18fed: Cyswllt y Lleuad â Mawrth (ffigwr 1). Bydd y Lleuad a Mawrth yn dynesu’n agos at eu gilydd. Byddant yn weledol o 18:00 (GMT) uwchben y gorwel Deheuol fel mae hi’n nosi, gan ddiflannu tua 01:35. Yn weledol i’r llygad noeth, ond gall eu gweld yn well drwy ddefnyddio ysbienddrych neu delesgop. Bydd y ddau yng nghytser yr Hwrdd (ffigwr 2).
Ffigwr 1. Cyswllt y Lleuad a Mawrth
Bydd y Lleuad 399529 cilomedr o’r ddaear, tra bydd Mawrth 204 miliwn cilomedr o’r Ddaear.
Ffigwr 2. Bydd y Lleuad a Mawrth wedi eu lleoli hanner ffordd rhwng yr Hwrdd a’r Tarw.
19eg: Bydd y lleuad yn ei chwarter cyntaf (ffigwr 3). Bydd yn glir iawn yn yr awyr pan yn nosi. Yn weledol o 18:00 (GMT) uwch y gorwel Deheuol, ac yn cyrraedd y pwynt uchaf tua 18:15. Bydd yn weledol tan 01:05. Bydd yn ymddangos yn hanner oleuedig yn cyfnod yma yn ei gylchdro misol. Bydd y Lleuad yng Nghytser y Tarw, a tua 397982 o’r Ddaear.
Ffigwr 3. Y Lleuad yn ei chwarter cyntaf
Dros y dyddiau dilynol, bydd y Lleuad yn machlud yn hwyrach bob dydd, ac yn dod yn fwy gweledol am yn hirach yn ystod y nos. Ni fydd yn uchel iawn uwch y gorwel Dwyreiniol cyn iddi nosi. Erbyn iddo gyrraedd ei gyfnod llawn, bydd yn weledol am y rhan fwyaf o’r nos, yn codi tua’r amser mae’n tywyllu ac yn machlud ar y wawr.
24ain: Bydd Mercher yn cyrraedd ei bwynt uchaf yn y bore (ffigwr 4). Hefyd, bydd ar ei bwynt uchaf yn ystod ei ymddangosiad Chwefror/ Mawrth 2021, ond ni fydd yn ymddangos yn llachar. Ni fydd yn ymddangosiad amlwg, felly bydd yn sialens i’w weld. Bydd yr uchafbwynt mewn uchder tua 7 gradd uwch y gorwel yn ystod y wawr ar y 25ain. Bydd Mercher 118.8 miliwn cilomedr o’r Ddaear.
Ffigwr 4. Mercher yn cyrraedd ei bwynt uchaf yn awyr y bore.
27ain: Lleuad Lawn, bron yn union gyferbyn a’r haul, ac yn ei roi yn uchel uwch y gorwel am y rhan fwyaf o’r nos. Mae rhediad y Lleuad lawn drwy’r flwyddyn yn aml yn cael enwau yn ôl y tymor. Mae Lleuad llawn mis Chwefror y trydydd yng Ngaeaf 2021 sef Lleuad y Grawys (ffigwr 5/6). Yn ystod nosweithiau ar ôl y 27ain, bydd y Lleuad yn codi tuag awr yn hwyrach bob dydd, gan ddod yn weladwy iawn yn hwyrach yn y nos. Dros ychydig ddyddiau, bydd ond yn amlwg cyn y wawr ac yn gynnar yn y bore. Pan mae’n cyrraedd ei chwarter olaf, wythnos wedi’r Lleuad lawn, bydd yn codi tua chanol nos ac yn machlud tua chanol dydd.
Bydd y Lleuad tua 366920 cilomedr o’r Ddaear a bydd yng nghytser y Llew (ffigwr 7)
Ffigwr 5: Lleuad Lawn
Ffigwr 6: Cyfnodau’r Lleuad, gyda Lleuad lawn.
Ffigwr 7: Cytser y Llew
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy ysbienddrych neu delesgop ar rywbeth sydd yn agos i’r haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael ei dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Bydd y feddalwedd Stellarium yn gymorth gwych i gael hyd i wrthrychau yn yr awyr. Mae’n declyn da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr:
Ymasiad Ffiseg Niwclear
Astroffiseg.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.