwiliwch am Gwener tua 40 munud ar ôl y machlud. Unwaith yr ydych wedi canfod y blaned, edrychwch fymryn yn uwch ac ychydig raddau i'r dde a dylwch gael cipolwg ar Sadwrn a lleuad gilgant. Ar y trydydd o Dachwedd, mi fydd y lleuad ychydig o raddau i'r chwith o'r llinell blanedol, ond mae'n parhau i fod yn gyfle da am lun. Hwn hefyd yw'r cyfle olaf i weld Sadwrn am y flwyddyn gan y bydd llacharedd solar yn ei gwneud yn anweledol o hyn ymlaen.
Wrtj edrych tua'r De, mae'r Lleuad yn ymuno gyda Mawrth ar y 6ed, cyfle am lun arall felly! Am yr ychydig fisoedd nesaf, mi fydd Mawrth i'w gweld yn yr awyr Dde De-Orllewinol (SSW) ond bydd yn ysgafnu yn weledol wrth i'r pellter rhwng y Ddaear a Mawrth gynyddu. Fel yn y misoedd cynt, er mwyn gallu gweld Wranws a Iau, bydd rhaid defnyddio telesgob neu ysbienddrych cryf, ac hyd yn oed wedyn dim ond disg gwyrddlas ysgafn fydd yn weledol. Rwyf wedi bod yn dilyn y Cewri Nwy yma gyda fy nhelesgop dros y misoedd diwethaf a tynnu ychydig o luniau trwy fy Schmidt Cassegrain 10”.
I'r rhai sy'n codi yn fore, edrychwch tua'r dwyrain de-ddwyrain (ESE) o tua 4 y.b. ymlaen ac mi welwch olau, sef y blaned Iau, yn tynnu i ffwrdd o'r Haul yn awyr y bore.
Edrychwch am gawodydd sêr mis yma, mae gennym rhai fydd ar eu gorau, cawod sêr 'Taurid' ar y 12fed a 'Leonid' ar yr 17eg. Er mi fydd lleuad llawn yn boddi llawer oni bai am y rhai disgleiria'. Mi fydd y 'Leonid' i'w gweld ar eu gorau yn yr oriau mân, cawod sydd yn adnabyddus am eu arddangosfa tebyg i sdorm. Mae'r rhain yn digwydd pob rhyw 33 mlynedd wrth i'r ddaear dreiddio drwy ran fwy trwchus o'r gofod, ond nid ydynt yn debygol o arddangos ar eu goraf eto am rhyw 18 mlynedd arall. Cadwch lygad ar yr awyr a gobeithio am y gorau felly!
Awyr glir tan mis nesa!
Cyflenwyd gan Mid Wales Astronomy www.midwalesastronomy.cymru/