Awyr Y Nos: Medi 2021

31.08.21

1af: Cawod sêr Aurigid (ffigwr 1), yn weithredol o’r 28ain o Awst hyd y 5ed o Fedi, bydd y nifer mwyaf o feteorau ar y 1af o Fedi. Bydd y pwynt pelydrol yng nghytser Auriga. Yn weithredol drwy gydol y nos a bydd yr arddangosfeydd gorau cyn i’r wawr dorri. Dylai ei bod yn bosib gweld 6 meteor yr awr, a bydd ganddynt gyflymder o 66 cilomedr yr eiliad. Y corff cychwynnol sydd yn gyfrifol am y gawod Aurigid yw comed C/1911 N1 (Kiess)

Ffigwr 1.

9fed: Epsilon (e) Cawod sêr Perseid (ffigwr 2 & 3) yn weithredol o’r 5ed hyd yr 21ain gan gynhyrchu’r mwyaf o feteorau ar y 9fed. Wedi ei leoli yng nghytser Perseus. Bydd yr arddangosfeydd gorau cyn i’r wawr dorri, Ar uchafbwynt yr arddangosfa dylai ei bod yn bosib gweld 5 meteor yr awr, yn teithio tua 64 cilomedr yr eiliad.

Ffigwr 2

Ffigwr 3

17eg:  Bydd cysylltiad y Lleuad a Sadwrn yng nghytser yr Afr (ffigwr 4/5). Bydd yn weledol tua 19:50 (Amser Haf Prydain), uwch y gorwel i’r De Ddwyrain fel mae hi’n nosi. Yn cyrraedd ei bwynt uchaf am 22:10 uwch y gorwel i’r De. Bydd yn weledol hyd tua 01:20 pan fydd yn symud uwch y gorwel i’r De Orllewin. Bydd Sadwrn 1382 miliwn cilomedr o’r Ddaear a bydd y Lleuad 378331 cilomedr o’r Ddaear. Hefyd, bydd y Lleuad a Sadwrn yn dynesu’n agos at ei gilydd. Mae’r cydgysylltiad yma’n disgrifio’r ymddangosiad dau gorff wybrennol fel eu bod yn ymddangos yn agos i’w gilydd yn yr awyr wrth edrych arnynt o gorff arall (Y Ddaear).

Ffigwr 4

Ffigwr 5

18fed: Cysylltiad y Lleuad ac Iau yng nghytser yr Afr (ffigwr 6). Yn weledol tua 19:50 (Amser Haf Prydain) uwch y gorwel i’r De Ddwyrain fel mae hi’n nosi. Bydd yn cyrraedd ei uchafbwynt am 23:10 uwch y gorwel i’r De. Bydd yn weledol tan tua 02:50 uwch y gorwel i’r De Orllewin. Bydd Iau 619 miliwn cilomedr i ffwrdd o’r Ddaear a bydd y Lleuad 381367 cilomedr o’r Ddaear. Bydd y ddau hefyd mewn dynesiad agos.

Ffigwr 6

21ain: Lleuad lawn (ffigwr 7), yn weledol y rhan fwyaf o’r noson gan godi fel mae hi’n nosi ac yn machlud yn y wawr. Bydd tua 392000 cilomedr o’r Ddaear.

Ffigwr 7

22ain: Cyhydnos Medi (ffigwr 8/9) yn dynodi diwrnod cyntaf yr Hydref yn hemisffer y Gogledd.

Ffigwr 8: Yr adeg pan mae’r Haul yn ymddangos i groesi’r cyhydedd wybrennol wrth fynd tua’r De.

Ffigwr 9

27ain: Uchafbwynt cawod sêr Secstant yng nghytser Secstant (ffigwr 10/11). Yn weledol cyn 04:55 bob nos pan fydd y pwynt pelydrol yn codi uwch y gorwel i’r Dwyrain. Bydd yn aros yn weithredol hyd y wawr. Bydd posib gweld hyd at 5 meteor bob awr yn teithio 32 cilomedr yr eiliad.

Ffigwr 10

Ffigwr 11

29ain: Y Lleuad ar ei chwarter olaf (ffigwr 12). Yn weledol yn  awyr y bore ac yn codi am 22:35 (Amser Haf Prydain) uwch y gorwel i’r De cyn pylu o’r golwg fel mae’r wawr yn torri tua 06:55. Yn y cyfnod yma yn y gylchred fisol mae’n ymddangos bron yn union yn hanner oleuedig. Bydd 400027 cilomedr o’r Ddaear.

Ffigwr 12

RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.

Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.

Mark R Smith FRAS FRi

Ffisegwr

Ymasiad Ffiseg Niwclear

Astroffiseg

Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn...

Syllu ar y Sêr

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Gweithgareddau

Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.

Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.

Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.

Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.

Project NOS

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.