Mae'r Ddaear ar ei agosaf i'r Haul tua pythefnos ar ôl Alban Arthan (Ffigwr 1).
Ffigwr 1: Perihelion.
Mae'r Ddaear yn cylchdroi'r Haul mewn llwybr eliptig sy'n golygu bod un pwynt o'r llwybr pan mae'r Haul ar ei agosaf i'r Ddaear a pwynt pan mae bellach i ffwrdd.
Mae siap ei lwybr yn dilyn tyniad disgyrchiant gwrthrychau planedol, yn enwedig y Lleuad.
Argyfartaledd rhywdro bob 100,000 mlynedd mae llwybr orbit y Ddaear yn newid o fod bron yn gylchol i fod yn eliptig.
Mae'r Perihelion yng Nghymru ar Ddydd Iau, 3 Ionawr 2019, 05:19 GMT.
Mae cawod sêr Quadrantis (ffigwr 2) yn cyrraedd uchafswm cyfradd o weithgaredd ar y 3ydd a 4ydd o Ionawr ond mi ddylai'r gawod sêr fod yn weledol rhwng y 1af a'r 6ed.
Gan obeithio bod yr amodau yn glir (awyr dywyll) mi ddylai 25 cawod sêr fod yn weledol pob awr. Fe all bod uchafswm o 60 pob awr.
Mae'r Quadrantids yn gysylltiedig ag asteroid 2003 EH1 (ffigwr 3). Mae gan yr asteroid gylchdro 5 mlynedd o gwmpas yr Haul.
Mae'r gawod yn cael ei enw o gytser Quadran Muralis sydd bellach yn rhan o Boötes.
Ffigwr 2: Quadrantids radiant.
Ffigwr 3: Orbit EH1. AU = Uned Astronomeg (Pellter yr Haul a'r Ddaear).
Ar 21ain o Ionawr mi fydd diffyg llawn ar y Lleuad (ffigwr 4 a 5), adnabyddir fel Lleuad Goch ('blood moon'), mae'n weledol yn oriau buan y bore. Roedd y diffyg llawn diwethaf ar Orffennaf 27, 2018.
Yn y DU mi fydd hi'n bosib gweld pob darn o'r diffyg (eclips) os ydych yn fodlon aros i fyny trwy;r nos! Mae'r Lleuad yn llithro i gysgod y Ddaear ychydig ar ol 2.30y.b. a mae'r diffyg llawn yn digwydd ychydig cyn 5.15 y.b. Mae'r diffyg cyfan yn parhau dros 5 awr gan orffen am 7.48y.b.
Ffigwr 4: Lleuad Goch 'Blood Moon' – Diffyg llawn ar y lleuad
Mae lliw y Lleuad yn ddibynol ar gyfaint y llwch sy'n atmosffer y Ddaear - gall fod yn goch neu weithiau bron yn anweladwy.
Mae llwch yn yr atmosffer yn gallu rhwystro tonnau golau glas y lleuad ond daw'r rhai coch trwodd.
Mae diffyg llawn yn digwydd pan fydd y Lleuad yn mynd heibio'r Ddaear ac i'w gysgod. Dyw hyn ond yn digwydd pan fydd yr Haul, y Ddaear a'r Lleuad mewn llinnell syth.
Ffigwr 5: Ddiffyg llawn ar y lleuad
Rhybudd: Peidiwch byth a cheisio edrych drwy sbienddrych neu delesgop ar rhywbeth sydd yn agor i'r Haul. Peidiwch byth chwaith a cheisio edrych ar yr haul gyda'ch llygad, gallwch gael eich dallu o ganlyniad. Defnyddiwch offer pwrpasol bob tro.
Mi fydd meddalwedd Stellarium yn cymhorthi'n wych er mwyn lleoli gwrthrychau yn yr awyr, mae'n declun da ar gyfer seryddiaeth hefyd.
Blwyddyn Newydd Dda i holl wylwyr y gofod.
Ffisgegwr
Ymasiad Niwclear ac Astroffiseg
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Mae awyr dywyll rhyfeddol y Parciau Cenedlaethol yn darparu amgylchiadau perffaith er mwyn gwylio’r planedau, y lleuad a’r sêr gydol y flwyddyn.
Parc Cenedlaethol Eryri yw'r ail ardal yng Nghymru i gael ei dynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Dim ond deuddeg o warchodfeydd o’r fath sydd yn y byd, ac ar noson glir yn Eryri gallwch weld y Llwybr Llaethog, yr holl brif gytserau, nifylau (cymylau llachar o nwy a llwch) a sêr gwib.
Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwclis o safleoedd darganfod awyr dywyll. Mae gan arfordir gwyllt a garw a chefn gwlad Sir Benfro fantais o rai o'r cyfleoedd awyr dywyll gorau yn y wlad, lle mae'n bosibl syllu ar y Llwybr Llaethog neu gytserau fel Orion gyda'r llygad noeth.
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ennill statws rhyngwladol Awyr Dywyll. Yn ymestyn o'r ffin â Lloegr i bellafoedd sir Gaerfyrddin ac o Gymoedd y De i’r Canolbarth, mae llawer o gyfleoedd i weld peth o'r awyr dywyllaf yn y DU yn ein tirwedd hardd ac amrywiol.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.
Creuwch eich gwyliau 24/7 unigryw eich hun. Profwch anturiaethau epig o doriad gwawr tan y cyfnos yn nhawelwch, ysblander ac unigedd tirweddau rhyfeddol Cymru.