Ffigwr 1: Lleuad yn ei chwarter cyntaf.
Ar y 9fed mi fydd y Lleuad yn cyrraedd ei faint llawn (ffigwr 2). Adeg yma yn ei chylch misol mae'r Lleuad yn gorwedd bron yn syth ar draws o'r Lleuad sy'n ei gosod yn uchel yn yr awyr am y rhan fwyaf o'r nos.
Mi fydd lleuad llawn Chwefror yn anghyffredin oherwydd ei bod yn digwydd pan fydd ar ei agosaf i'r Ddaear hefyd. Mae hyn yn golygu bydd y lleuad yn ymddangos ychydig yn fwy ac llachar na adegau eraill, fodd bynnag ni fydd hyn yn amlwg i'r lygad noeth. Dyw hyn ond yn digwydd unwaith bob oddeutu 13 mis.
Mae dilyniant lleuadau llawn gydol y flwyddyn wedi eu henwi ar ôl y tymhorau. Ym mis Chwefror fydd yr ail leuad llawn a elwir Lleuad y Blaidd.
Ffigwr 2: Lleuad llawn.
Dros y nosweithiau ar ôl 9fed o Chwefror mi fydd y Lleuad yn codi awr yn hwyrach bob dydd yn amlygu ei hun yn hwyrach yn y nos. O fewn ychydig ddyddiau mi fydd ond yn weledol yn awyr y wawr ac awyr y bore. Erbyn cyrraedd ei chwarter olaf, wythnos ar ôl y lleuad llawn, mi fydd yn codi oddeutu hanner nos ac yn machlud am hanner dydd.
Ar y 27ain mi fydd cysylltiad rhwng y Lleuad a Gwener (ffigwr 3). Mi fydd y Lleuad a Gwener yn rhannu yr un ddyrchafiad gyda'r Lleuad yn pasio 6°15' i'r De o Gwener. Mi fydd y Lleuad yn 4 diwrnod oed.
Yn weladwy am 18:12 GMT fel mae'r cyfnos yn pylu 33° gradd uwch y gorwel De Orllewinol. Mi fyddent yn gostwng tua'r gorwel ac yn machlud am 22:04. Mi fyddent wedi eu lleoli yng nghytser Y Pysgod.
Ffigwr 3: Cysylltiad y Lleuad a Gwener.
RHYBUDD: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agos i’r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda’ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi’n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae’n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Ffisegwr
Ffiseg Ymasiad Niwclear
Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.